Canllawiau

Atwrnai neu ddirprwy sy'n gofalu am fuddsoddiadau rhywun

Darllenwch yr arweiniad hwn i gael rhagor o wybodaeth am wneud buddsoddiadau ar gyfer unigolion nad oes ganddynt alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau.

Applies to England and Wales

Mae’r arweiniad hwn ar gyfer:

  • atwrneiod a benodwyd dan atwrneiaeth arhosol (LPA) ar gyfer eiddo a materion ariannol neu atwrneiaeth barhaus (EPA)
  • dirprwyon a benodwyd gan y Llys Gwarchod (y llys) i reoli eiddo a materion ariannol unigolyn sydd wedi colli’r gallu meddyliol i wneud penderfyniadau.

Cyn i chi fuddsoddi unrhyw beth, byddwch yn ymwybodol:

  • na chewch wneud yr hyn a fynnwch gydag arian yr unigolyn
  • mae’n rhaid i chi gefnogi’r unigolyn i wneud penderfyniad drosto’i hun lle bo hynny’n bosibl
  • mae’n rhaid i chi wneud eich penderfyniadau yn seiliedig ar yr hyn sydd orau i’r unigolyn, wrth wneud eich gorau i ystyried ei ddymuniadau
  • dylai eich penderfyniadau fod yn seiliedig ar ddewisiadau a chredoau’r unigolyn

Beth yw buddsoddiad?

Buddsoddiadau yw pethau yr ydych yn eu prynu neu roi eich pres ynddynt i gael elw, megis:

  • cyfranddaliadau – rydych yn prynu rhan mewn cwmni
  • arian parod – rydych yn cynilo arian mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu
  • eiddo – rydych yn buddsoddi mewn adeilad, boed mewn eiddo masnachol neu eiddo preswyl
  • eitemau – prynu pethau megis aur, gwaith celf neu geir
  • gwarantau llog sefydlog (a elwir hefyd yn fondiau) – rhoi benthyg arian i gwmni neu lywodraeth

Gallwch fuddsoddi yn uniongyrchol (er enghraifft mewn cyfranddaliadau) neu yn anuniongyrchol drwy gronfa fuddsoddi.

Beth yw enillion?

Enillion yw’r cynnydd neu’r gostyngiad yng ngwerth buddsoddiadau.

Yn ddibynnol ar le’r ydych yn rhoi arian yr unigolyn, gall hyn gynnwys:

  • difidendau o gyfranddaliadau
  • incwm wrth rentu eiddo
  • iawndal o bethau fel adneuon arian a gwarantau llog sefydlog
  • y gwahaniaeth rhwng y pris y byddwch yn ei dalu am fuddsoddiad a’r pris a gewch wrth ei werthu (enillion cyfalaf neu golledion)

Beth yw risg?

Risg yw’r siawns o golli peth o arian yr unigolyn. Yn gyffredinol, po fwyaf yw’r adenillion, y mwyaf yw’r risg y bydd yn rhaid i fuddsoddwr ei gymryd.

Po hiraf y byddwch yn cadw buddsoddiad, y mwyaf tebygol ydyw y gall oresgyn unrhyw newidiadau tymor byr yn y pris. Yn gyffredinol, bydd llawer o gynghorwyr ariannol yn awgrymu y dylech anelu at gadw buddsoddiadau nad ydynt yn arian parod a blaendaliadau am o leiaf 5 mlynedd. Felly, dylech ystyried a yw hyn yn ddichonadwy, o gofio anghenion ariannol yr unigolyn.

Mae’r risgiau’n dibynnu ar y buddsoddiad, er enghraifft:

  • efallai y bydd sefydliad yn methu
  • efallai na fydd eich arian yn gallu dal i fyny gyda phrisiau cynyddol
  • gall prisiau cyfranddaliadau fynd i fyny neu i lawr
  • gallech fod wedi ennill adenillion gwell mewn mannau eraill

Gallwch osgoi cymryd gormod o risg drwy reoli arian yn ofalus, fel cynilo a buddsoddi mewn mwy nag un peth (gelwir hyn yn arallgyfeirio).

Beth yw cynghorydd ariannol?

Mae cynghorwyr ariannol yn arbenigwyr ar wneud penderfyniadau ynglŷn ag arian a buddsoddiadau.

Weithiau, cânt eu henwi yn unol â’u harbenigedd, h.y. cynghorydd buddsoddi, rheolwr cyfoeth, cynghorydd pensiwn neu gynllunydd ariannol. Fe’u gelwir hefyd yn froceriaid wrth ymdrin â phethau fel morgeisi, yswiriant neu gyfranddaliadau.

Mae’r holl gynghorwyr ariannol yn y DU yn cael eu rheoleiddio a’u cofrestru gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) a dylent roi gwybod i chi eu bod yn codi tâl am eu gwasanaethau.

