Canllawiau

Rheoli manylion eich ystâd

Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein i ddiweddaru manylion ystâd, awdurdodi asiant, neu gau ystâd.

Diweddaru manylion ystâd

Dylech ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein os bydd yr wybodaeth am yr ystâd a roesoch wrth gofrestru yn newid.

Mae angen cadw’r wybodaeth yn gyfredol er mwyn sicrhau bod unrhyw ohebiaeth yn cael ei hanfon at y person cywir yn y cyfeiriad cywir.

Gallwch:

  • disodli’r cynrychiolydd personol
  • diweddaru enw a chyfeiriad y cynrychiolydd personol presennol
  • rhoi manylion nad oeddent yn hysbys wrth gofrestru
  • cau’r ystâd

Ni allwch ddiweddaru manylion y person sydd wedi marw na’r blynyddoedd o rwymedigaeth treth.

Cau ystâd

Bydd angen i chi ddweud wrthym pan fydd ystâd gofrestredig wedi’i setlo (neu wedi’i ‘dosbarthu’) ar ddiwedd y cyfnod gweinyddu (hynny yw, y dyddiad y gwnaeth y cyfnod gweinyddu ddod i ben a ‘chau’).

Mae angen i asiantau a chynrychiolwyr personol ddweud wrth CThEM am gau ystâd naill ai drwy:

Awdurdodi asiant

Cynrychiolwyr personol

Os ydych am i asiant fwrw golwg dros neu wneud newidiadau i fanylion cofrestru ystâd, bydd angen i chi awdurdodi’r asiant i reoli manylion yr ystâd ar eich rhan.

Bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) Porth y Llywodraeth ar gyfer Sefydliad arnoch ar gyfer pob ystâd rydych am i asiant gael mynediad at ei manylion.

Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi, bydd angen i chi gadarnhau bod yr ystâd wedi’i chofrestru ar-lein a nodi Cyfeirnod Unigryw Trethdalwr (UTR) yr ystâd.

Bydd angen i chi hefyd ateb rhai cwestiynau am y bobl sy’n gysylltiedig â’r ystâd er mwyn ei ‘hawlio’ a’i chysylltu â’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth. Mae’n rhaid i’r atebion a roddwch gyfateb i’r wybodaeth a nodwyd wrth gofrestru’r ystâd neu pan ddiweddarwyd manylion yr ystâd ddiwethaf.

Rhowch wybod i’ch asiant pan fyddwch wedi hawlio’r ystâd yn llwyddiannus. Bydd eich asiant wedyn yn mewngofnodi i’w gyfrif ar-lein ac yn creu cysylltiad awdurdodi cais y bydd yn ei e-bostio atoch.

Dewiswch y cysylltiad, a mewngofnodwch gyda’r un Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth ar gyfer Sefydliad a ddefnyddiwyd gennych i hawlio’r ystâd.

Yna, gallwch awdurdodi’ch asiant.

Asiantau

Mae’n rhaid i chi gael awdurdodiad gan eich cleient cyn y gallwch fwrw golwg dros neu newid manylion yr ystâd.

Bydd angen i chi:

  • gofyn i’ch cleient greu Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth ar gyfer ‘Sefydliad’ os nad oes ganddo’r rhain yn barod, a hynny ar gyfer pob ystâd yr ydych am gael mynediad ati
  • rhoi gwybod i’ch cleient fod yn rhaid iddo ‘hawlio’r’ ystâd drwy ateb rhai cwestiynau amdani – dylech roi manylion diweddaraf yr ystâd i’ch cleient fel bod ei atebion yn cyfateb iddynt
  • mewngofnodi i’ch cyfrif gwasanaethau asiant ar ôl i’ch cleient hawlio’r ystâd, ac yna dewis yr opsiwn ar gyfer awdurdodi’ch cleient
  • nodi UTR yr ystâd er mwyn cael cysylltiad awdurdodi cais i’w rannu gyda’ch cleient
  • anfon e-bost at eich cleient gyda’r cysylltiad awdurdodi cais a gofyn iddo ei ddefnyddio i’ch awdurdodi cyn y dyddiad y daw’r cysylltiad i ben (mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cleient pa ystâd y mae’r cysylltiad awdurdodi ar ei chyfer) – mae’n rhaid i’ch cleient fewngofnodi gyda’r un Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair a ddefnyddiwyd ganddo i hawlio’r ystâd a derbyn y cais i’ch awdurdodi

Sut i ddiweddaru manylion eich ystâd gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein

Cyn i chi allu diweddaru’r manylion neu awdurdodi asiant, bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth ar gyfer Sefydliad a ddefnyddiwyd gennych wrth gofrestru’r ystâd. Os nad oes gennych y manylion mewngofnodi hyn, gallwch eu creu y tro cyntaf i chi fynd i mewn i’r gwasanaeth.

Dechrau nawr

Gall gwasanaethau CThEM fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda’r gwasanaeth hwn.

Cyhoeddwyd ar 2 August 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 September 2021 + show all updates
  1. Welsh translation has been added.

  2. First published.