Talu Tollau Stamp ar gyfranddaliadau
Sut i dalu’ch Tollau Stamp, a faint o amser mae’n ei gymryd i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Telir Tollau Stamp ar gyfranddaliadau wedi’u prynu ar ffurflen trosglwyddo stoc.
Nid yw hyn yr un peth â thalu:
-
Treth Tollau Stamp Wrth Gefn — sy’n cael ei thalu ar brynu cyfranddaliadau yn ddi-bapur
-
Treth Dir y Tollau Stamp — pan brynir neu trosglwyddir eiddo
Pryd i dalu
Y dyddiad cau ar gyfer talu Tollau Stamp (yn agor tudalen Saesneg) a chael dogfennau trosglwyddo stoc i CThEF yw dim hwyrach na 30 diwrnod ar ôl iddynt gael eu dyddio a’u llofnodi.
Os bydd y dyddiad cau ar y penwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith blaenorol.
Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad cau, efallai y bydd angen i chi dalu cosb, llog, neu’r ddau (yn agor tudalen Saesneg).
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Mae angen i chi ddarparu cyfeirnod y taliad fel y gallwn adnabod eich taliad. Dylai’r cyfeirnod hwn gynnwys eich enw a swm y taliad (er enghraifft, JBrown240.00).
Os ydych yn gyfreithiwr neu’n ymgynghorydd sy’n gwneud taliad ar ran eich cleient, gallwch ddefnyddio cyfeirnod eich cleient neu rif y mater fel cyfeirnod y taliad.
Os ydych yn defnyddio cyfeirnod anghywir, bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu’n gywir.
Talu drwy drosglwyddiad banc
Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, gallwch gyflwyno’ch taliad ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod nesaf.
Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Cyn i chi dalu, rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu’ch banc a’i derfynau o ran trafodion mwyaf.
Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:
-
cod didoli — 08 32 10
-
rhif y cyfrif — 12001098
-
enw’r cyfrif — HMRC Birmingham Stamp Office
Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:
-
rhif y cyfrif (IBAN) — GB02 BARC 2011 4773 6185 95
-
Cod Adnabod y Busnes (BIC) — BARCGB22
-
enw’r cyfrif — HMRC Birmingham Stamp Office
Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad mewn punnoedd sterling (GBP). Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.
Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:
Barclays Bank plc
1 Churchill Place
London
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP
Peidiwch â phostio taliad siec atom. Os na allwch dalu’n electronig, dylech gysylltu â ni (yn agor tudalen Saesneg).
Ar ôl i chi dalu
Bydd angen i chi anfon eich hysbysiad Tollau Stamp atom drwy e-bost.
Os nad ydych wedi cyflwyno’ch hysbysiad Tollau Stamp drwy e-bost o’r blaen
Dylech fod yn ymwybodol a derbyn bod risgiau wrth ddefnyddio e-bost. Mae risgiau posibl yn cynnwys:
-
gellir rhyng-gipio negeseuon e-bost a anfonir dros y rhyngrwyd neu rwydwaith anniogel arall
-
gellir rhyng-gipio, darllen a newid negeseuon e-bost heb eu hamgryptio
-
dim gwarant nad yw negeseuon e-bost heb eu hamgryptio a ddaeth i law dros rwydwaith anniogel wedi cael eu newid
-
gwe-rwydo, dynwared a meddalwedd faleisus a allai gynnwys cod maleisus
-
efallai na fydd negeseuon e-bost a anfonir dros y rhyngrwyd byth yn cyrraedd, ac efallai na fydd yr anfonwr na’r derbynnydd yn ymwybodol o hyn
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fwy cyffredinol am ein gweithdrefnau diogelu data a pholisi yn Hysbysiad Preifatrwydd CThEF.
Yr hyn y mae angen i chi ei wneud
Anfonwch eich e-bost at stampdutymailbox@hmrc.gov.uk.
Dylai’ch e-bost gynnwys y canlynol:
-
y cyfeirnod talu
-
swm y taliad
-
dyddiad y taliad
-
copi electronig (er enghraifft, PDF wedi’i sganio) o’ch:
- ffurflen trosglwyddo stoc wedi’i llofnodi a’i dyddio
- offeryn trosglwyddo
- ffurflen SH03 (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer dychwelyd pryniant cyfranddaliadau’ch hun
Defnyddiwch bŵer atwrnai os oes angen.
Byddwn yn derbyn e-lofnodion.
Os nad yw’ch ffurflen trosglwyddo stoc neu offeryn trosglwyddo yn eu cynnwys, bydd angen i chi hefyd roi manylion am y canlynol:
-
enw’r cwmni y mae ei gyfranddaliadau’n cael eu trosglwyddo
-
cyfranddaliadau sy’n cael eu trosglwyddo gan gynnwys dyddiad y trosglwyddiad
-
partïon i’r trafodiad
-
swm y gydnabyddiaeth
Os na allwch gyflwyno’ch hysbysiad yn electronig
Mae’n rhaid i chi gynnwys eich manylion cyswllt wrth gyflwyno drwy’r post. Gallwch bostio’ch hysbysiad i:
BT — Stamp Duty
HM Revenue and Customs
BX9 2AS
Y Deyrnas Unedig
Dylai cludwyr ddefnyddio cyfeiriad gwahanol (yn agor tudalen Saesneg).
Ni ddylech bostio copïau gwreiddiol o ddogfennau i’r cyfeiriadau hyn, gan na fyddwn yn eu cadw na’u dychwelyd atoch.
Unwaith y byddwn wedi cael eich hysbysiad, byddwn yn gwneud y canlynol:
-
cysylltu â chi os oes gennym gwestiynau
-
anfon llythyr cadarnhau atoch
Updates to this page
-
A Welsh translation has been added.
-
We have updated the post code for postal submissions and enquiries for Stamp Duty.
-
Information about the risks of using email and an alternative postal address for notifications has been added.
-
Bank details have been updated if you're paying from a UK bank account.
-
Temporary measures have been put in place to stop the spread of coronavirus (COVID-19) - you must now pay Stamp Duty electronically by Faster Payment, Bacs or CHAPS, and send transaction details to HMRC by email rather than post.
-
Information about what payment references to use and overseas payment details have been added.
-
First published.