Hysbysiadau Diogelu rhag Cam-drin Domestig (DAPNs) a Gorchmynion Diogelu rhag Cam-drin Domestig (DAPOs)
Dysgwch sut gall DAPNs a DAPOs helpu i’ch diogelu chi os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn dioddef cam-drin domestig.
Os ydych chi mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999 a gofyn am yr heddlu. Os na allwch siarad a’ch bod yn galw ar ffôn symudol, pwyswch 55 i drosglwyddo’ch galwad i’r heddlu. Mae rhagor o wybodaeth am sut i adnabod cam-drin domestig a chael help ar gael yn: Cam-drin domestig: sut i gael help
Mae’r ddogfen hon yn rhoi gwybodaeth am beth yw Hysbysiadau Diogelu rhag Cam-drin Domestig (DAPNs) a Gorchmynion Diogelu rhag Cam-drin Domestig (DAPOs), sut gallwch chi wneud cais am DAPO, a beth mae’n ei olygu os gwneir cais am DAPO ar eich rhan gan y llys. O fis Tachwedd 2026, mae’r gorchmynion hyn ar gael ledled Cymru a Lloegr (wedi’u cyflwyno’n genedlaethol).
Os ydych chi’n ddioddefwr cam-drin domestig neu’n adnabod rhywun arall sy’n dioddef cam-drin domestig, efallai y gallwch wneud cais am DAPO. Os ydych chi’n ddioddefwr, efallai y gwneir cais am DAPO ar eich rhan, er enghraifft gan yr heddlu, gan berthynas neu weithiwr cymdeithasol, a gwneir hynny gan y llys. Neu gall y llys wneud DAPO ar ei liwt ei hun yn ystod achos llys sy’n mynd rhagddo.
Mae’r Cod Dioddefwyr yn egluro eich hawliau fel dioddefwr trosedd.
Beth ydy cam-drin domestig?
Mae Deddf Cam-drin Domestig 2021 yn dweud y gall ymddygiad camdriniol gynnwys unrhyw un o’r canlynol: cam-drin corfforol neu rywiol; ymddygiad treisgar neu fygythiol; ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi; cam-drin economaidd; cam-drin seicolegol, emosiynol neu fath arall o gam-drin.
Beth yw Hysbysiad Diogelu rhag Cam-drin Domestig (DAPN)?
DAPN yw cam cyntaf y fframwaith Diogelu rhag Cam-drin Domestig, gan ddarparu amddiffyniad ar unwaith tra bo’r heddlu’n gwneud cais i’r llys am Orchymyn Diogelu rhag Cam-drin Domestig (DAPO).
Mae DAPN yn cael ei roi gan yr heddlu i gyflawnwr i ddarparu amddiffyniad ar unwaith i ddioddefwyr pob math o gam-drin domestig. Gellir rhoi DAPN pan fydd yr heddwas o’r farn bod sail resymol dros gredu bod person wedi bod yn gamdriniol tuag at berson arall sy’n 16 oed neu’n hŷn. Rhaid i’r cyflawnwr fod yn 18 oed neu’n hŷn. Rhaid i’r dioddefwr a’r cyflawnwr hefyd fod â chysylltiad personol - er enghraifft, maent yn briod neu wedi bod yn bartneriaid sifil, mewn perthynas neu wedi bod mewn perthynas, neu’n perthyn. Mae DAPN yn cynnwys cyfarwyddiadau penodol y mae’n rhaid i’r cyflawnwr eu dilyn, fel aros i ffwrdd o gartref dioddefwr.
Bydd yr heddlu’n ystyried a oes angen DAPN i amddiffyn y dioddefwr rhag cam-drin domestig neu’r risg o gam-drin domestig. Os bydd yr heddlu’n rhoi DAPN, rhaid iddynt wneud cais i DAPO gael ei glywed gan y llys ynadon o fewn 48 awr, gyda’r DAPN yn aros mewn grym nes bydd y llys wedi ystyried y cais.
Mae DAPN yn gyfreithiol rwymol, a gallai methu â dilyn ei amodau arwain at arestio’r cyflawnwr a dod ag ef gerbron llys ynadon.
Beth yw Gorchymyn Diogelu rhag Cam-drin Domestig (DAPO)?
DAPO yw’r gorchymyn llys a all ddilyn DAPN ac sy’n darparu amddiffyniad tymor hwy. Gellir gwneud DAPO hefyd heb i DAPN gael ei roi gyntaf.
