Rhaglen ddiwygio GLlTEM: diweddariad ar ddiwygio
Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn cyhoeddi cylchlythyrau rheolaidd gyda diweddariadau ar gynnydd ein rhaglen ddiwygio

Mae llawer wedi digwydd ers cyhoeddi rhifyn diwethaf y Diweddariad Diwygio y llynedd, gan gynnwys agor ein Canolfannau Gwasanaethau Llysoedd a Thribiwnlysoedd newydd cyntaf a dros 100,000 o bobl yn defnyddio ein gwasanaethau ar-lein newydd fel ysgariad, profiant, hawliadau arian sifil, ac apeliadau nawdd cymdeithasol.
Rydym yn parhau i gynnwys pawb sy’n gweithio o fewn y system gyfiawnder, yn ogystal â’r rhai sy’n poeni amdano.
Er mwyn inni barhau i wella, a fyddech cystal â llenwi ein harolwg byr, os gwelwch yn dda? Byddwn yn ystyried eich adborth wrth ymdrin â materion eraill yn y dyfodol.