Canllawiau

Allforio bwyd GM a chynhyrchion bwyd anifeiliaid o 1 Ionawr 2021

Gwybodaeth am yr effaith ar fusnesau sy'n dal neu'n ceisio awdurdodiadau ar gyfer bwyd neu fwyd anifeiliaid wedi'i addasu'n enetig (GM) neu ychwanegion bwyd anifeiliaid, neu sy’n allforio bwyd anifeiliaid i'r Undeb Ewropeaidd (UE), o 1 Ionawr 2021 ymlaen.

This guidance was withdrawn on

This page has been withdrawn. You can read our current advice on GM food and animal feed products on food.gov.uk:

Canllawiau ar yr hyn sydd angen i chi ei wneud i baratoi ar gyfer y rheolau a’r prosesau a fydd yn berthnasol o 1 Ionawr 2021 ymlaen. Mae’r canllawiau hyn wedi’u bwriadu ar gyfer busnesau yn y DU yn benodol:

  • sy’n dal neu’n ceisio awdurdodiadau ar gyfer bwyd neu fwyd anifeiliaid wedi’i addasu’n enetig (GM)
  • sy’n dal neu’n ceisio am awdurdodiadau ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid
  • sy’n allforio cynhyrchion bwyd anifeiliaid i’r UE
  • sydd â cheisiadau i ddiweddaru’r rhestr o fwyd anifeiliaid at ddibenion maeth penodol (PARNUTS) sy’n dal i gael eu prosesu ar 31 Rhagfyr 2020
  • sy’n cynrychioli cwmnïau sydd wedi’u lleoli mewn gwledydd nad ydynt yn rhan o’r UE sy’n dibynnu ar gynrychiolaeth y DU ar gyfer masnach yr UE.

Trosolwg

Bydd angen i’ch busnes fod wedi’i sefydlu yn yr UE neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), neu fod â chynrychiolydd sydd wedi’i sefydlu yn yr UE neu’r AEE os ydych chi’n dymuno masnachu yn yr UE. Mae’r AEE yn cynnwys Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy. Rôl y cynrychiolydd yw rhoi sicrwydd bod y sefydliad nad yw yn yr UE yn cydymffurfio â deddfwriaeth yr UE. Mae’r canllawiau canlynol yn esbonio beth sydd angen i chi ei wneud.

Penodi cynrychiolydd

Wrth benodi cynrychiolydd, dylai busnesau yn y DU sicrhau bod y cynrychiolydd arfaethedig wedi’i leoli yn un o 27 o wledydd yr UE, neu wlad yn yr AEE, a’i fod yn gallu darparu’r sicrwydd angenrheidiol i weithredu fel y cyfryw. Pan gaiff ei benodi, mae angen i’r cynrychiolydd gyflwyno cais i’r awdurdod cymwys priodol yng ngwlad yr UE neu wladwriaeth yr AEE lle mae wedi’i leoli. Dylai’r busnes yn y DU gael cadarnhad ei fod wedi gwneud hynny ac, yn olaf, fod yr awdurdod cymwys wedi hysbysu’r Comisiwn Ewropeaidd.

Busnesau yn y DU sy’n dal awdurdodiadau’r UE ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid GM, neu ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid

Os oes gennych chi awdurdodiadau’r UE ar gyfer bwyd neu fwyd anifeiliaid GM, neu ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid, bydd angen i chi ddynodi cynrychiolydd sydd wedi’i sefydlu yn yr UE neu’r AEE. Bydd angen i chi ddarparu manylion y cynrychiolydd i’r Comisiwn Ewropeaidd. Gallai hyn fod yn gangen o’ch busnes sydd wedi’i sefydlu yn yr UE neu’r AEE, neu fusnes arall. Mae angen i newidiadau i awdurdodiadau penodol i’r deilydd ar gyfer bwyd neu fwyd anifeiliaid GM neu ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid gael eu diwygio yn rhan o ddeddfwriaeth yr UE a fyddai’n gorfod bod ar waith erbyn 31 Rhagfyr 2020. Mae angen i fusnesau sydd wrthi’n rhoi newidiadau o’r fath ar waith gysylltu â’r Comisiwn Ewropeaidd cyn gynted â phosibl.

