Canllawiau

Staff elusennau: sut i gyflogi gweithwyr am dâl

Dilynwch y cyfreithiau cyflogaeth a chynlluniwch ar gyfer risgiau pan fyddwch yn cyflogi gweithwyr am dâl yn eich elusen.

Applies to England and Wales

Sut i gael hyd i staff elusennau

Bydd nifer o elusennau yn hysbysebu eu swyddi gwag ar-lein neu mewn papurau newydd. Cewch gyngor ar y broses recriwtio (gan gynnwys ysgrifennu swydd-ddisgrifiadau) gan KnowHow NotProfit:

Dilynwch y gyfraith cyflogaeth

Os ydych yn cyflogi pobl, mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol o’r cyfreithiau cyflogaeth a chydymffurfio â nhw, gan gynnwys:

Os yw’ch elusen yn gweithio gyda phlant neu oedolion agored i niwed mae’n rhaid i chi gymryd camau i’w diogelu rhag niwed.

Sut i reoli pobl eich elusen

Gall elusennau wynebu nifer o broblemau gwahanol o’i gymharu â’r cyflogwr cyffredin. Er enghraifft, mae’n rhaid i chi:

Gosodwch gyfrifoldebau clir i weithwyr ac ymddiriedolwyr

Pan fydd eich elusen yn tyfu, gall newid o fod yn elusen sy’n cael ei rhedeg gan ymddiriedolwyr yn bennaf i un sy’n cael ei rhedeg gan staff yn bennaf. Gall hon fod yn adeg anodd i elusennau, wrth i waith a chyfrifoldebau gael eu trosglwyddo. Ceisiwch osgoi anghydfodau a chamreoli drwy osod rolau a chyfrifoldebau clir, yn enwedig rhwng:

  • y gwaith o lywodraethu’r elusen (beth mae’ch bwrdd ymddiriedolwyr yn ei wneud)
  • y gwaith o reoli’r elusen o ddydd i ddydd (beth mae’ch uwch reolwyr a staff yn ei wneud)
Cyhoeddwyd ar 10 May 2013