Tystiolaeth o hunaniaeth a datganiad wrth hawlio arian a ddelir gan lys sifil: Ffurflen CH60
Defnyddiwch y ffurflen hon i roi tystiolaeth o’ch hunaniaeth ac i ddatgan mai chi yw’r sawl a ddywedir ydych wrth wneud cais i hawlio arian a ddelir gan y llys ar eich rhan.
Dogfennau
Manylion
Gallwch ond defnyddio’r ffurflen hon os ydych yn gwneud cais i Adran Siawnsri’r Uchel Lys i hawlio arian a dalwyd i’r llys ar eich rhan:
- yn dilyn achos sy’n ymwneud ag adfeddiannu eiddo
- yn unol ag adran 63 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925
- os ydych chi’n gyfranddaliwr sy’n anghytuno â phenderfyniad mawr a wnaed gan gwmni
Byddwch hefyd angen llenwi a dychwelyd yr hysbysiad o gais N244.
Ar gyfer canllawiau ar sut i wneud cais i hawlio arian, gweler y canllawiau ar gyfer taliadau amrywiol y tu allan i’r llys.
Agor dogfen
Gallwch lawrlwytho ac agor dogfennau PDF ar eich dyfais. Mae lawrlwytho yn galluogi defnyddio mwy o nodweddion, fel argraffu.
Mae Adobe Reader yn raglen gweld ffeiliau PDF sydd yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Gallwch ddefnyddio hwn i weld, llenwi ac argraffu dogfennau PDF. Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer treial am ddim.
Dilynwch y camau hyn:
- Lawrlwythwch Adobe Reader am ddim.
- Cliciwch gydag ochr dde y llygoden ar y ddolen a dewiswch ‘Save link as’ neu ‘Download linked file’.
- Cadw’r ffurflen (yn eich ffolder ‘documents’, er enghraifft).
- Agorwch Adobe Reader ac yna dewiswch y ffurflen yr ydych wedi’i chadw.
Os nad yw’r ffurflen yn agor o hyd, cysylltwch â hmctsforms@justice.gov.uk.
Os oes angen fersiwn brintiedig arnoch cysylltwch â’ch llys lleol.
Gofyn am fformatau hygyrch
Gallwch ofyn am:
- fersiwn Braille
- fersiwn print bras
- fersiwn hawdd ei darllen
Gofyn am fformat hygyrch drwy e-bost hmctsforms@justice.gov.uk.
Microsoft Word
Yn gyffredinol, nid yw Microsoft Word yn addas ar gyfer ein dogfennau. Gallwch ond gofyn am drosi ffurflen PDF i fformat Word fel addasiad rhesymol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Cewch ragor o wybodaeth am Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn y canllawiau.
Updates to this page
-
Added Welsh form and landing page.
-
First published.