Clirio nwyddau sy’n dod i mewn i’r DU, sy’n ei gadael neu sy’n teithio drwyddi
Sicrhau bod eich nwyddau’n cael eu clirio gan y Ganolfan Glirio Genedlaethol (NCH) wrth symud nwyddau i mewn i, allan o neu drwy’r DU.
Mae’r Ganolfan Glirio Genedlaethol (NCH) yn delio â symud a phrosesu nwyddau sy’n symud i mewn i, allan o neu drwy’r DU.
Mae’r NCH hefyd yn gyfrifol am reoli a diwygio datganiadau ar ôl eu clirio. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael rhwng 9am a 5pm.
Prif gyfrifoldebau’r NCH yw:
- prosesu datganiadau mewnforio ac allforio a ddewiswyd ar gyfer archwiliadau pellach
- mewnbynnu datganiadau mewnforio ac allforio â llaw (System y Tollau ar gyfer Trin Nwyddau a Gaiff eu Mewnforio a’u Hallforio (CHIEF) yn unig)
- mewnbynnu eich ceisiadau â llaw ar gyfer gwybodaeth am lwytho wrth adael ac wrth gyrraedd
- rheoli nwyddau sydd heb dod i mewn ar gyfer porthladdoedd a meysydd awyr sy’n gysylltiedig â stocrestr
- awdurdodi a diwygio cofnodion stocrestr a symudiadau
- rheoli nwyddau sy’n cael eu mewnforio o dan gyfundrefnau mewnforio penodol
Cyn i chi ddechrau
Ymdrinnir â datganiadau yn y drefn y’u cyflwynir i’r NCH ac nid ydym yn rhoi blaenoriaeth i leoliadau penodol na mathau o nwyddau, gan gynnwys nwyddau darfodedig.
Os caiff eich datganiad ei ddewis ar gyfer gwiriad dogfennol, bydd angen i chi gyflwyno pob dogfen ategol, fel:
- tystiolaeth o werth y nwyddau
- rhestr bacio o’r holl eitemau sydd wedi eu cynnwys
- unrhyw drwydded neu dystysgrif
Dylech ddangos yn glir beth yw’r nwyddau pan fyddwch yn cyflwyno’ch dogfennau os yw’ch nwyddau yn unrhyw rai o’r canlynol:
- tân gwyllt a ffrwydron
- anifeiliaid byw
- gweddillion dynol
Tystiolaeth o werth
Rhaid i chi anfon digon o ddogfennau i brofi gwerth y llwyth cyfan.
Wrth gyflwyno datganiadau aml-anfoneb, dylech anfon yr holl anfonebau sy’n ymwneud â phob datganiad wrth gyrraedd, neu anfon crynodeb un dudalen sy’n nodi (ar gyfer pob un o’r eitemau nwyddau):
- rhif yr anfoneb
- disgrifiad o’r nwyddau
- nifer y darnau
- yr arian cyfred
- y gwerth
Rhestrau pacio
Os cyflwynir datganiad gyda nifer o restrau pacio, gallwch gyflwyno’r atodlen i’r NCH gyda’r holl ddogfennau priodol eraill.
Datganiadau aml-eitem neu ddatganiadau aml-fewnforiwr neu aml-allforiwr
Os oes gan ddatganiad sy’n cael ei ddewis ar gyfer gwiriad nifer o linellau, dylech gysylltu â’r Ganolfan Glirio Genedlaethol (yn Saesneg) i gael gwybod beth sydd angen ei anfon i’w glirio.
Datganiadau a gyflwynwyd ymlaen llaw
Ar ôl cyflwyno’r datganiad ymlaen llaw ond cyn i’r llong neu’r nwyddau gyrraedd y DU, rhaid i chi gyflwyno copïau o’r datganiad mewnforio (wedi ei dderbyn) ac unrhyw ddogfen ategol i’r NCH, ynghyd â datganiad wrth gyrraedd gwahanol ar gyfer pob rhif.
Cyfyngir cyflwyno datganiadau ymlaen llaw i 5 diwrnod cyn y bydd disgwyl i’r llong neu’r nwyddau gyrraedd. Mae’r cyfnod hwn yn cynnwys penwythnosau a gwyliau banc.
Anfon dogfennau ategol ar gyfer archwiliad tollau i glirio eich nwyddau
Gallwch gyflwyno dogfennau i’r NCH i glirio eich nwyddau os cânt eu dewis ar gyfer archwiliad tollau. Bydd y gwasanaeth a ddefnyddiwch yn dibynnu a ydych wedi defnyddio CHIEF neu’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau i wneud eich datganiad.
CHIEF
Os ydych chi’n defnyddio CHIEF, mae angen i chi anfon dogfennau i’r NCH i glirio eich nwyddau.
Y ffordd orau o wneud hyn yw defnyddio’r gwasanaeth ‘Anfon dogfennau i’w gwirio gan y tollau ar gyfer datganiadau a wneir drwy’r system CHIEF’.
