Canllawiau

Taliad untro newydd o £500 i aelwydydd sy’n gweithio ac sy’n cael credydau treth

Dysgu rhagor am y cynllun cymorth yn sgil coronafeirws (COVID-19) ar gyfer aelwydydd sy’n gweithio ac sy’n cael credydau treth, a’ch cymhwystra.

This guidance was withdrawn on

For information on the current Coronavirus (COVID-19) support available, read: Find out what support you can get if you’re affected by coronavirus.

Os ydych yn rhan o aelwyd sy’n gweithio ac sy’n cael credydau treth, efallai y byddwch yn gymwys i gael taliad untro newydd, sef £500. Mae’r taliad newydd yn cael ei gyflwyno i roi cymorth ychwanegol pan fydd y cynnydd dros dro yng nghyfradd Credyd Treth Gwaith yn dod i ben ar 5 Ebrill 2021, yn ôl y bwriad.

Mae’n bosibl y cewch daliad unigol o £500, sy’n rhydd o dreth, os oeddech yn cael y naill neu’r llall o’r canlynol ar 2 Mawrth 2021:

  • Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Plant, ac roeddech yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith, ond ni chawsoch daliad gan fod eich incwm yn rhy uchel i gael taliadau Credyd Treth Gwaith

Does dim rhaid i chi gysylltu â CThEM na gwneud cais am y taliad. Bydd CThEM yn anfon neges destun neu lythyr atoch ym mis Ebrill i gadarnhau eich bod yn gymwys.

Os ydych yn gymwys, dylech gael eich taliad yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc erbyn 23 Ebrill 2021. Bydd y taliad yn ymddangos ar eich cyfriflen banc fel “HMRC C19 support”. Ni fyddwch yn gweld y taliad ar y gwasanaeth ar-lein ar gyfer credydau treth.

Nid yw’r taliad yn drethadwy ac ni fydd yn effeithio ar eich budd-daliadau. Does dim rhaid i chi ddatgan y taliad fel incwm ar gyfer eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad nac ar gyfer hawlio ac adnewyddu credydau treth.

Gallwch gael gwybod os ydych yn cael Credyd Treth Gwaith ar hyn o bryd.

Cyhoeddwyd ar 3 March 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 April 2021 + show all updates
  1. The payment will appear in bank statements as 'HMRC C19 support'. The deadline to tell HMRC if you have changed your bank details was 8 April 2021, the link for how to do this has been removed.

  2. Welsh translation added.

  3. Updated to clarify that the payment is non-taxable and will not affect benefits. It does not need to be declared as income for Income Tax Self Assessment or for tax credit claims and renewals. If you want to change your bank details, you must do this by 8 April.

  4. First published.