Allforwyr cynhyrchion bwyd anifeiliaid y DU i’r UE

Bydd gofyn i’r rheiny sy’n allforio cynhyrchion bwyd anifeiliaid i’r Undeb Ewropeaidd (UE) fod â chynrychiolaeth yn yr UE neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Fel canllaw yn unig, mae gweithdrefnau cyfredol y DU ar ddod yn gynrychiolydd ar gael ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Bydd gan bob un o wledydd yr UE eu systemau eu hunain mewn perthynas â hyn, a dylai busnesau ymgynghori ag awdurdod cymwys perthnasol y wlad benodol yn yr UE am gyngor pellach ar ennill cydnabyddiaeth ar gyfer eu cynrychiolydd. Byddai’r gofyniad o ran cynrychiolaeth gwlad nad yw’n rhan o’r UE yn berthnasol i’r holl gynhyrchion bwyd anifeiliaid sy’n cael eu hallforio i’r UE.

Byddai’r gofyniad o ran cynrychiolaeth gwlad nad yw’n rhan o’r UE yn berthnasol i’r holl gynhyrchion bwyd anifeiliaid. Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad y Comisiwn Ewropeaidd o ddehongliad diwygiedig o Reoliad (CE) 183/2005, Erthygl 24. Ar hyn o bryd mae’r ASB yn ceisio eglurder ar y dehongliad hwn, ond dylai cwmnïau ragweld y dehongliad diwygiedig hwn ac ystyried dynodi cynrychiolydd o fewn yr UE neu’r AEE.

Cynrychiolwyr trydydd gwlad

Bydd gofyn i’r rheiny sy’n allforio cynhyrchion bwyd anifeiliaid i’r Undeb Ewropeaidd (UE) fod â chynrychiolaeth yn yr UE neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).

Rydym yn ymwybodol bod gan rai aelod-wladwriaethau reolau cenedlaethol penodol ar ofynion cael cynrychiolydd ar gyfer mewnforio bwyd anifeiliaid i’r UE. Er enghraifft, efallai y byddant yn mynnu bod yn rhaid cofrestru pob mewnforiwr bwyd anifeiliaid, gan gynnwys y rheiny o sefydliadau y tu allan i’r UE sydd â chynrychiolydd mewn Aelod-wladwriaeth arall. Dylai busnesau felly ymgynghori ag awdurdod cymwys perthnasol yr aelod-wladwriaeth(au) unigol y maent am allforio iddynt, er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio ag unrhyw reolau cenedlaethol ac i gael cyngor pellach ar ennill cydnabyddiaeth i’w cynrychiolydd.

Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am awdurdodau cymwys mewn aelod-wladwriaethau trwy wefan y Comisiwn neu drwy dab ‘systemau rheoli’ y proffiliau gwlad ar gyfer pob Aelod-wladwriaeth, ar y dudalen hon ar wefan y Comisiwn.

Gallech hefyd ofyn am eglurhad gan eich cynrychiolydd trydydd gwlad a allai fynd at yr awdurdod cymwys perthnasol yn yr Aelod-wladwriaeth.

Labelu

Mae Rheoliad (CE) Rhif 767/2009 yn darparu manylion y gofynion labelu ar gyfer bwyd anifeiliaid. Mae Erthygl 12 yn nodi mai’r person sy’n gyfrifol am y labelu fydd y gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid sy’n rhoi’r bwyd anifeiliaid ar y farchnad gyntaf neu’r gweithredwr busnes bwyd y mae ei enw neu ei fusnes yn cael ei ddefnyddio i farchnata’r bwyd anifeiliaid.