Mae’n dal i fod yn bosibl i chi anfon dogfennau i’r NCH drwy e-bost os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein.
I anfon dogfennau drwy e-bost, defnyddiwch y ffurflen
— rhaid i chi lenwi hon ar y sgrin, ei chadw fel PDF a rhaid i enw’r ffeil ddechrau gyda ‘NCH1.pdf’.Wrth e-bostio’r brif ffurflen a’r gwaith papur ategol i’r ganolfan glirio, dylech wneud y canlynol:
- sganio’r gwaith papur ategol mewn du a gwyn (neu lwydwaith os oes angen) gan ddefnyddio cydraniad isel (200 i 300 dpi)
- defnyddio fformatau ffeiliau megis JPEG, TIF a PDF — os ydych am ddefnyddio delweddau cywasgedig neu ffeiliau nad ydynt yn gyfrifiadurol, dylech drefnu anfon e-bost prawf ymlaen llaw i wneud yn siŵr bod y dogfennau sydd wedi’u sganio yn cydweddu â systemau CThEF
- cadw atodiadau gwaith papur ategol yn ôl eu henw (er enghraifft ‘inv.doc’ neu ‘AWB.doc’) er mwyn ei gwneud yn haws gwybod beth ydynt
- cynnwys rhif a dyddiad y cofnod yn y llinell pwnc
- anfon un cofnod yn unig ar gyfer pob e-bost
- anfon yr NCH1 a’r gwaith papur ategol drwy e-bost i nch@hmrc.gov.uk (peidiwch â chyfuno’r ffurflen NCH1 â’r gwaith papur ategol)
Peidiwch ag anfon:
- copïau wedi eu sganio neu wedi eu hysgrifennu â llaw o’r brif ffurflen NCH1.pdf
- cadwynau e-bost
- negeseuon e-bost dyblyg
- negeseuon e-bost sy’n fwy na 10MB o ran maint
Y Gwasanaeth Datganiadau Tollau
Os ydych yn defnyddio’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau, gallwch ddefnyddio’r dudalen uwchlwytho dogfennau a chael negeseuon ar gyfer y Gwasanaeth Datganiadau Tollau (yn Saesneg) i gyflwyno dogfennau.
Ar ôl i chi anfon eich dogfennau ategol
Os ydych wedi cael neges yn eich cyfarwyddo i ddarparu dogfennau sydd eu hangen arnom, dylai’r nwyddau sy’n cyrraedd gael eu clirio o fewn 2 awr ar gyfer:
- mewnforion cludiant awyr
- mewnforion cludiant ffordd
- mewnforion drwy’r ‘culforoedd byr’ (gyrru-ymlaen-ac-i-ffwrdd)
- yr holl allforion
Bydd mewnforion cludiant morol wedi’u clirio:
- o fewn 3 awr os byddwn yn cael y dogfennau rhwng 8am a 3pm
- erbyn 8am y diwrnod canlynol os byddwn yn cael y dogfennnau ar ôl 3pm
Byddwn yn rhoi blaenoriaeth uwch i eitemau fel anifeiliaid byw a gweddillion dynol.
Bydd clirio ac ôl-glirio ar gyfer allforion strategol (yn Saesneg) yn cymryd mwy o amser oherwydd:
- mae gwiriadau strategol yn fwy cymhleth
- nid oes terfyn amser hollbwysig ar gyfer gwiriadau ôl-glirio
Os oes angen help arnoch i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, cysylltwch â’r Ganolfan Clirio Genedlaethol (yn Saesneg).
Datganiadau NCH y gwnaethpwyd ymholiadau yn eu cylch
Os gwnaethoch ddefnyddio’r system CHIEF
Gall yr NCH holi am ddatganiad sydd wedi ei ddewis ar gyfer archwiliad. Dylech ymateb i’r ymholiad hwn drwy’r dull a ddefnyddiwyd i gyflwyno eich datganiad.
Mae hyn yn sicrhau bod yr NCH yn gwybod bod yr ymholiad wedi cael ei ateb a dylai atal oedi. Os na fyddwch chi’n ymateb drwy ddefnyddio’r dull a ddefnyddiwyd gennych i gyflwyno eich datganiad, bydd oedi wrth glirio.
Os yw ymholiad yn golygu bod angen i chi newid datganiad, rhaid i chi gyflwyno copi o’r datganiad diwygiedig.
Os yw eich datganiad wedi cael ei newid a bod ganddo statws Llwybr 3 ICS22, rhaid i CThEF glirio’r nwyddau â llaw. Bydd angen i chi lenwi eich datganiad yr un fath â datganiad Llwybr 1 a dylech gyflwyno dogfennau am eich nwyddau i’r NCH. Bydd angen pennyn gwahanol arnoch ar gyfer pob datganiad os gwnaethoch eu cyflwyno drwy e-bost.