Gall y llys wneud DAPO i amddiffyn dioddefwyr rhag pob math o gam-drin domestig, gan gynnwys cam-drin heb fod yn gorfforol ac ymddygiad rheolaethol neu orfodaethol. Gall llys wneud DAPO ar ei liwt ei hun yn ystod achosion troseddol, teuluol neu sifil sy’n mynd rhagddynt. Gall yr heddlu hefyd wneud ceisiadau, gan ddioddefwr ei hun neu gan rywun nad yw’n ymwneud yn uniongyrchol â’r achos (ar ran y dioddefwr), a elwir yn ‘drydydd parti’. Gallai trydydd parti gynnwys aelod o’r teulu, ffrind, gweithiwr cymorth arbenigol cam-drin domestig neu weithiwr cymdeithasol.
Mae DAPOs yn orchmynion diogelu a gellir eu defnyddio i osod cyfyngiadau ac amodau ar gyflawnwr cam-drin domestig.
- Rheol sy’n atal rhywun rhag gwneud rhywbeth yw gwaharddiad. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys atal cyflawnwr rhag cysylltu â dioddefwr dros y ffôn (galwadau ffôn, negeseuon testun), e-bost neu gyfryngau cymdeithasol neu ddod o fewn pellter penodol i gartref dioddefwr a/neu unrhyw safle penodol, fel gweithle dioddefwr.
- Bydd DAPO bob amser yn cynnwys gofynion hysbysu gorfodol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i gyflawnwr sy’n destun DAPO roi ei enw a’i gyfeiriad i’r heddlu a dweud wrth yr heddlu am unrhyw newidiadau i’r rhain. Mae’n ofynnol i’r cyflawnwr sy’n destun DAPO roi ei enw a’i gyfeiriad i’r heddlu yn gyntaf o fewn 3 diwrnod i wneud DAPO, ac ar ôl hynny, o fewn 3 diwrnod i unrhyw newidiadau i’r rhain.
- Gall y llys benderfynu gosod monitro electronig (a elwir yn ‘tagio’) ar gyflawnwr i fonitro a yw’n dilyn rheolau penodol y DAPO, er enghraifft y rheini sy’n atal cyflawnwr rhag dod o fewn pellter penodol i gartref y dioddefwr. Ni fydd monitro electronig ar gael o ddechrau’r cyflwyniad cenedlaethol ym mis Tachwedd 2026.
- Gall y llys hefyd benderfynu gosod gofyniad cadarnhaol sy’n galw ar y cyflawnwr i gymryd camau cadarnhaol. Adeg cyflwyno’n genedlaethol, dim ond pan fydd yr heddlu’n gwneud cais ar eich rhan neu pan fydd y gorchymyn yn cael ei wneud mewn achos troseddol sy’n mynd rhagddo y bydd gofynion cadarnhaol sy’n seiliedig ar raglen, fel mynychu rhaglen newid ymddygiad, ar gael i ddechrau. Gellir gosod gofynion cadarnhaol nad ydynt yn seiliedig ar raglenni, fel tynnu cynnwys sy’n ymwneud â chi oddi ar gyfryngau cymdeithasol neu ddychwelyd allweddi i eiddo.
Am faint mae DAPO yn para?
Nid oes gan DAPO unrhyw isafswm nac uchafswm hyd. Bydd y llys yn ystyried pa mor hir y mae angen i’r DAPO bara i amddiffyn dioddefwr rhag cam-drin domestig neu’r risg o gam-drin domestig a bydd yn nodi hyd y gorchymyn pan fydd yn gwneud DAPO.
Beth fydd yn digwydd os na fydd amodau’r DAPO yn cael eu dilyn?
Mae DAPO yn gyfreithiol rwymol ac mae torri unrhyw un o’i reolau yn cael ei alw’n dorri amodau. Mae torri amodau DAPO yn drosedd a dylid riportio hynny bob amser. Os ydych chi’n ymwybodol bod unrhyw un o amodau neu reolau DAPO wedi cael eu torri, dylech gysylltu â’r heddlu. Os ydych chi mewn perygl, dylech ffonio 999.
Pan gaiff achos o dorri amodau DAPO ei riportio, bydd yr heddlu’n ymchwilio i hynny ac yn gweithio gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron i benderfynu a fydd yr achos yn cael ei gyhuddo fel trosedd. Bydd yr heddlu’n rhoi gwybod i chi sut mae’r achos yn mynd rhagddo. Os ceir yr unigolyn yn euog o dorri amodau DAPO, gall y llys roi dedfryd o hyd at bum mlynedd o garchar, dirwy, neu’r ddau.
