Cofrestrfa Tir EF: Sut i roi gwybod am wall
Rydym wedi ymrwymo i gynnal cywirdeb ac uniondeb y gofrestr. Os ydych o’r farn bod gwall yn un o ddogfennau Cofrestrfa Tir EF, rhowch wybod inni.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Os ydych wedi newid eich enw, eich cyfeiriad cysylltu, neu os yw morgais ar eich eiddo wedi ei dalu, gallwch weld sut i ddiweddaru neu gywiro’r gofrestr, yn lle rhoi gwybod am y newid fel gwall.
Gwallau mewn cofnod cofrestr, cynllun teitl neu gopi o ddogfen
Llenwch ein ffurflen ar-lein os ydych o’r farn bod rhywbeth o’i le gyda chofnod ar y gofrestr, cynllun teitl neu gopi o ddogfen. Os yw’n well gennych, gallwch ffonio neu ysgrifennu atom.
Rhoi gwybod am wall ar-lein
Wrth lenwi’r ffurflen ar-lein, rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch. Bydd hyn yn ein helpu i ymchwilio i’r gwall. Os yw’n bosibl, dylech gynnwys:
-
rhif teitl
-
unrhyw gyfeirnod Cofrestrfa Tir EF
-
dogfennau neu dystiolaeth yn ymwneud â’r gwall
Sylwer: Nid ydym yn derbyn ffeiliau sip na ffeiliau sy’n fwy na 50MB.
Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i roi gwybod am wall ar chwiliad o’r map mynegai hefyd.
Rhoi gwybod am wall dros y ffôn neu trwy lythyr
I roi gwybod am wall dros y ffôn, ffoniwch ein Canolfan Cymorth i Gwsmeriaid ar 0300 006 0422.
I roi gwybod am wall trwy’r post, anfonwch eich ymholiad i un o’n cyfeiriadau safonol.
Yr hyn fydd yn digwydd nesaf
Rydym yn trin pob cais i gywiro gwallau fel blaenoriaeth. Byddwn yn ymchwilio i’r hyn sydd wedi digwydd ac yn gwneud yr hyn a allwn i’w gywiro.
Byddwn yn cysylltu â chi:
-
os oes angen rhagor o wybodaeth arnom i ymchwilio i’r gwall
-
os oes angen ichi gwblhau cais ffurfiol
-
pan fydd y gwall wedi ei gywiro
Os gallwn gywiro’r gwall, yr amser cwblhau amcangyfrifedig ar gyfer y broses yw 20 niwrnod gwaith. Gall gwallau mwy cymhleth gymryd yn hirach. Os gwneir newidiadau i gofrestr neu gynllun teitl, byddwn yn rhoi copi wedi ei ddiweddaru ichi.
Os na allwn gywiro’r gwall, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio pam a’r hyn gallwch ei wneud nesaf.
Pwy sy’n gallu rhoi gwybod am wall i Gofrestrfa Tir EF
Gall unrhyw un ofyn i wall gael ei gywiro. Fodd bynnag, os nad chi yw’r perchennog cofrestredig neu os nad oes gennych gydsyniad y perchennog cofrestredig, efallai byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth ar ôl ichi gyflwyno’ch ymholiad.
Sut byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth gysylltu a roddir inni i ddiweddaru ac ymateb i’ch ymholiad. Efallai byddwn yn ei defnyddio hefyd i ofyn am ragor o wybodaeth i’n helpu i ymchwilio i’r gwall.
Darllenwch ragor yn ein siarter gwybodaeth bersonol.