Canllawiau

Troseddau sy’n ymwneud ag incwm, asedion a gweithgareddau alltraeth

Dysgwch rhagor o wybodaeth am y troseddau sy’n ymwneud ag incwm, asedion a gweithgareddau alltraeth, a beth all ddigwydd os cewch eich dyfarnu’n euog.

Mae tair trosedd sy’n ymwneud ag incwm, asedion a gweithgareddau alltraeth. Cawsant eu cyflwyno yn adran 166, Deddf Cyllid 2016, ac maent yn berthnasol o 6 Ebrill 2017 ymlaen.

Mae incwm, asedion neu weithgareddau alltraeth yn un neu fwy o’r canlynol:

  • incwm sy’n deillio o ffynhonnell mewn tiriogaeth y tu allan i’r DU
  • asedion sydd wedi’u lleoli neu sy’n cael eu cadw mewn tiriogaeth y tu allan i’r DU
  • gweithgareddau a gynhelir yn gyfan gwbl, neu’n bennaf, mewn tiriogaeth y tu allan i’r DU

Mae’r troseddau’n berthnasol os ydych yn methu â datgan incwm neu enillion alltraeth, ac mae hyn yn arwain at fwy na £25,000 o dreth sy’n ddyledus. Does dim rhaid cael tystiolaeth o fwriad.

Beth yw’r troseddau

Mae’n drosedd os ydych:

  • yn methu â rhoi gwybod i CThEF eich bod yn agored i dreth incwm neu dreth enillion cyfalaf erbyn diwedd y cyfnod hysbysu — mae hyn fel arfer yn dod i ben 6 mis ar ôl diwedd y flwyddyn dreth
  • yn methu â chyflwyno Ffurflen Dreth cyn diwedd y cyfnod ymadael — mae hyn fel arfer yn dod i ben 2 flynedd ar ôl diwedd y flwyddyn dreth
  • yn cyflwyno Ffurflen Dreth anghywir, nad yw wedi’i chywiro erbyn diwedd y cyfnod diwygio — mae hyn fel arfer yn dod i ben ar yr ail 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth

Os na chaiff y Ffurflen Dreth ei hanfon atoch tan ar ôl 31 Hydref, mae gennych dri mis o’r dyddiad anfon i gyflwyno’r Ffurflen Dreth. Mae gennych 12 mis arall i ddiwygio’r Ffurflen Dreth.

Nid yw’r troseddau hyn yn berthnasol os:

  • yw’r dreth ychwanegol sy’n ddyledus yn £25,000 neu lai
  • ydych yn rhoi gwybod i CThEF am eich incwm neu enillion alltraeth o dan y Safon Adrodd Gyffredin (CRS)

Os ydych o’r farn bod gennych amddiffyniad

Bydd gennych amddiffyniad yn erbyn y troseddau hyn os byddwch yn profi:

  • bod gennych esgus rhesymol dros beidio â rhoi gwybod i CThEF
  • bod gennych esgus rhesymol dros beidio â chyflwyno’r Ffurflen Dreth
  • eich bod wedi cymryd gofal rhesymol i sicrhau bod y Ffurflen Dreth yn gywir ac yn gyflawn

Os ydych yn honni bod gennych esgus rhesymol neu wedi cymryd gofal rhesymol (yn Saesneg), bydd y llysoedd yn ystyried eich amgylchiadau, gallu, gwybodaeth a phrofiad.

Beth all ddigwydd os cewch eich dyfarnu’n euog

Os cewch eich dyfarnu’n euog o unrhyw un o’r troseddau hyn, gall y llysoedd ynadon yng Nghymru a Lloegr osod dedfryd o garchar hyd at 51 wythnos a dirwy ddiderfyn.

Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, gallech gael dedfryd o garchar hyd at 6 mis a dirwy hyd at £5,000.

CThEF sy’n penderfynu a ddylid cychwyn ymchwiliad troseddol yn unol â’n polisi ymchwiliadau troseddol (yn Saesneg).

Sut i roi trefn ar eich materion treth

Dylech roi gwybod i CThEF am eich incwm a’ch enillion alltraeth ar bapur, drwy e-bost neu ar eich Ffurflen Dreth. Dysgwch rhagor o wybodaeth am Ffurflenni Treth Hunanasesiad.

Gall unrhyw un sydd am ddatgelu rhwymedigaeth treth yn y DU, sy’n ymwneud â mater alltraeth, ddefnyddio’r Cyfleuster Datgelu Byd-eang (yn Saesneg).

Cyhoeddwyd ar 16 March 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 September 2023 + show all updates
  1. The length of a custodial sentence you could get in England and Wales if you're convicted of a criminal offence relating to offshore income, assets and activities has changed from 51 weeks to 6 months.

  2. Added translation.

  3. Guidance has been updated to reflect the custodial sentence in England and Wales, which can be up to 51 weeks. These offences do not require proof of intent. They do not apply if your offshore income or gains are reported to HMRC under the Common Report Standard (CRS).

  4. First published.