Canllawiau

Cwblhau a chofrestru Atwrniaeth Arhosol yn ystod lledaeniad y coronafeirws

Os ydych yn dymuno gwneud atwrneiaeth arhosol nawr, mae hynny’n bosibl cyn belled â’ch bod chi’n dilyn canllawiau’r llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol a hunanynysu.

This guidance was withdrawn on

This page has been withdrawn because it’s no longer current. Read more about living safely with coronavirus (COVID-19).

Applies to England and Wales

Gall coronafeirws (COVID-19) ei gwneud hi’n anodd cofrestru atwrneiaeth arhosol (LPA). Mae gwybodaeth isod am sut y gallwch sicrhau y gallwch barhau i fodloni’r gofynion a helpu i wneud y broses gofrestru yn gyflymach.

Ar 18 Chwefror, diweddarodd y llywodraeth y canllawiau ar sut i gadw Cymru’n ddiogel. Cyfeiriwch at y canllawiau i gael gwybod mwy.

Mae oedi ar hyn o bryd gydag ein gwasanaethau, ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw anhwylustod y gall hyn ei achosi. Caniatewch hyd at 20 wythnos ar ôl derbyn eich atwrneiaeth arhosol i’ch cais gael ei brosesu. Mae hyn yn cynnwys cyfnod aros o 4 wythnos sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith.

O ystyried yr oedi yr ydym yn ei brofi, efallai y byddwch eisiau defnyddio rhai opsiynau tymor byr ar gyfer penderfyniadau iechyd, lles ac ariannol.

Bydd yr wybodaeth hon yn eich helpu i wneud LPA, ond dylech hefyd ddefnyddio’r canllawiau safonol ar wneud un. Dim ond i bobl sy’n gwneud atwrneiaeth arhosol yng Nghymru a Lloegr y mae’r canllawiau hyn.

Arwyddo a thystio

Mae pethau syml y gallwch eu gwneud i’ch amddiffyn eich hun ac eraill rhag COVID-19. Byddant yn eich helpu i sicrhau y gallwch fodloni’r gofynion ar gyfer gwneud atwrneiaeth arhosol.

Wrth lofnodi’r atwrneiaeth arhosol, peidiwch â:

  • defnyddio llofnodion digidol - rhaid argraffu’r ddogfen a’i llofnodi â llaw gyda beiro ddu
  • anfon llungopïau neu gopïau wedi’u sganio o’r atwrneiaeth arhosol i bobl eu llofnodi - rhaid i bawb lofnodi’r un ddogfen wreiddiol
  • gofyn i bobl anfon copi wedi’i sganio neu lungopi atoch o’r dudalen maen nhw wedi’i llofnodi - allwn ni ddim cofrestru atwrneiaeth arhosol sy’n cynnwys copïau wedi’u sganio neu lungopïau

Rhaid i’r tyst fod yn bresennol yn bersonol.

Os nad yw’r rhoddwr yn gallu defnyddio pen ysgrifennu ac yn methu â llofnodi’r atwrneiaeth arhosol, gall rhywun arall ei lofnodi ar ei ran. Mae’n rhaid i’r rhoddwr a dau berson arall fod yno yn bersonol i fod yn dystion fod y llofnod yn cael ei wneud. Rhaid i’r ddau dyst lofnodi’r atwrneiaeth arhosol hefyd.

Y darparwr tystysgrif

Rhaid i ddarparwr y dystysgrif siarad â’r rhoddwr am yr LPA i sicrhau bod y rhoddwr yn ei ddeall ac nad yw’n cael ei roi o dan bwysau i’w wneud.

Rydym yn argymell bod y sgwrs hon yn digwydd wyneb yn wyneb. Os bydd rhaid cael y sgwrs dros y ffôn neu drwy alwad fideo, mae’n rhaid i ddarparwr y dystysgrif sicrhau bod yr alwad yn breifat.

Sut y gallwch ein helpu i gofrestru eich atwrneiaeth arhosol cyn gynted â phosibl

  • Defnyddiwch ein gwasanaeth ar-lein i wneud yr LPA a thalwch y ffi ymgeisio gyda cherdyn yn hytrach na siec.
  • Os oes gan y rhoddwr a’r atwrnai gyfeiriadau e-bost, dylech eu cynnwys ar y ffurflen atwrneiaeth arhosol. Bydd hyn yn ei gwneud yn llawer cyflymach i ni gysylltu â nhw os bydd unrhyw fater yn codi.
  • Gwiriwch eich ffurflenni fwy nag unwaith cyn eu hanfon. Ceisiwch osgoi gwneud camgymeriadau cyffredin, drwy sicrhau:
    • bod yr atwrneiaeth arhosol wedi ei lofnodi yn y drefn gywir
    • eich bod yn anfon pob tudalen o’r LPA atom, hyd yn oed y rhai nad oes angen ichi eu cwblhau
    • eich bod yn postio’r ddogfen wreiddiol i ni - ni allwn dderbyn copïau wedi’u sganio na llungopïau
    • eich bod wedi darllen yn ofalus y canllawiau ynglŷn â gwneud atwrneiaeth arhosol

Parhewch i edrych ar ein tudalen ymateb i’r coronafeirws i gael y newyddion diweddaraf.

Cyhoeddwyd ar 17 April 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 February 2022 + show all updates
  1. Amended date to reflect most recent guidance changes in England and Wales

  2. Update to reflect date of new Welsh guidance

  3. Update to reflect welsh guidelines.

  4. Update to government guideline dates.

  5. Content amended to reflect new COVID guidance and simplify overall information

  6. Updating the Welsh text to reflect recent gvernment updates

  7. Updated the Welsh language information to reflect new guidance on 8 October

  8. Updates to English page to reflect guideline changes on 14 September, and to Welsh page to link to new English plan.

  9. Changes made due to 16 August announcement

  10. Updating Welsh information to reflect guidance changes in Wales on 7 August

  11. Edited due to lifting of restrictions on 19 July

  12. Change registration time from 15 weeks to 20 weeks

  13. Amended to reflect guidance change on 21 June

  14. Amends to Welsh text to reflect changes to government guidelines on 7 June

  15. 17 may roadmap changes

  16. Updated LPA processing times (removed duplication), including Welsh version.

  17. Changes made due to May Roadmap

  18. Added translation

  19. welsh version changes

  20. changes made due to roadmap out of lockdown announced Feb. 2021

  21. changes made to the welsh translation after PMs announcement of 4 January

  22. changes due to Lockdown 3

  23. changes to welsh version

  24. Covid 19 timescale update 10 Dec 2020

  25. changes for local tier restrictions from 2/12/20

  26. changes to welsh language version

  27. changes due to lockdown 5/11/20

  28. changed due to lockdown 5/11/20

  29. changes due to lockdown 5/11/20

  30. 12 October 2020 Covid changes

  31. changes to links to social distancing and local lockdown

  32. Changes to welsh language version

  33. Added translation

  34. Added translation and contact information

  35. Edited to include link to local lockdown requirements and for Scotland and NI LPAs

  36. Edited Signing the LPA section

  37. changes made in line with updated Covid regulations

  38. Edited information on signing and witnessing due to changes in social distancing rules from 4 July including link to gov.uk page

  39. Updated to clarify that it is currently possible to make an LPA

  40. Added translation

  41. First published.