Cael pobl ifanc i mewn i swyddi Cynllun Kickstart
Sut i gael pobl ifanc i mewn i swyddi Cynllun Kickstart a newidiadau mae angen i chi ddweud wrthym amdanynt.
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland
Canllawiau cyflogwr
Gwnaeth ceisiadau i’r Cynllun Kickstart gau am hanner dydd ar 17 Rhagfyr 2021.
Gwiriwch y dyddiadau cau eraill ar gyfer cwblhau tasgau Cynllun Kickstart.
Os ydych yn borth Kickstart, gwiriwch y canllawiau ar gyfer pyrth.
Sut i gael y bobl ifanc i mewn i’r swyddi
Mae’n rhaid i chi fod:
- wedi gwneud cais llwyddiannus ar-lein neu fod wedi gwneud cais drwy borth Kickstart cyn hanner dydd ar 17 Rhagfyr 2021
- wedi llofnodi a dychwelyd eich cytundeb grant Cynllun Kickstart i DWP neu’ch porth Kickstart erbyn 11:59pm ar 7 Ionawr 2022
- dylech fod wedi cyflwyno eich swyddi gwag i DWP erbyn 11.59pm ar 31 Ionawr 2022 Ar ôl 1 Mawrth 2022, stopiodd anogwyr gwaith yn y Ganolfan Byd Gwaith baru pobl ifanc â swyddi. Rhaid i’r person ifanc ddechrau’r swydd ar neu cyn 31 Mawrth 2022.
Dylech chi neu’ch porth Kickstart ddweud wrth DWP erbyn 11:59pm ar 30 Ebrill 2022 fod y person ifanc wedi dechrau er mwyn i ni allu prosesu’r cyllid. Byddwch yn cael gwybod sut i wneud hyn yn yr e-bost ‘atgyfeirio’.
Rhaid i bob swydd fod wedi derbyn cyflwyniad gan anogwr gwaith DWP i dderbyn cyllid llawn.
Os yw person ifanc yn gadael y swydd yn gynnar
Rhaid i chi e-bostio DWP cyn gynted â phosibl os yw person ifanc naill ai:
- yn gadael eu swydd cyn diwedd y cyfnod o 6 mis
- angen gadael eu swydd dros dro (er enghraifft ar gyfer absenoldeb arbennig neu gyfyngiadau sy’n gysylltiedig â COVID-19)
Mae’r cyfeiriad e-bost yr un e-bost rydych chi’n ei ddefnyddio i ddweud wrth DWP am ddyddiad dechrau y person ifanc. Fe’ch hysbysir sut i wneud hyn yn yr e-bost ‘atgyfeirio’ a gewch pan fydd anogwr gwaith yn atgyfeirio person ifanc at eich swydd wag.
Os bydd person ifanc yn gadael ei swydd yn gynnar, y taliad cyflog nesaf a drefnwyd gan DWP fydd yr olaf y byddwch yn ei dderbyn ar eu cyfer.
Efallai y bydd DWP yn gallu ymestyn y cyfnod cyllido os bydd yn rhaid i’r person ifanc roi’r gorau i weithio dros dro.
Gallwch ddisodli’r person a adawodd yn gynnar gyda pherson ifanc arall a gyfeiriwyd at y swydd wag gan anogwr gwaith. Rhaid iddynt ddechrau ar neu cyn 31 Mawrth 2022.
Cael help a chefnogaeth i reoli’ch swyddi Cynllun Kickstart
Cysylltwch â’ch cyswllt Cynllun Kickstart lleol neu genedlaethol os oes angen help arnoch i reoli eich swyddi Cynllun Kickstart.
Updates to this page
-
Updated page as the deadline for young people starting in the job has now passed.
-
Updated page to say the deadline for referring young people into jobs has now passed.
-
Updated page as the deadline for submitting vacancies has now passed.
-
Updated page as the deadline for grant agreements to be signed and returned has now passed.
-
Updated page to say applications for Kickstart Scheme funding closed at midday on 17 December 2021, removed links to the apply guides and removed information about grant variations.
-
Added deadlines for completing Kickstart Scheme tasks.
-
Added information about Kickstart Scheme applications closing on 17 December 2021.
-
First published.