Gwneud hawliad am arian a gedwir gan Adran Siawnsri'r Uchel Lys
Canllawiau ar gyfer ceisiadau i hawlio arian a dalwyd i’r llys yn dilyn achos cyfreithiol ynghylch meddiant eiddo neu anghydfod rhwng cyfranddalwyr.
Trosolwg
Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i gwblhau cais i Adran Siawnsri’r Uchel Lys i hawlio arian a dalwyd i’r llys ar eich rhan yn ôl:
- yn dilyn achos cyfreithiol sy’n ymwneud ag adfeddiannu eiddo
- yn unol ag adran 63 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925
- os ydych chi’n gyfranddaliwr sy’n anghytuno â phenderfyniad mawr a wnaed gan gwmni
Er mwyn gwneud cais, bydd angen i chi lenwi a dychwelyd:
- hysbysiad o gais (Ffurflen N244)
- tystiolaeth o hunaniaeth a datganiad i gefnogi ffurflen gais (CH60)
Adfeddiannu eiddo
Ar ôl i eiddo gael ei adfeddiannu, os oes arian dros ben ac nad yw’n bosibl lleoli neu nodi pwy allai fod â hawl i’r arian hwn, cânt eu dal gan Adran y Siawnsri.
Gallwch ddefnyddio ffurflen CH60 i ddarparu tystiolaeth o’ch hunaniaeth a’i chyflwyno gyda’ch hysbysiad cais i hawlio unrhyw arian y gallech fod â hawl iddo.
Adran 63 Deddf Ymddiriedolwyr 1925
Mae Adran 63 yn caniatáu i ymddiriedolwyr dalu arian ymddiriedolaeth i’r llys mewn rhai amgylchiadau – er enghraifft, lle nad ydynt wedi gallu dod o hyd i fuddiolwr na chael eu manylion banc.
Gallwch ddefnyddio ffurflen CH60 i ddarparu tystiolaeth o’ch hunaniaeth a’i chyflwyno gyda’ch hysbysiad cais i hawlio unrhyw arian y gallech fod â hawl iddo.
Anghydfodau cyfranddalwyr
Pan fydd cwmni’n cael ei gymryd drosodd, gwneir cynnig i’r cyfranddalwyr gan y cwmni sy’n gwneud y cynnig i gymryd drosodd. Weithiau gall y gwerthiant fynd rhagddo er nad yw pob cyfranddalwyr wedi derbyn y cynnig. Gelwir y rhain yn ‘gyfranddalwyr sy’n anghytuno’ ac mae eu henwau’n cael eu cadw ar gofrestr anghytuno. Yna gall y cwmni dalu arian hyd at werth eu cyfranddaliadau i’r llys. Mae’r arian hwn yn cael ei gadw gan Adran y Siawnsri.
Os ydych chi’n gyfranddaliwr sy’n anghytuno, gallwch ddefnyddio ffurflen CH60 i ddarparu tystiolaeth o’ch hunaniaeth a’i chyflwyno gyda’ch hysbysiad cais i hawlio unrhyw arian y gallech fod â hawl iddo.
Gwiriwch a oes arian yr ydych yn gymwys i’w gael
Rhaid i chi wirio a oes arian heb ei hawlio yr ydych yn gymwys i’w gael gan lys sifil yng Nghymru a Lloegr.
Os ydych chi’n credu bod Swyddfa Cronfeydd y Llys (CFO) yn dal arian ac yr hoffech chi ddarganfod faint o arian sy’n cael ei ddal, rhaid i chi gysylltu â nhw a gofyn iddyn nhw wneud chwiliad.
Court Funds Office
Sunderland
SR43 3AB
Rhif ffôn: 0300 0200 199
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Gwybodaeth am gostau galwadau
Email: enquiries@cfo.gov.uk
Os oes gennych rif cyfeirnod o’ch chwiliad ar-lein am gyfrifon llys heb eu hawlio, rhaid i chi ddyfynnu hwn pan fyddwch yn cysylltu â’r CFO.
