Canllawiau

Rhoi gwybod am weithgarwch amheus sy’n digwydd mewn cyfrif ar-lein CThEF

Dysgwch sut i roi gwybod am weithgarwch amheus sy’n digwydd mewn cyfrif ar-lein a sut i gadw’ch gwybodaeth bersonol yn ddiogel rhag twyll hunaniaeth.

Os oes rhywun wedi defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i gael mynediad at eich cyfrif ar-lein neu wneud newidiadau heb eich caniatâd, twyll hunaniaeth yw hynny.

Os ydych chi’n meddwl bod rhywun wedi cael mynediad at eich cyfrif, dylech wneud y canlynol:

  • rhoi gwybod i CThEF ar unwaith

  • newid cyfrinair eich cyfrif ar-lein, os oes gennych fynediad ato o hyd

Y ffordd o adnabod gweithgarwch amheus

Dyma rai arwyddion i’ch helpu i adnabod gweithgarwch amheus:

  • codau mynediad yn cael eu hanfon i’ch ffôn pan nad ydych wedi ceisio mewngofnodi

  • methu cael mynediad at y cyfrif ar-lein oherwydd bod y cyfrinair wedi cael ei newid 

  • newidiadau i gofnodion treth nad oeddech wedi’u gwneud

  • llythyrau neu daliadau annisgwyl gan CThEF

Y ffordd i roi gwybod am weithgarwch amheus

Os ydych yn unigolyn neu’n fusnes

Os oes gennych fynediad o hyd at eich cyfrif ar-lein, gallwch fewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEF a rhoi gwybod am weithgarwch amheus drwy ddefnyddio’r consol diogelwch.

Os nad ydych yn gallu defnyddio’r consol diogelwch, dylech ddefnyddio’r ffurflen hon i roi gwybod. Bydd angen y canlynol arnoch:

  • cyfeiriad e-bost

  • rhif cyswllt ac amserau cyfleus i gysylltu â chi

  • manylion y gweithgarwch amheus

Os busnes ydych, bydd angen eich cyfeirnod treth hefyd.

Os ydych yn asiant

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i roi gwybod am weithgarwch amheus.

Os ydych yn rhoi gwybod ar eich rhan eich hun, bydd angen y canlynol arnoch:

  • cyfeiriad e-bost

  • manylion y gweithgarwch amheus

Os ydych yn rhoi gwybod ar ran cleient, bydd angen y canlynol arnoch hefyd:

  • awdurdod i weithredu ar ran eich cleient

  • manylion eich cleient

Casglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein, ac ni fydd modd i chi gadw’ch cynnydd.

Rhoi gwybod nawr

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Byddwn yn cynnal adolygiad cychwynnol ac yn anelu at gysylltu â chi dros y ffôn neu drwy e-bost cyn pen 10 diwrnod gwaith.

Cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel 

Peidiwch â rhannu eich rhif Yswiriant Gwladol gydag unrhyw un nad oes ei angen arno — bydd hyn yn helpu atal twyll hunaniaeth. Dysgwch ragor ynghylch eich rhif Yswiriant Gwladol ac enghreifftiau o sefydliadau a allai fod angen ei wybod. 

Mae gan Stop! Think Fraud gyngor ar ddiogelu eich hun rhag ymosodiadau gwe-rwydo a thwyll. 

Gallwch hefyd ddysgu rhagor ynghylch sut i ddiogelu’ch manylion a beth mae CThEF yn ei wneud i’ch cadw’n ddiogel ar-lein.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 Ebrill 2026 show all updates
  1. Guidance has been updated to include agents and businesses and to confirm that HMRC aims to contact you within 10 working days after submitting the form.

  2. Added translation

Argraffu'r dudalen hon