Anghytundebau ac anghydfodau o fewn elusennau
Datrys anghydfodau rhwng ymddiriedolwyr, staff neu aelodau eich elusen er mwyn osgoi rhoi arian a defnyddwyr eich elusen mewn perygl.
Applies to England and Wales
Pam mae anghydfodau mewnol yn broblem
Weithiau bydd ymddiriedolwyr elusen, staff ac aelodau yn anghytuno â’i gilydd ynghylch penderfyniadau am yr elusen.
Gall anghytundeb difrifol o fewn elusen achosi problemau i’r elusen a niweidio ei henw da.
Eich cyfrifoldeb chi fel ymddiriedolwyr yw ceisio datrys anghytundeb neu anghydfod. Gall y Comisiwn Elusennau weithredu mewn amgylchiadau eithriadol yn unig.
Sut i ddatrys anghydfod eich hun
Gall dogfen lywodraethol eich elusen gynnwys ‘cymal anghydfodau’ gyda gweithdrefnau ar gyfer delio ag anghydfod. Hyd yn oed os nad yw, dylech wneud popeth a allwch i ddod i gytundeb eich hunain.
Pryd i gael cymorth allanol
Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr elusen ac aelodau gydweithio i ddatrys unrhyw anghytuno sydd rhyngddynt. Os na all eich ymddiriedolwyr ddod i gytundeb a dilyn y cyfarwyddiadau yn eich dogfen lywodraethol, efallai y bydd rhaid i chi geisio ychydig o gymorth allanol annibynnol.
Bydd trydydd parti annibynnol yn edrych ar y ddwy ochr ac yn cynnig rhai ffyrdd newydd o ddatrys yr anghydfod.
Os yw’r anghydfod yn ymwneud â’r ffordd y mae’ch elusen yn cael ei rhedeg, gallech:
- gysylltu â chorff cenedlaethol neu gorff mantell yr elusen, os oes un ganddi
- cysylltu â sefydliad megis y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS)
- gofyn i arweinydd eglwys lleol neu hynafgwr cymunedol am gymorth, os yw’n anghydfod crefyddol
Cyfryngu
Mae cyfryngu yn ffordd fwy ffurfiol o ddatrys anghydfodau. Mae’n broses breifat a chyfrinachol lle mae unigolyn annibynnol yn cwrdd â’r ddwy ochr, ac yn eu helpu i gael hyd i ateb sy’n dderbyniol i bawb.
Gall cyfryngu fod yn gyflym ac yn gost-effeithiol. Drwy gyfryngu, mae’n rhaid i’r ddwy ochr gytuno i unrhyw ateb, felly mae’n fwy tebygol o fod yn gytundeb sy’n para.
Os yw’ch anghydfod yn mynd i’r llys, disgwylir i chi fod wedi rhoi cynnig ar gyfryngu yn gyntaf.
Mae gan y Y Weinyddiaeth Gyfiawnder rwydwaith o gyfryngwyr.
Pryd i gynnwys y comisiwn
Gall y comisiwn ymwneud ag anghydfodau mewnol dim ond:
- os nad oes unrhyw ymddiriedolwyr (neu ymddiriedolwyr wedi’u penodi’n gywir) yn eu swydd, a
- gallwch ddangos bod pob ymdrech i ddatrys yr anghydfod wedi methu
Mae’n rhaid i unrhyw ymddiriedolwyr fod wedi cael eu penodi drwy ddilyn y cyfarwyddiadau yn nogfen lywodraethol eich elusen. Os nad oes unrhyw ymddiriedolwyr wedi’u penodi’n briodol gennych chi, gall y comisiwn weithredu i’ch helpu i gael corff llawn o ymddiriedolwyr.
Os yw’r comisiwn yn gweld tystiolaeth o gamymddygiad neu gamreoli sy’n rhoi arian a defnyddwyr eich elusen mewn perygl, bydd yn gweithredu ac yn rhoi cyngor a chyfarwyddyd.
Hyd yn oed ar ôl i’r comisiwn weithredu, mae’n rhaid i’ch ymddiriedolwyr gydweithio i gael hyd i ateb. Os yw’r comisiwn yn meddwl na fydd modd datrys yr anghydfod, gall dynnu ei gymorth yn ôl neu hyd yn oed gyfarwyddo’ch elusen i atal gweithredu a dirwyn i ben.
Pryd na fydd y comisiwn yn gweithredu
Ni fydd y comisiwn yn gweithredu os yw’ch anghydfod yn ymwneud â phenderfyniadau neu bolisïau ymddiriedolwyr. Mae ymddiriedolwyr yn rhydd i wneud penderfyniadau ar gyfer eu helusen, ar yr amod eu bod yn gweithredu o fewn y gyfraith ac o fewn rheolau dogfen lywodraethol yr elusen.
Gall fod sefydliadau eraill sydd mewn sefyllfa well i weithredu mewn rhai anghydfodau arbennig. Er enghraifft, gwnewch gais i dribiwnlys cyflogaeth ar gyfer materion cyflogaeth gan gynnwys diswyddo annheg.
Cysylltwch â’r comisiwn dim ond os yw pob ymgais i ddatrys y mater wedi methu ac nid oes unrhyw ymddiriedolwyr wedi’u penodi’n briodol gennych chi. Bydd rhaid i chi roi tystiolaeth ysgrifenedig am yr anghydfod.