Cofrestru partner, nad yw’n unigolyn, ar gyfer Hunanasesiad
Defnyddiwch ffurflen SA402 i gofrestru partner newydd, nad yw’n unigolyn (er enghraifft, cwmni neu ymddiriedolaeth), ar gyfer Hunanasesiad.
Gallwch gofrestru partner, nad yw’n unigolyn, ar gyfer Hunanasesiad gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein. Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, gallwch gofrestru drwy anfon ffurflen bost at CThEF.
Dylai’r person sy’n gyfrifol am y partner, er enghraifft, yr ymddiriedolwr neu ysgrifennydd y cwmni, lenwi’r ffurflen.
Cofrestru ar-lein
Bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Dynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn cofrestru.
Cofrestru drwy’r post
Os na allwch gofrestru ar-lein, gallwch gofrestru drwy’r post.
Gallwch wneud un o’r canlynol:
- llenwi fersiwn digidol o’r ffurflen ar-lein, a’i hargraffu
- llenwi fersiwn PDF o’r ffurflen ar y sgrin, a’i hargraffu
- argraffu fersiwn PDF o’r ffurflen, ac wedyn ei llenwi ar bapur
Bydd angen i chi anfon eich ffurflen, wedi’i llenwi, drwy’r post at CThEF.
Llenwi fersiwn digidol o’r ffurflen ar-lein
-
Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw’ch cynnydd.
-
Cofrestrwch gan ddefnyddio’r ffurflen ‘Cofrestru partner, nad yw’n unigolyn, ar gyfer Hunanasesiad’ ar-lein.
-
Argraffwch y ffurflen a’i hanfon drwy’r post at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.
Os nad yw’r ffurflen yn agor, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrin). Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhowch wybod i ni y fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
Llenwi fersiwn PDF o’r ffurflen
Gallwch wneud un o’r canlynol:
- argraffu’r ffurflen a’i llenwi ar bapur
- llenwi’r ffurflen ar y sgrin, ac wedyn ei hargraffu
Ar ôl llenwi’r ffurflen, bydd angen i chi ei hanfon drwy’r post at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.
To complete the form on-screen you need to:
I lenwi’r ffurflen ar y sgrin, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- Lawrlwytho’r ffurflen a’i chadw ar eich cyfrifiadur.
- Agor y ffurflen gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader (yn agor tudalen Saesneg) sy’n rhad ac am ddim.
- Llenwi’r ffurflen ar y sgrin.
Efallai na fydd yn gweithio os byddwch yn ceisio agor y ffurflen yn eich porwr rhyngrwyd. Os nad yw’r ffurflen yn agor, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Ar ôl i chi gofrestru
Fel arfer, byddwn yn cysylltu â chi cyn pen 21 diwrnod i’r dyddiad y daw eich ffurflen i law, ond gall hyn gymryd yn hirach yn ystod cyfnodau prysur.
Os gwnaethoch gofrestru ar-lein, mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) yn gynt drwy ddefnyddio ap CThEF neu’ch cyfrif treth busnes.
Os na fyddwn wedi cysylltu â chi ar ôl 3 wythnos, gallwch wirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb.
Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig
Defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod i CThEF eich bod yn rhoi awdurdodiad i rywun weithredu ar eich rhan ar gyfer materion treth busnes neu’ch materion treth unigol chi.