Os gwnaethoch ddefnyddio’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau
Os bydd yr NCH yn codi ymholiad am eich nwyddau, bydd yr ymholiad yn cael ei anfon i’ch blwch derbyn diogel ar y gwasanaeth ar-lein, sydd ar gael drwy’r dudalen uwchlwytho dogfennau a chael negeseuon ar gyfer y Gwasanaeth Datganiadau Tollau (yn Saesneg).
Dylai ymateb i ymholiadau drwy negeseuon diogel 2-ffordd atal unrhyw oedi a fyddai’n digwydd os na fyddwch yn ateb.
Os bydd angen i chi newid datganiad mewnforio yn dilyn ymholiad, bydd angen i chi anfon diwygiad i newid eich datganiad.
Os oes angen i chi ganslo datganiad wrth gyrraedd ar gyfer mewnforion, bydd angen i chi wneud cais i’w ganslo, gan roi rheswm dros y cais er mwyn i’r NCH ei gymeradwyo.
Nid yw hyn yn berthnasol i ddatganiadau a gyflwynwyd ymlaen llaw nad ydynt wedi cyrraedd.
Os bydd angen i chi newid datganiad allforio yn dilyn ymholiad, rhaid i chi wirio gyda’ch darparwr meddalwedd ei fod yn gallu gwneud hyn. Os na all eich darparwr wneud hyn, bydd angen i chi ganslo ac ailgyflwyno eich datganiad.
Datganiadau sy’n agored i wiriadau ôl-glirio
Datganiadau CHIEF — ICS00 neu ICS25
Rhaid i’r holl ddogfennau gwreiddiol gyrraedd yr NCH ar gyfer y camau ôl-glirio cyn pen 3 diwrnod gwaith i ddyddiad ac amser y clirio. Nid yw’r terfyn amser hwn yn berthnasol i ddatganiadau a gyflwynwyd ymlaen llaw. Mae gwasanaeth rhadbost ar gael i’ch helpu i fodloni’r gofyniad hwn.
Ar gyfer tystysgrifau EUR1, ATR1 a GSP mewn swmp, dylech anfon y ddogfen wreiddiol gyda’r datganiad cyntaf. Dylai datganiadau dilynol gynnwys copi o’r dystysgrif ffafriaeth briodol. Dylai blwch 44 o’r datganiad ddangos rhif y cofnod y mae’r gwreiddiol wedi’i atodi iddo.
Dylech ddefnyddio amlenni A4 os oes modd, a dylid anfon datganiadau i’r NCH bob dydd. Bydd datganiadau a dderbynnir yn cael eu harchwilio, a cheir cosbau am beidio â chydymffurfio â’r gofynion hyn.
Cadw cofnodion
Dylech gadw’r holl gofnodion am 4 blynedd.
Gallwch storio tystiolaeth ddogfennol ar ffurf electronig os gallwch ei defnyddio i gynhyrchu copi o’r ddogfen wreiddiol. Rhaid i chi gadw copïau papur sy’n cynnwys stampiau neu ddyfrnodau gwreiddiol — er enghraifft, tystysgrifau ffafriaeth.
Bydd CThEF yn cadw datganiadau gwreiddiol a dogfennau ategol dim ond os ydynt wedi cael eu cyflwyno ymlaen llaw i’r NCH ar gyfer eu clirio.
Cysylltu â’r NCH
I gael help gyda’r datganiadau a gyflwynwyd gennych, gallwch gysylltu â’r Ganolfan Glirio Genedlaethol (yn Saesneg).
Llinell gymorth mewnforio ac allforio
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am fewnforio neu allforio, ffoniwch y llinell gymorth mewnforio ac allforio: ymholiadau cyffredinol (yn Saesneg).
Cwynion
Os oes angen, gallwch wneud cwyn i CThEF ar-lein neu dros y ffôn.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 January 2023 + show all updates
-
Guidance on Customs Input Entries (CIE) has been removed, as the CIE team has ceased operations.
-
Added translation
-
More information about what to do after you’ve sent your supporting documents has been added.
-
The section 'After you’ve submitted' has been updated with time limits for air freight imports, road freight imports, marine freight imports and exports.
-
Welsh translation added.
-
More information about 'Sending supporting documents for a customs check to clear your goods' has been added.
-
This page has been updated because the Brexit transition period has ended.
-
This page has been updated with information on the Customs Declaration Service.
-
When you send your paperwork to the National Clearance Hub you’ll also need to send an NCH1 form in every instance.
-
The contact telephone number for the National Clearance Hub Route 3 Car Team has been updated.
-
New contact email address added to section 'Contacting the NCH' for enquiries on transfer of residence.
-
Mention of withdrawn form 'Import and export: import of private motor vehicle from outside the EC (C104A)' changed to new form 'Application for Transfer of Residence (ToR) relief (ToR01)'.
-
The Importation of motor vehicles using the National Clearance Hub Service Level Agreement was changed from 3 days to 10 days from 1 December 2015.
-
Link to 'Import and export: trader submission form header for declarations (NCH1)' added to the guide.
-
Fixing references to specialist guides
-
First published.