Canllawiau

Rheolau pensiwn i elusennau

Cewch wybod yma pryd y bydd rhaid i chi ddechrau gwneud cyfraniadau pensiwn ar gyfer staff eich elusen a faint y bydd rhaid i chi dalu.

This guidance was withdrawn on

This page has been replaced by a newer version. Go to workplace pensions.

Applies to England and Wales

Trefniadau pensiwn newydd

Newidiodd rheolau pensiwn y gweithle yn Hydref 2012 a bydd rhaid i bob cyflogwr, gan gynnwys elusennau, weithredu.

Os yw’ch elusen yn cyflogi staff, bydd rhaid i chi gofrestru pob un o’ch gweithwyr cymwys ar gynllun pensiwn a gwneud cyfraniad tuag ato. Os ydych chi’n cyflogi llai na 50 o staff, gallwch chi ddewis gwneud hyn rhwng 1 Awst 2015 ac 1 Ebrill 2017.

Gweithwyr cymwys

Mae gweithwyr a gyflogir ac sy’n derbyn tâl gan yr elusen am y gwaith a wnânt yn gymwys i gael pensiynau os ydynt:

  • yn ennill mwy na’r isafswm cyflog presennol
  • rhwng 22 oed ac oedran pensiwn y wladwriaeth
  • gweithio yn y DU

Mae ‘gweithwyr’ yn cynnwys contractwyr a staff asiantaeth, yn ogystal â phobl sy’n gweithio dan brentisiaeth. Nid yw gwirfoddolwyr a staff digyflog yn gymwys.

Eich cyfraniad chi a beth mae’n rhaid i chi ei wneud

Fel cyflogwr mae’n rhaid i chi gyfrannu o leiaf 3% o enillion eich gweithwyr at gynllun pensiwn, a’r gweithwyr sy’n talu’n gweddill. Rhaid i gyfanswm y cyfraniad fod yn 8% o leiaf o enillion pob gweithiwr.

Bydd y Rheoleiddiwr Pensiynau yn rhoi dyddiad llwyfannu i bob cyflogwr pan fydd rhaid iddynt roi’r trefniadau newydd yn eu lle. Gall elusennau sydd â llai na 50 o staff ddewis symud eu dyddiad llwyfannau i ddyddiad rhwng 1 Awst 2015 ac 1 Ebrill 2017.

Y prif bethau y mae’n rhaid i chi ei wneud yw:

Cynlluniau pensiwn presennol

Os ydych chi eisoes yn gweithredu cynllun, bydd rhaid i chi wneud yn siŵr ei fod yn:

Gwnewch yn siŵr eich bod chi a’r ymddiriedolwyr eraill yn trafod ac yn cytuno ar unrhyw newidiadau y mae angen eu gwneud i’ch cynllun pensiwn presennol.

Bydd nifer o gynlluniau pensiwn elusennau yn bodloni’r gofynion newydd ac yn gymwys. Os nad yw’ch cynllun presennol yn gymwys yna mae’n bosib y byddwch yn gallu gwneud rhai newidiadau a bod yn gymwys cyn eich dyddiad llwyfannu.

Cyhoeddwyd ar 23 May 2013