Canllawiau

Talu am fewnforion a ddatganwyd gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau

Sut i dalu’r hyn sydd arnoch os ydych wedi defnyddio’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau i roi gwybod i CThEF eich bod wedi mewnforio nwyddau i’r DU.

Pryd i dalu

Os ydych wedi defnyddio’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau i wneud datganiad am nwyddau rydych wedi eu mewnforio i’r DU, gallwch dalu’r hyn sydd arnoch ar y nwyddau ar unwaith.

Os bydd y dyddiad cau ar y penwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith blaenorol.

Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad cau, efallai y bydd angen i chi dalu cosb, llog, neu’r ddau.

Yr hyn sydd ei angen arnoch

Bydd angen eich cyfeirnod arnoch, sy’n 16 o gymeriadau ac yn dechrau gyda ‘CDSI’. Byddwch wedi cael eich cyfeirnod pan wnaethoch eich datganiad.

Byddwch yn cael cyfeirnod gwahanol ar gyfer pob datganiad a wnewch gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi’r cyfeirnod CDSI llawn, a’i bod yn gywir.

Os ydych yn defnyddio cyfeirnod anghywir, bydd oedi wrth glirio’ch nwyddau.

Talu ar-lein

Gallwch ddefnyddio un o’r dulliau canlynol i dalu ar-lein:

  • cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein

  • cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Talu nawr

Talu ar-lein drwy’ch cyfrif banc

Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif bancio ar-lein – gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn i dalu drwy gyfrif banc.

Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein, neu’r cyfrif bancio ar eich ffôn symudol, i gymeradwyo’ch taliad.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.

Talu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Gallwch wneud taliad yn llawn ar-lein drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol. Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os byddwch yn defnyddio cerdyn debyd neu gredyd corfforaethol. Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Bydd eich taliad yn cael ei dderbyn gennym ar y dyddiad y byddwch yn ei wneud, ac nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc).

Mae’n rhaid i chi sicrhau bod y manylion rydych wedi’u nodi’n cyd-fynd â’r rheini sydd gan eich banc neu ddarparwr y cerdyn. Er enghraifft, dylai’r cyfeiriad bilio gyd-fynd â’r cyfeiriad y mae’ch cerdyn wedi’i gofrestru iddo ar hyn o bryd.

Talu drwy drosglwyddiad banc

Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, gallwch gyflwyno’ch taliad ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod nesaf.

Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Cyn i chi dalu, rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu’ch banc a’i derfynau o ran trafodion mwyaf.

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:

  • cod didoli — 08 32 10

  • rhif y cyfrif — 14077970

  • enw’r cyfrif — HMRC Customs Duty Schemes

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:

  • rhif y cyfrif (IBAN) — GB16 BARC 2005 1723 3725 45

  • Cod Adnabod y Busnes (BIC) — BARCGB22

  • enw’r cyfrif — HMRC Customs Duty Schemes

Dylech wneud pob taliad dramor mewn punnoedd sterling (GBP). Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.

Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP

Talu â siec

Dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’, ac ysgrifennwch eich cyfeirnod ar y cefn.

Mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich siec wedi’i gwarantu (drwy gael ei hardystio gan unigolyn neu fanc) neu mae’n bosibl y bydd oedi wrth glirio’ch nwyddau.

Peidiwch â phlygu’r siec na’i glynu wrth unrhyw bapurau eraill.

Gallwch gynnwys llythyr i ofyn am dderbynneb.

Anfonwch eich siec i:

HM Revenue & Customs
CDS Accounting
5th floor
Three New Bailey
New Bailey Street
Salford
M3 5FS

Cael help a rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Ganolfan Clirio Genedlaethol (yn agor tudalen Saesneg) os yw un o’r canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych yn cael trafferth wrth wneud taliad

  • mae angen cymorth neu gyngor arnoch

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Mai 2026 show all updates
  1. A Welsh translation has been added.

  2. The bank account details for paying by bank transfer have been updated.

  3. If you're paying by cheque, you must make sure that your cheque is guaranteed (by individual bank endorsement) or there may be a delay in the clearance of your goods.

  4. Information about Customs Handling of Import and Export Freight (CHIEF) has been removed. You can no longer use CHIEF for import declarations unless you have permission from HMRC.

  5. The account details to pay for imports declared using the Customs Declaration Service have been updated.

  6. The ‘How to pay’ section has been updated. The address to send your cheque to has changed to: HM Revenue & Customs, CDS Accounting, 5th floor, Three New Bailey, New Bailey Street, Salford, M3 5FS.

  7. Information about approving a payment through your online bank account has been added.

  8. The address to send cheque payments to has been updated.

  9. First published.

Argraffu'r dudalen hon