Os byddwch yn canfod bod gennych hawl i arian a gedwir gan lys sifil, rhaid i chi lenwi hysbysiad cais: ffurflen N244. Rhaid i chi gynnwys:
- seiliau eich apêl
- unrhyw dystiolaeth sydd gennych
Os na fyddwch yn llenwi’r hysbysiad cais yn gywir, efallai y bydd eich cais yn cael ei ohirio.
Rhowch dystiolaeth ar gyfer eich cais
Yn eich cais neu ddatganiad tyst, rhaid i chi gynnwys unrhyw dystiolaeth sydd gennych sy’n dangos bod arian yn ddyledus i chi. Dylai hyn gynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol, gan gynnwys:
- grant profiant
- llythyrau gweinyddu
- tystysgrif geni
- tystysgrif priodas
- tystysgrif marwolaeth
- tystysgrifau cyfranddaliadau
Rhaid i chi anfon llungopïau o unrhyw ddogfennau yr hoffech eu cynnwys fel tystiolaeth. Os ydych chi’n cyflwyno tystysgrifau cyfranddaliadau, rhaid i chi anfon y dystysgrif wreiddiol os oes gennych chi un.
Rhaid i chi hefyd gynnwys tystiolaeth o’ch hunaniaeth.
Cwblhewch y ffurflen dystiolaeth o hunaniaeth a datganiad
Rhaid i chi lawrlwytho a chwblhau’r ffurflen tystiolaeth o hunaniaeth a datganiad (CH60) a’i chyflwyno gyda’ch cais. Rhaid i chi ddarparu’r canlynol:
- tystiolaeth o’ch hunaniaeth
- prawf o’ch cyfeiriad
- eich datganiad
- y cyfrif banc y gellir anfon yr arian iddo os caiff y cais ei gymeradwyo
Tystiolaeth arall y gallai fod angen i chi ei darparu
Os oes gan unrhyw un arall hawl i’r arian
Rhaid i chi ddatgan a oes gan unrhyw un arall hawl i’r arian, neu ran o’r arian, ac os ydych chi’n credu bod ganddyn nhw hawliad dilys.
Os felly, rhaid i chi ddarparu eu:
- enw
- cyfeiriad
- manylion cyswllt
Os nad oes gennych chi eu manylion cyswllt cyfredol, rhaid i chi ddatgan hyn yn eich cais. Gallwch roi’r manylion cyswllt diwethaf sydd gennych chi ar eu cyfer.
Os oes gennych chi hawl i ran yn unig o’r arian a gedwir yn y llys, rhaid i chi ddatgan yn glir pa gyfran rydych chi’n ei hawlio, a pham rydych chi’n ei hawlio.
Gorchmynion methdalu
Os oes gorchymyn methdalu wedi’i wneud yn eich erbyn, rhaid i chi roi enw eich ymddiriedolwr mewn methdaliad, hyd yn oed os yw’r gorchymyn wedi’i ryddhau. Rhaid i chi esbonio pam mae’r arian rydych chi’n ei hawlio yn eiddo i chi ac nid i’ch ymddiriedolwr mewn methdaliad.
Os ydych chi’n hawlio ar ran person sydd wedi marw, neu fel cynrychiolydd personol ac nid fel buddiolwr o dan ewyllys neu ddiffyg ewyllys yr ymadawedig, dim ond darparu’r wybodaeth hon am yr ymadawedig sydd raid.
Gwerthu tir neu eiddo
Os yw’r swm o arian sy’n cael ei hawlio o werthu tir neu eiddo a dalwyd i’r llys, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth sy’n dangos:
- bod gennych chi deitl i’r tir neu’r eiddo hwnnw cyn iddo gael ei werthu
- mai chi yw’r person a enwir ar deitl yr eiddo, er enghraifft bil cyfleustodau wedi’i gyfeirio atoch chi yn yr eiddo hwnnw
Yn eich datganiad ysgrifenedig ategol rhaid i chi wneud un o’r canlynol:
- datgan nad ydych chi’n ymwybodol o unrhyw bobl eraill sydd â buddiant yn y tir neu’r eiddo
- rhoi manylion unrhyw bobl eraill sydd â buddiant yn y tir neu’r eiddo ac esbonio pam nad oes ganddynt fuddiant yn yr arian a gedwir yn y llys
Cyfranddalwyr heb eu hawlio
Os yw’r swm o arian sy’n cael ei hawlio o gyfranddaliadau a dalwyd i’r llys o gyfranddaliadau neu ddifidendau heb eu hawlio, rhaid i chi ddarparu’r tystysgrifau cyfranddaliadau perthnasol os ydynt yn dal ar gael.
