Cymorth cyfreithiol ar gyfer achosion meddiant
Gwybodaeth am gymorth cyfreithiol sydd ar gael i bobl sy'n wynebu colli eu cartref.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Gwasanaeth Cyngor Atal Colli Cartref
Mae cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol a ariennir gan y llywodraeth (cymorth cyfreithiol) ar gael i unrhyw un sy’n wynebu achos meddiannaeth.
Mae cymorth ar gael o’r eiliad y byddwch yn derbyn rhybudd ysgrifenedig bod rhywun yn ceisio meddiant o’ch cartref. Gallai hyn fod yn e-bost gan eich landlord neu lythyr gan gredydwr. Ni fydd eich sefyllfa ariannol yn effeithio ar eich hawl i gael y cymorth hwn ac ni fydd angen i chi dalu.
Bydd arbenigwr tai (a ariennir gan y llywodraeth) yn gweithio gyda chi i nodi beth allai fod yn achosi i rywun geisio meddiant o’ch cartref ac argymell datrysiad posibl. Er enghraifft, efallai y bydd yn gallu darparu cyngor cyfreithiol ar faterion fel:
- Troi allan anghyfreithlon
- Angen atgyweirio a phroblemau eraill gyda chyflwr tai
- Ôl-ddyledion rhent
- Ôl-ddyledion morgais
- Budd-daliadau Lles
- Dyledion
Os na allwch ddatrys y mater ac y gofynnir i chi fynd i wrandawiad llys, gall ymgynghorydd tai hefyd ddarparu cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol am ddim yn y llys. Dylech gyrraedd o leiaf 30 munud cyn eich gwrandawiad a siaradwch â’r tywysydd yn y llys a bydd yn eich cyfeirio at yr ymgynghorydd.
Gallwch ddod o hyd i ddarparwr Gwasanaeth Cyngor i Bobl sy’n Wynebu Colli Cartref drwy deipio eich cod post yn: find-legal-advice.justice.gov.uk.
Taflen