Gohirio taliad neu ddadgofrestru rhag goruchwyliaeth gwyngalchu arian o ganlyniad i goronafeirws (COVID-19)
Roeddech yn gallu gohirio taliad neu ddadgofrestru os ydych yn fusnes gyda ffi flynyddol sy’n ddyledus rhwng 1 Mai a 30 Medi 2020.
Os oedd yn bryd i chi adnewyddu goruchwyliaeth gwyngalchu arian gyda CThEM, roeddech yn gallu:
- gohirio’ch taliad am hyd at 6 mis
- dadgofrestru os gwnaethoch roi’r gorau i fasnachu oherwydd coronafeirws
Os gwnaethoch barhau i weithredu a chyflawni gweithgareddau sydd wedi’u cwmpasu gan y Rheoliadau Gwyngalchu Arian (MLR), roedd angen i chi wneud y canlynol:
- parhau i fod wedi’ch cofrestru gyda CThEM
- bodloni’ch ymrwymiadau o dan yr MLR, a hynny er mwyn diogelu’ch busnesau a’r DU rhag gweithgaredd troseddol
Gohirio taliad neu ddadgofrestru
Os dewisoch ohirio
Doedd dim rhaid i chi roi gwybod i CThEM os gwnaethoch benderfynu gohirio’ch taliad.
Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i’ch atgoffa am eich dyddiad dyledus newydd ar gyfer talu.
Os dewisoch ddadgofrestru
Nid oedd angen i chi gael eich goruchwylio gennym os gwnaethoch y canlynol:
- cau’ch busnes dros dro oherwydd coronafeirws
- rhoi’r gorau i bob gweithgaredd MLR
Gwneud cais i ailgofrestru’ch busnes
Pan fyddwch yn barod i ailgofrestru’ch busnes, bydd angen i chi wneud cais newydd ar-lein.
Bydd hyn yn rhoi dyddiad newydd ar gyfer eich cofrestriad ac am dalu eich ffi flynyddol.
Ni fyddwch yn gallu masnachu eto hyd nes bod eich cais wedi’i gymeradwyo, os ydych yn un o’r canlynol:
- Busnes Gwasanaethau Arian
- Darparwr Gwasanaeth Cwmni neu Ymddiriedolaeth
Byddwn yn blaenoriaethu’ch cais os byddwch yn dewis canslo’ch cofrestriad yn ystod y cyfnod hwn.
Sut i gael help
Gallwch gael cyngor neu ragor o wybodaeth am wyngalchu arian a’ch busnes.