Canllawiau

Cefnogaeth a gwybodaeth recriwtio i gyflogwyr

Gwybodaeth ac arweiniad i gyflogwyr fydd yn recriwtio.

This guidance was withdrawn on

This page has been withdrawn because it is out of date. Find out about how Jobcentre Plus can help employers.

Ffynonellau o wybodaeth a chefnogaeth

Magnifying glass over man in a suit

Cewch arweiniad a chefnogaeth recriwtio gan y Ganolfan Byd Gwaith.

Defnyddiwch y canllaw cam wrth gam i weld beth rydych angen ei wneud i gyflogi rhywun i weithio i chi.

Hysbysebwch a rheolwch eich swyddi gwag ar y gwasanaeth ‘Dod o hyd i swydd’.

Mae’r Rhaglen Academi Gwaith yn Seiliedig ar Sector (SWAPs) yn Lloegr a’r Alban yn cynnig profiad gwaith, hyfforddiant a chyfweliad gwarantedig ar gyfer swydd fyw i helpu pobl ddi-waith i symud i sectorau â blaenoriaeth, fel adeiladu, seilwaith a gofal cymdeithasol. Os ydych am gymryd rhan, darganfyddwch fwy am sut y gall SWAP eich helpu i ddod o hyd i ymgeiswyr ar gyfer eich swyddi gwag. Cofiwch, ni chodir tâl.

Os oes gan un o’ch gweithwyr neu rywun rydych yn ei recriwtio anabledd neu gyflwr iechyd tymor hir efallai y byddant yn gallu cael cymorth gan Mynediad at Waith.

Os ydych angen help ychwanegol i lenwi swyddi gwag yna efallai bydd eich partner cyflogaeth dan gontract DWP lleol yn gallu cynnig cefnogaeth.

Am gefnogaeth gyda recriwtio yn yr Alban, mae Our Skills Force yn darparu gwybodaeth am hyfforddiant staff, cyllid a Phrentisiaethau.

Cyfweld o belll

Rebecca Fielding yw Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Gradconsult, ac yma mae’n darparu ei awgrymiadau gorau ar gyfer recriwtio a chynnwys rhithiwr.

Prif argymhellion am recriwtio a chynnwys rhithiwr

Sgiliau trosglwyddiadwy

Wrth recriwtio, edrychwch bob amser ar sgiliau trosglwyddadwy’r ymgeisydd ac nid dim ond eu hanes gwaith. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar hyn o bryd gan y bydd angen i lawer o bobl symud o un sector i’r llall. Gwnewch yn siŵr nad yw eich hysbysebion yn nodi profiad hanfodol sy’n rhy gul neu y gallwch yn anfwriadol eithrio gweithwyr a allai fod yn rhai da. Gall rhai o’r sgiliau maent wedi’u hennill mewn cyflogaeth flaenorol fod yn ddefnyddiol mewn ystod o alwedigaethau, er enghraifft mae sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a TG yn tueddu i fod yn ddefnyddiol mewn sawl rôl.

Cyhoeddwyd ar 13 August 2020