Dod o hyd i feddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Defnyddiwch yr offeryn hwn i’ch helpu i ddod o hyd i feddalwedd sy’n bodloni’ch anghenion ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Bydd angen meddalwedd arnoch er mwyn creu cofnodion digidol, anfon diweddariadau chwarterol at CThEF a chyflwyno’ch Ffurflen Dreth gan ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Gwiriwch â’ch darparwr meddalwedd y bod ei gynnyrch yn bodloni’ch anghenion penodol. Os ydych yn defnyddio meddalwedd sydd heb ei rhestru, neu os nad yw’ch meddalwedd yn gweithio gyda’ch ffynhonnell incwm ar hyn o bryd, siaradwch â’ch darparwr meddalwedd dewisol ynghylch ei gynlluniau. Dros amser, bydd mwy o opsiynau meddalwedd ar gael.
Os oes gennych asiant (fel cyfrifydd neu lyfrifwr), gallwch siarad ag ef am eich dewis o ran meddalwedd i wneud yn siŵr ei fod yn gallu rhoi cymorth i chi.
Os oes gennych fwy nag un asiant, bydd yr hyn y gall yr asiant ei wneud yn dibynnu ar p’un a yw’n brif asiant neu’n asiant cynorthwyol. Gallwch gael mwy nag un asiant cynorthwyol.
Cyn i chi ddechrau
Os ydych yn unig fasnachwr neu’n landlord, gofynnir rhai cwestiynau i chi er mwyn creu rhestr bersonol o opsiynau meddalwedd ar gyfer eich anghenion penodol.
Bydd angen i chi wybod y canlynol:
- p’un o’ch ffynonellau incwm sydd wedi’u cwmpasu gan y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm (hunangyflogaeth, eiddo yn y DU, eiddo dramor)
- unrhyw ffynonellau eraill o incwm y mae angen i chi eu datgan
- a ydych am greu cofnodion digidol newydd neu gysylltu â chofnodion presennol
- eich cyfnod cyfrifyddu
Os ydych yn asiant, byddwch yn gweld rhestr o’r holl feddalwedd sy’n cydweddu, a gallwch eu hidlo i’ch helpu i ddod o hyd i’r ateb cywir i’ch cleientiaid.
Darllenwch yr arweiniad manwl ar sut i ddewis y feddalwedd gywir ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny.
Dod o hyd i feddalwedd nawr
Defnyddiwch yr offeryn hwn i ddod o hyd i feddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Dod o hyd nawr (yn agor tudalen Saesneg)
Ar ôl i chi ddewis eich meddalwedd
Darllenwch y camau nesaf ynghylch sut i gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a sut i gysylltu’r feddalwedd rydych wedi’i dewis er mwyn i CThEF ei hawdurdodi.