Dylech weithio gyda chynghorydd ariannol:

  • pan fyddwch yn teimlo nad oes gennych brofiad neu wybodaeth berthnasol
  • pan fo angen i chi ddangos eich bod wedi cymryd cyngor
  • pan fo angen i chi arallgyfeirio neu adolygu buddsoddiadau’r unigolyn
  • pan fo angen i chi gael cyngor gan gynghorydd arbenigol ar fathau penodol o fuddsoddiadau, megis buddsoddiadau yn seiliedig ar ffydd (er enghraifft, cydymffurfio â Shariah) neu fuddsoddiadau moesegol

Rhaid i chi wneud yn siŵr:

  • bod y cynghorydd yn gwybod eich bod yn gweithredu ar ran rhywun arall
  • eich bod yn asesu risg ac amgylchiadau’r unigolyn gyda’r cynghorydd
  • bod cost y cynghorydd yn ddefnydd priodol o arian yr unigolyn, er enghraifft, ni ddylech dalu £1,000 am gyngor pan nad oes gennych ond £5,000 i fuddsoddi
  • eich bod yn deall y cynhyrchion y maent yn eu hargymell yn llawn, a’u bod yn rhoi dogfen yn crynhoi’r ffeithiau allweddol neu ddogfen buddsoddwr allweddol i chi eu darllen
  • eich bod yn ystyried amgylchiadau presennol yr unigolyn a’i amgylchiadau yn y dyfodol
  • nad ydych yn dirprwyo penderfyniadau i reolwr cronfa fuddsoddi oni bai bod gennych ganiatâd o fewn yr LPA, EPA neu orchymyn llys (gallwch gymryd cyngor, ond os ydych eisiau iddynt wneud penderfyniadau, efallai y bydd angen i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod)
  • eich bod yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar gredoau a buddiannau’r unigolyn, nid eich rhai chi eich hun

Gellir dod o hyd i gynghorwyr cymwys ac arbenigol ar wefan y Gymdeithas Ariannol Personol – y corff proffesiynol ar gyfer cynghorwyr ariannol a staff cymorth.

Cychwyn buddsoddi

Dylid gwneud buddsoddiadau yn enw’r unigolyn. Os nad yw hyn yn bosibl, dylech wneud gweithred ymddiriedolaeth (dogfen gyfreithiol) neu gofnodi budd llesiannol yr unigolyn.

Os oes gan yr unigolyn fuddsoddiadau’n barod

Ni ddylech drosglwyddo unrhyw fuddsoddiadau neu gronfeydd presennol i’ch enw chi.

Yn hytrach, dylech gysylltu â’r cwmni buddsoddi a rhoi tystiolaeth iddynt eich bod yn gallu gweithredu ar ran yr unigolyn (fel eich LPA neu orchymyn llys). Os na fyddant yn ei dderbyn, gofynnwch beth sydd ei angen arnoch chi yn lle hynny.

Rhaid i chi adolygu’r holl fuddsoddiadau a chyllid yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion amgylchiadau’r unigolyn ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, a bod yswiriant ar gael ar gyfer eitemau o werth.

Gwiriwch yr LPA, yr EPA neu’r gorchymyn llys yn gyntaf

Efallai y bydd cyfyngiadau neu gymalau ynghylch buddsoddiadau neu sut y gallwch ddefnyddio arian yr unigolyn.

Os ydych eisiau gwneud rhywbeth sydd wedi’i gyfyngu

Efallai y byddwn yn eich cynghori i wneud cais i’r Llys Gwarchod am ganiatâd. Bydd hyn yn digwydd os ydych eisiau:

  • buddsoddi swm sylweddol o arian yr unigolyn, yn enwedig lle’r oedd yr unigolyn wedi dewis cadw arian ar ffurf arian parod yn flaenorol
  • defnyddio arian yr unigolyn i fuddsoddi yn eich busnes eich hun, busnes aelod o’ch teulu neu busnes ffrind

Efallai y bydd angen i chi gynnwys tystiolaeth fel datganiadau ariannol a chyngor dogfennol gan gynghorydd ariannol gyda’ch cais.

Meddyliwch am anghenion ariannol yr unigolyn ar hyn o bryd ac yn y dyfodol

Os yw’n bosibl, gofynnwch am farn yr unigolyn a chasglwch wybodaeth ariannol (a elwir hefyd yn ffeithiau ariannol) am eich cynllun. Dylech ystyried:

  • ei oed, ei iechyd a’i ddisgwyliad oes gyfartalog
  • ei incwm a’i wariant presennol a sut y gallai’r rhain newid
  • a fydd ei incwm yn ddigon iddo fyw arno
  • beth yw gwerth yr holl asedion
  • cost ei gofal a’i lety
  • p’un a yw’r unigolyn yn berchen ar eiddo a beth fydd yn digwydd iddo, costau yswiriant, biliau a gwaith cynnal a chadw
  • cynlluniau ariannol eraill ar waith, unrhyw arbedion tymor penodol a dyddiadau aeddfedu
  • a ragwelir unrhyw eitemau mawr o wariant
  • a yw unrhyw roddion neu daliadau i ddibynyddion yn debygol o gael eu gwneud (gall hyn gynnwys cais i’r llys am ganiatâd)
  • a oes angen i chi gadw unrhyw arian wrth gefn ar gyfer argyfyngau

Yna, ceisiwch ddod o hyd i gynghorydd ariannol cymwys i’ch helpu i gynllunio neu adolygu’r buddsoddiadau.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr holl arian parod yn cael ei ddal mewn cyfrifon cynilion a chyfrifon cadw gyda thrwydded fancio’r DU fel eu bod yn cael eu cynnwys yng Nghynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) sydd ar gael hyd at £85,000 fesul sefydliad bancio.

Rhestr wirio

  • Ydych chi wedi casglu’r holl wybodaeth ariannol sydd ei hangen arnoch?
  • Ydych chi wedi dod o hyd i gynghorydd ariannol addas?
  • Ydych chi wedi gallu cael barn yr unigolyn?
  • Faint o arian ydych chi’n gallu ei fuddsoddi?
  • Sut fath o enillion sy’n angenrheidiol?
  • Beth yw lefel y risg?
  • A fydd y buddsoddiadau’n bodloni anghenion y person ar hyn o bryd ac yn y dyfodol?
  • Ydych chi wedi pennu dyddiad i adolygu’r cynllun?

Pethau eraill i feddwl amdanyn nhw

Treth

Dylid ystyried sut y bydd treth yn effeithio ar y buddsoddiadau - gall eich cynghorydd ariannol eich cyfeirio at gynghorydd treth arbenigol. Os ydych eisiau rhoi rhoddion i leihau effaith treth etifeddiant, efallai y bydd angen i chi wneud cais i’r llys.

Mwy o arweiniad ynghylch rhoi rhoddion.

Gofal yr awdurdod lleol

Byddwch yn ymwybodol os bydd angen gwasanaethau gofal awdurdod lleol ar yr unigolyn. Gall rhai awdurdodau godi tâl os ydynt yn credu eich bod wedi gwneud penderfyniadau i osgoi cyfrannu.

Ewyllysiau a buddiolwyr

Os ydych yn ymwybodol o gynnwys ewyllys, dylech geisio ystyried hyn wrth ystyried sut i reoli’r cronfeydd. Fodd bynnag, rhaid rhoi blaenoriaeth i amgylchiadau’r unigolyn ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Cadw cofnodion

Mae’n bwysig cadw cyfrifon o’r holl drafodion rydych wedi’u cyflawni ar ran yr unigolyn, gan y gallwn ofyn i chi anfon adroddiad ariannol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) neu’r Llys Gwarchod.

Twyll

Mae camddefnyddio safle o bŵer yn drosedd. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw un sy’n gofalu am gyllid person arall.

Mae hyn yn golygu bod camddefnyddio eich sefyllfa gan fwriadu cymryd mantais o’r sefyllfa er eich budd eich hun neu eraill, achosi colled neu gyflwyno’r unigolyn i risg o golled, yn erbyn y gyfraith.

Eich dyletswydd fel atwrnai neu ddirprwy

  • Cynnwys y person yn y penderfyniadau lle bo’n bosibl
  • Gwneud penderfyniadau er budd y sawl yr ydych yn cael eich penodi i ofalu am ei fuddsoddiad
  • Buddsoddi arian er lles y person ac nid eich budd chi
  • Cadwch eich arian eich hun ar wahân i’w arian yntau lle bo’n bosibl er mwyn osgoi camgymeriadau neu ddryswch
  • Cadw at egwyddorion Deddf Galluedd Meddyliol 2005 Cod ymarfer
  • Peidiwch â manteisio ar eich safle, na chaniatáu i unrhyw un ddylanwadu ar y ffordd rydych yn gweithredu neu adael i’ch buddiannau personol wrthdaro â’ch dyletswyddau (eich dyletswydd ymddiriedol)
  • Peidio â gwneud elw personol neu elwa ar eich sefyllfa, ar wahân i dderbyn rhoddion lle mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 yn galluogi hynny
  • Peidio â chaniatáu i rywun arall neu gynghorydd ariannol wneud penderfyniad ar eich rhan, oni bai ei fod wedi’i awdurdodi gan yr unigolyn yn yr awdurdod cynllunio lleol, yr EPA neu gan y llys

Rhagor o wybodaeth

Os ydych angen cymorth neu ragor o wybodaeth am yr arweiniad hwn, cysylltwch â ni:

Cyhoeddwyd ar 8 May 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 May 2019 + show all updates
  1. Added translation

  2. Added Welsh translation

  3. First published.