Efallai y bydd yn ofynnol i gynhyrchion bwyd anifeiliaid o’r DU sy’n mynd i farchnad yr UE fod â manylion cynrychiolydd trydydd gwlad ar y label (hynny yw, enw a chyfeiriad y cwmni neu arall).

Dylech ofyn am eglurhad gyda’ch cynrychiolydd trydydd gwlad neu’r awdurdod cymwys yn yr Aelod-wladwriaeth(au) unigol yr ydych yn dymuno allforio iddi, er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r rheolau cenedlaethol.

Rhifau Cymeradwyo

Mae Rheoliad (CE) Rhif 183/2005 ar hylendid bwyd anifeiliaid yn nodi y bydd sefydliadau a gymeradwywyd gan yr awdurdod cymwys yn cael eu cofnodi mewn rhestr genedlaethol o dan rif adnabod unigol. O 1 Ionawr 2021, mae’n bosibl na fydd y rhifau cymeradwyo hyn yn cael eu cydnabod yng ngwledydd yr UE.

Dylech ofyn am eglurhad gan eich cynrychiolydd trydydd gwlad neu’r awdurdod cymwys yn yr Aelod-wladwriaeth(au) unigol yr ydych yn dymuno allforio iddi, er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r rheolau ar ofynion trydydd gwlad wrth allforio i’r UE.

Busnesau eraill o fewn cwmpas y canllawiau hyn

Bydd angen i fusnesau yn y DU sydd wedi gwneud cais am awdurdodiad yr UE o fwyd neu fwyd anifeiliaid GM; ychwanegion bwyd; neu ddiweddariadau i’r rhestr o PARNUTS (bwyd at ddefnydd maethol neilltuol), ac y mae eu cais yn dal i gael ei brosesu, a’u bod yn dymuno i’r cais/ceisiadau barhau, ddynodi cynrychiolydd sydd wedi’i sefydlu o fewn un o wledydd yr UE neu’r AEE. Byddai angen i’r busnes hefyd ddarparu manylion y cynrychiolydd i’r Comisiwn Ewropeaidd. Ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid, mae hyn yn berthnasol i’r ddau awdurdod cyffredinol a’r rhai sy’n gysylltiedig â deiliad awdurdodiad penodol.

Bydd angen i fusnesau yn y DU sy’n gweithredu fel cynrychiolwyr ar gyfer sefydliadau mewn gwledydd nad ydynt yn yr UE er mwyn eu galluogi i allforio cynnyrch bwyd anifeiliaid i’r UE, hysbysu’r sefydliadau y maent yn eu cynrychioli na fyddant bellach yn gallu gweithredu fel cynrychiolydd a’u cynghori y bydd angen iddynt benodi cynrychiolydd wedi’i leoli mewn gwlad yn yr UE neu’r AEE.

Mewnforion i’r DU

O 1 Ionawr 2021, bydd angen i fusnesau trydydd gwlad, gan gynnwys y rheini yn Aelod-wladwriaethau’r UE neu wladwriaethau’r AEE, sy’n dymuno mewnforio bwyd anifeiliaid i’r DU gael cynrychiolydd o’r DU os ydynt am fewnforio cynhyrchion i’r DU. Mae rhagor o fanylion ar wneud cais am gynrychiolwyr ar gael ar wefan yr ASB.

Sut y mae llywodraeth y DU yn gweithio gyda phawb sydd â diddordeb?

Mae’r ASB wedi cysylltu â rhanddeiliaid allweddol i roi gwybod iddynt am y gofynion hyn a’r diweddaraf ar ddatblygiadau.

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech ragor o wybodaeth neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y canllawiau hyn, anfonwch e-bost at yr ASB drwy AnimalFeed1@food.gov.uk

Mae’r holl wybodaeth a ddarperir yma yn ganllawiau yn unig. Dylech ystyried a oes angen cyngor proffesiynol ar wahân arnoch cyn gwneud unrhyw baratoadau penodol.

Cyhoeddwyd ar 31 January 2020