Collection

Canllawiau ar gadw gwartheg, buail a byfflos ym Mhrydain Fawr

Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n gyfrifol am wartheg neu anifeiliaid buchol eraill ddilyn y rheolau a'r gweithdrefnau sy'n berthnasol i bob ceidwad gwartheg.

Ystyr ceidwad gwartheg yw unigolyn sy’n gyfrifol am wartheg, buail neu fyfflos ar sail barhaol neu dros dro. Mewn canllawiau swyddogol, mae’r term ‘gwartheg’ bob amser yn cynnwys y tair rhywogaeth.

Mae ceidwaid gwartheg yn cynnwys:

  • ffermwyr
  • pobl sy’n rhedeg marchnadoedd da byw a chanolfannau cynnull lloi
  • cludwyr
  • delwyr sy’n cadw anifeiliaid
  • pobl sy’n rhedeg lladd-dai a llociau

Ceir cyfreithiau manwl yn nodi’r tasgau y mae’n rhaid i geidwaid gwartheg eu cyflawni, cyn iddynt gymryd cyfrifoldeb dros anifeiliaid ac unwaith y bydd yr anifeiliaid o dan eu gofal.

Beth i’w wneud cyn y gallwch gadw gwartheg

Er mwyn cadw gwartheg, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

Beth y mae’n rhaid i chi ei wneud pan fyddwch yn cadw gwartheg

Unwaith y byddwch yn gyfrifol am anifeiliaid, mae’n rhaid i chi ddilyn y gweithdrefnau priodol ar gyfer:

  • nodi anifeiliaid a chadw cofnodion
  • rhoi gwybod am ddigwyddiadau penodol (genedigaethau, symudiadau, marwolaethau, ac anifeiliaid a aiff ar goll neu a gaiff eu dwyn) i GSGP

Rheoliadau perthnasol

Yn Lloegr, y rheoliadau ar adnabod gwartheg yw Rheoliadau Adnabod Gwartheg 2007, fel y’u diwygiwyd gan Reoliad Sgil-gynhyrchion Iechyd Anifeiliaid (Gorfodi) Lloegr (OS 2013/295) a Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Diwygio) 2013 (OS 2013/295).

Ceir rheoliadau ar wahân i Gymru a’r Alban.

Rhoi gwybod am ddigwyddiadau o fewn eich buches a'u cofnodi

Published 22 July 2014