Skip to main content
Canllawiau

Cadw eich gwybodaeth ddiogelwch ar gyfer gwasanaethau ar-lein CThEF yn ddiogel fel asiant

Dysgwch sut i ddiogelu eich manylion mewngofnodi a lleihau’r perygl o dwyll wrth ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF.

Lleihau’r perygl o dwyll

Defnyddiwch gyfrinair cryf a’i newid os ydych o’r farn bod rhywun yn gwybod beth ydyw. Un ffordd o greu cyfrinair unigryw sy’n hawdd i’w gofio yw cyfuno 3 gair ar hap.

Er mwyn lleihau’r perygl o dwyll dylech wneud y canlynol:

  • cynnal sganiau gwrthfeirysau a gwirio’ch systemau am unrhyw feddalwedd anarferol
  • adolygu eich prosesau diogelwch digidol a sicrhau bod eich cleientiaid yn deall eu cyfrifoldebau
  • sicrhau eich bod chi a’ch staff yn gwybod y diweddaraf ynghylch bygythiadau a sgamiau gwe-rwydo
  • annog defnydd o wasanaethau digidol CThEF a gwybod y diweddaraf am risgiau twyll sy’n dod i’r amlwg
  • cael mynediad at fanylion eich cleient gan ddefnyddio manylion cofrestru eich hun fel asiant – peidiwch â defnyddio manylion mewngofnodi eich cleientiaid
  • gwirio eich cyfrif CThEF am unrhyw weithgaredd anarferol neu sydd heb ei awdurdodi — megis newidiadau i gyfeiriadau e-bost neu feddalwedd wedi’i hychwanegu
  • dim ond mewngofnodi i wasanaethau cyfrif CThEF gan ddefnyddio’r we, peidiwch â dilyn cysylltiad mewn e-bost

Dylech hefyd gadw:

  • rhestr gyfredol o weinyddwyr a chynorthwywyr
  • manylion mewngofnodi’n ddiogel, peidiwch â’u rhannu ag unrhyw un — ni fydd CThEF byth yn gofyn am eich cyfrinair
  • cyfrifiaduron yn ddiogel, mae’n rhaid i gyfrifiaduron personol a ddefnyddir at ddibenion gwaith gael yr un rheolaethau diogelwch â’r rheiny sydd yn y swyddfa

Ni ddylech wneud y canlynol:

  • defnyddio hen gyfrineiriau neu eu defnyddio at ddibenion gwahanol
  • defnyddio cyfrinair sy’n hawdd i’w ddyfalu a geiriau sy’n gysylltiedig â chi, er enghraifft penblwyddi neu enwau anifeiliaid anwes
  • caniatáu i bobl ddefnyddio eich manylion mewngofnodi — os oes angen i bobl eraill gael mynediad at eich cyfrif gallwch sefydlu gweinyddwyr a defnyddwyr â mynediad safonol (yn agor tudalen Saesneg)

Delio gyda thwyll

Dylech roi gwybod am negeseuon e-bost amheus, rhifau ffôn, galwadau ffôn neu negeseuon testun.

Dylech roi gwybod am unrhyw weithgareddau amheus sy’n digwydd mewn cyfrif CThEF a gwirio unrhyw feddalwedd trydydd parti rydych chi’n ei ddefnyddio am weithgareddau annisgwyl fel newidiadau i fanylion banc.

Peidiwch â cheisio cywiro unrhyw beth yn eich cyfrif CThEF os nodir unrhyw weithgareddau amheus.

Newid eich cyfrinair pan fydd CThEF yn dweud wrthych am wneud hynny

Os ydym o’r farn bod rhywun wedi cael mynediad at eich cyfrif asiant heb eich caniatâd, byddwn yn anfon cyfrinair dros dro atoch drwy e-bost.

Bydd yn rhaid i chi newid eich cyfrinair pan fyddwch chi’n mewngofnodi am y tro cyntaf. Peidiwch â’i newid i gyfrinair sy’n debyg i’r un rydych chi wedi’i ddefnyddio o’r blaen.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 28 Tachwedd 2011
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 Mai 2026 show all updates
  1. 'Reduce the risk of fraud’ has been updated with more recommendations and guidance on creating strong passwords. A new section ‘Dealing with fraud’ has been added.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon