Skip to main content
Canllawiau

Talu Toll Fetio Cyffredinol, Toll Cronfa Fetio neu Doll Hapchwarae o Bell

Sut i dalu Toll Fetio Cyffredinol, Toll Cronfa Fetio neu Doll Hapchwarae o Bell a faint o amser mae’n ei gymryd i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut a phryd i dalu Toll Fetio Cyffredinol, Toll Cronfa Fetio neu Doll Hapchwarae o Bell a’r hyn sydd i’w wneud os oes gennych ddim byd i’w dalu.

Pryd i dalu

Mae gennych 4 cyfnod cyfrifyddu’r flwyddyn.

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch datganiad Toll Hapchwarae o Bell (yn agor tudalen Saesneg) a thalu unrhyw doll sy’n ddyledus cyn pen 30 diwrnod ar ôl diwedd pob cyfnod cyfrifyddu.

Os oes gennych drwydded gweithredu o bell gan y Comisiwn Hapchwarae, dylech hefyd gyflwyno datganiadau ar gyfer y Doll Fetio Cyffredinol a’r Doll Cronfa Fetio.

Os bydd y dyddiad cau ar y penwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith blaenorol.

Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad cau, efallai y bydd angen i chi dalu cosb, llog, neu’r ddau.

Yr hyn sydd ei angen arnoch

Bydd angen eich cyfeirnod arnoch, sy’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.

Gallwch ddod o hyd i hwn drwy fewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEF gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth.

Os ydych yn defnyddio cyfeirnod anghywir, bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu’n gywir.

Talu ar-lein

Gallwch ddefnyddio un o’r dulliau canlynol i dalu ar-lein:

  • cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein

  • cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Talu nawr

Talu ar-lein drwy’ch cyfrif banc

Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif bancio ar-lein gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn i dalu drwy gyfrif banc.

Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein, neu’r cyfrif bancio ar eich ffôn symudol, i gymeradwyo’ch taliad.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.

Talu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Gallwch wneud taliad yn llawn ar-lein drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol. Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os byddwch yn defnyddio cerdyn debyd neu gredyd corfforaethol. Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Bydd eich taliad yn cael ei dderbyn gennym ar y dyddiad y byddwch yn ei wneud, ac nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc).

Mae’n rhaid i chi sicrhau bod y manylion rydych wedi’u nodi’n cyd-fynd â’r rheini sydd gan eich banc neu ddarparwr y cerdyn. Er enghraifft, dylai’r cyfeiriad bilio gyd-fynd â’r cyfeiriad y mae’ch cerdyn wedi’i gofrestru iddo ar hyn o bryd.

Talu drwy drosglwyddiad banc

Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, bydd eich taliad yn ein cyrraedd ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod gwaith nesaf.

Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Cyn i chi dalu, rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu’ch banc a’i derfynau o ran trafodion mwyaf.

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:

  • cod didoli — 08 32 10

  • rhif y cyfrif — 12001020

  • enw’r cyfrif — HMRC Shipley

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:

  • rhif y cyfrif (IBAN) — GB03 BARC 2011 4783 9776 92

  • Cod Adnabod y Busnes (BIC) — BARCGB22

  • enw’r cyfrif — HMRC Shipley

Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad mewn punnoedd sterling. Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.

Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:

Barclays Bank plc
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP

Talu â siec

Sicrhewch y bydd eich taliad yn cyrraedd CThEF cyn y dyddiad cau.

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’, ac ysgrifennwch eich cyfeirnod ar y cefn.

Peidiwch â phlygu’r siec na’i glynu wrth unrhyw bapurau eraill.

Gallwch gynnwys llythyr i ofyn am dderbynneb.

Anfonwch eich siec i:

HM Revenue and Customs
Direct
BX5 5BD
United Kingdom

Os oes gennych ddim byd i’w dalu

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth i CThEF hyd yn oed os ydych wedi cyfrifo bod gennych ddim byd i’w dalu, neu fod ad-daliad yn ddyledus i chi.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 3 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Mai 2026 show all updates
  1. A Welsh translation has been added.

  2. The 'What you'll need' section has been updated with information on how to find your 14 character charge reference number.

  3. You need your 14 character charge reference number starting with X to pay General Betting, Pool Betting or Remote Gaming Duty.

  4. Information about approving a payment through your online bank account has been added.

  5. Cheque payment details updated.

  6. Information about a non-refundable fee for corporate debit cards being introduced from the 1 November 2020 has been added.

  7. First published.

Argraffu'r dudalen hon