Fel arfer, bydd cyfranddaliadau a ddaliwyd ar y cyd â chyfranddaliwr sydd wedi marw yn trosglwyddo i’r cyfranddaliwr sy’n goroesi. Os ydych chi’n gwneud hawliad am arian fel cyfranddaliwr sy’n goroesi, rhaid i chi lofnodi datganiad i ddweud:
- eich bod chi â hawl i’r cyfranddaliadau
- nad ydych chi’n adnabod unrhyw un arall a allai fod â hawl iddynt
Cynrychiolydd personol unigolyn sydd wedi marw neu fuddiolwr ystad
Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o’ch hawl i hawlio os ydych chi naill ai:
- yn hawlio fel cynrychiolydd personol unigolyn sydd wedi marw
- buddiolwr ystad
Rhaid i chi ddarparu copi o naill ai’r:
- grant profiant
- llythyrau gweinyddu
Cyflwyno eich cais
Ffi’r cais
Pan fyddwch chi’n cyflwyno’ch cais a’ch tystiolaeth, rhaid i chi gynnwys y ffi o £61. Ni ellir ad-dalu’r ffi. Efallai y bydd y swm o arian y mae gennych hawl iddo yn llai na’r ffi’r cais.
Cyflwyno eich cais ar-lein
Rhaid i chi gyflwyno’ch cais a thalu’r ffi ar-lein gan ddefnyddio gwasanaeth E-Ffeilio Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) os ydych chi’n:
- cyfreithiwr
- cwmni ymchwil neu olrhain buddiolwyr ymddiriedolaethau sy’n lleoli ac yn adennill asedau heb eu hawlio ar ran buddiolwyr
Gallwch ddarganfod sut i gofrestru ar gyfer a ffeilio’ch dogfennau gan ddefnyddio’r gwasanaeth E-Ffeilio.
Os ydych yn cynrychioli eich hun yn y llys, gallwch ddefnyddio gwasanaeth E-ffeilio GLlTEF. Nid oes rhaid i chi wneud hyn, fodd bynnag, dyma’r dull cyflymaf. Byddwch hefyd yn gallu talu ffi’r llys drwy E-Ffeilio. Fel arall, gallwch gyflwyno eich cais drwy’r post.
Cyflwynwch eich cais drwy’r post
Anfonwch eich cais, tystiolaeth a ffi i:
Business and Property Courts of England and Wales
Chancery Division, Miscellaneous Payments Team
7 The Rolls Building
Fetter Lane
London
EC4A 1NL
Gallwch dalu’r ffi drwy:
- archeb bost
- archeb banc
- siec
Rhaid gwneud y ffi’n daladwy i ‘Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF’.
Cael cymorth a chefnogaeth
Cymorth gyda’ch cais
Os ydych chi’n cael trafferth wrth brofi eich hawliad neu lenwi’r ffurflen, gallwch gysylltu â Chyngor ar Bopeth.
Cyngor ar Bopeth
Elusen a rhwydwaith o elusennau lleol sy’n cynnig cyngor cyfrinachol ar-lein, dros y ffôn, ac wyneb yn wyneb - yn rhad ac am ddim.
Sgwrsio ar-lein gydag ymgynghorydd Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 5pm Ar gau ar wyliau banc
Rhif ffôn: 0800 702 2020 (Cymru), 0800 144 8848 (Lloegr) Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 5pm.
Dod o hyd i wasanaeth yn agos atoch chi (Lloegr yn unig)
Hawliadau sy’n bodoli eisoes
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hawliad sy’n bodoli eisoes, gallwch gysylltu â’r Tîm Taliadau Amrywiol:
Rhif ffôn: 020 7947 7929
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9:30am tan 4:30pm
E-bost: chancery.miscellaneouspayments@justice.gov.uk
Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.
Updates to this page
-
Added Welsh translation.
-
First published.