Skip to main content
Canllawiau

Talu’r TAW sy’n ddyledus ar eich Ffurflen TAW y Gwasanaeth Un Cam o ran Mewnforio

Sut i dalu’r TAW sy’n ddyledus ar eich Ffurflen TAW y Gwasanaeth Un Cam o ran Mewnforio (GUC Mewnforio) a faint o amser mae’n ei gymryd i’ch taliad ddod i law CThEF.

Cyn i chi dalu’ch Ffurflen TAW y Gwasanaeth Un Cam o ran Mewnforio (GUC Mewnforio), dylech ddysgu sut i gyflwyno’ch Ffurflen TAW, a pha gofnodion y mae’n rhaid i chi eu cadw (yn agor tudalen Saesneg).

Pryd i dalu

Gallwch dalu’r TAW sy’n ddyledus ar eich Ffurflen TAW drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein:

  • pan fyddwch yn cyflwyno’r Ffurflen TAW

  • yn nes ymlaen — ar yr amod y bydd y TAW wedi’i thalu’n llawn erbyn diwrnod olaf y mis, yn dilyn diwedd y cyfnod treth misol

Os bydd y dyddiad cau ar y penwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith blaenorol.

Os ydych yn methu dyddiad cau ar gyfer talu

Os byddwch yn methu’r dyddiad cau ar gyfer talu am 3 chyfnod treth yn olynol, byddwch yn cael eich eithrio rhag y cynllun. Mae hyn yn golygu bydd eich cofrestriad yn cael ei ganslo’n awtomatig. Mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu cosb, llog, neu’r ddau.

Bydd yr eithriad hwn yn dod i rym ar y diwrnod cyntaf yn dilyn y penderfyniad i’ch eithrio, a bydd yr eithriad yn parhau am o leiaf 2 flynedd.

Os ydych yn anghytuno â’r eithriad

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad CThEF o ran cael eich eithrio rhag y cynllun, gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • gwneud cais am adolygiad

  • apelio ar y tribiwnlys treth

Dysgwch am yr hyn i’w wneud os ydych yn anghytuno â phenderfyniad treth anuniongyrchol.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen eich rhif adnabod GUC Mewnforio TAW arnoch, sy’n 12 digid.

Gallwch ddod o hyd i hwn ar eich tystysgrif cofrestru ar gyfer GUC Mewnforio.

Os ydych yn defnyddio cyfeirnod anghywir, bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu’n gywir.

Talu ar-lein 

Gallwch ddefnyddio un o’r dulliau canlynol i dalu ar-lein:

  • cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein
  • cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol 

Talu nawr

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).

Gallwch hefyd wneud taliadau a bwrw golwg dros eich hanes talu drwy gael mynediad at y cynllun GUC Mewnforio TAW drwy’ch cyfrif treth busnes CThEF.

Mewngofnodwch i’ch cyfrif treth busnes.

Talu ar-lein drwy’ch cyfrif banc

Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif bancio ar-lein — gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn i dalu drwy gyfrif banc.

Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein, neu’ch cyfrif bancio symudol, i gymeradwyo’ch taliad.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.

Gallwch ddewis dyddiad talu, cyn belled â’i fod cyn dyddiad dyledus eich taliad.

Bydd yn rhaid i chi gysylltu â’ch banc i sicrhau bod y taliad wedi gadael eich cyfrif ar y dyddiad talu a ddewiswyd gennych.

Talu ar-lein â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Gallwch wneud taliad yn llawn ar-lein drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol. Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os byddwch yn defnyddio cerdyn debyd neu gredyd corfforaethol. Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol. 

Bydd eich taliad yn cael ei dderbyn ar y dyddiad y byddwch yn ei wneud, ac nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc).

Mae’n rhaid i chi sicrhau bod y manylion rydych wedi’u nodi’n cyd-fynd â’r manylion sydd gan eich banc neu ddarparwr y cerdyn. Er enghraifft, dylai’r cyfeiriad bilio gyd-fynd â’r cyfeiriad y mae’ch cerdyn wedi’i gofrestru iddo ar hyn o bryd.

Talu drwy drosglwyddiad banc

Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, gallwch gyflwyno’ch taliad ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod nesaf.

Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu ac uchafswm y terfynau trosglwyddo a osodir gan eich banc cyn i chi dalu.

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:

  • cod didoli — 08-32-00 
  • rhif y cyfrif — 12001047 
  • enw’r cyfrif — HMRC VAT ON E

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor 

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor: 

  • rhif y cyfrif (IBAN) — GB34 BARC 2005 1710 7534 91
  • Cod Adnabod y Busnes (BIC) — BARCGB22
  • enw’r cyfrif — HMRC VAT ON E

Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad mewn punnoedd sterling (GBP). Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.

Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:

Barclays Bank plc
1 Churchill Place 
London 
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP 

Help a chymorth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch sut i dalu’ch Ffurflen TAW y Gwasanaeth Un Cam o ran Mewnforio, e-bostiwch: paymentteam.moss@hmrc.gov.uk.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 Medi 2026 Show all updates
  1. A Welsh translation has been added.

  2. The section ‘If you miss a payment deadline’ has been added.

  3. The service is available to pay the VAT due on your Import One Stop Shop VAT Return.

  4. First published.

Argraffu'r dudalen hon