Pan fyddwch yn riportio tor-amod, bydd yr heddlu’n rhoi cyfeirnod trosedd i chi. Cadwch nodyn o hyn rhag ofn y bydd angen i chi fynd ar drywydd hyn.
Sut mae gwneud cais am DAPO?
Mae sawl ffordd y gallwch wneud cais am DAPO:
- Gallwch roi gwybod i’r heddlu am gam-drin domestig a gofyn iddynt roi DAPN neu wneud cais am DAPO ar eich rhan. Bydd yr heddlu’n penderfynu a oes angen DAPN i ddechrau.
- Gallwch wneud cais am DAPO eich hun yn y llys teulu. I wneud hynny, bydd angen i chi lenwi ffurflen llys DA1. Mae’r ffurflen ar gael yn: Gwneud cais am orchymyn diogelu rhag cam-drin domestig mewn llys teulu
- Os ydych chi a’r unigolyn rydych chi’n ceisio cael eich amddiffyn rhagddo eisoes yn ymwneud ag achos llys teulu arall, gallwch hefyd wneud cais yn uniongyrchol i’r llys hwnnw, gan ddefnyddio’r ffurflen DA1. Mewn rhai amgylchiadau, gall y llys hefyd benderfynu gwneud DAPO ar ei liwt ei hun os yw’n credu bod hyn yn angenrheidiol i’ch amddiffyn. Os ydych chi’n ymwneud ag achos sifil, gallwch gael gwybodaeth am sut mae gwneud cais mewn llys sirol
- Os oes achos troseddol yn erbyn y cyflawnwr am drosedd arall, gall y llys hefyd wneud DAPO i’ch amddiffyn, ni waeth a yw’r cyflawnwr wedi’i gael yn euog neu’n ddieuog o’r drosedd honno.
Gall ‘trydydd parti’ hefyd wneud cais am DAPO ar eich rhan. Mae ‘trydydd parti’ yn rhywun nad yw’n ymwneud yn uniongyrchol â’r cam-drin. Er enghraifft, gallai fod yn aelod o’r teulu, ffrind, gweithiwr/gwasanaeth cymorth arbenigol cam-drin domestig neu weithiwr cymdeithasol. Yn ogystal â rhoi gwybod i’r heddlu am gam-drin domestig, gall trydydd parti wneud cais i lys teulu, cyn belled â’u bod yn cael caniatâd gan y llys. I wneud hyn, bydd angen i drydydd parti lenwi ffurflenni DA1 (Cais am Orchymyn Diogelu rhag Cam-drin Domestig) a DA2 (Cais am ganiatâd i wneud cais am Orchymyn Diogelu rhag Cam-drin Domestig).
Gallwch ofyn am unrhyw ofyniad a allai gael ei ystyried yn angenrheidiol i’ch amddiffyn rhag cam-drin domestig neu’r risg o gam-drin domestig. Bydd y llys yn ystyried y ceisiadau hyn wrth wneud DAPO.
A oes unrhyw gost yn gysylltiedig â gwneud cais am DAPO?
Nid oes ffioedd llys ar gyfer dioddefwyr sy’n gwneud cais am DAPO.
Ble gallaf wneud cais am DAPO?
Ar ôl cyflwyno’n genedlaethol ym mis Tachwedd 2026, mae DAPOs ar gael ledled Cymru a Lloegr. Mae gwybodaeth am sut i wneud cais i’r llys teulu, gan gynnwys ffurflenni a chanllawiau’r llys, ar gael ar GOV.UK. Gallwch ddod o hyd i’ch llys lleol drwy ddilyn y ddolen hon: https://www.gov.uk/find-court-tribunal
Gwnaed DAPO ar fy rhan, beth mae hyn yn ei olygu i mi?
Os ydych chi’n ddioddefwr cam-drin domestig, gellir defnyddio DAPN neu wneud cais am DAPO ar eich rhan ac er eich diogelwch. Mewn rhai amgylchiadau, rhoddir DAPN neu bydd DAPO yn cael ei wneud heb eich caniatâd os credir eich bod mewn perygl o niwed.
Os ydych eisoes yn ymwneud ag achos troseddol, achos teulu neu achos penodol arall yn y llys sifil, gall y llys wneud DAPO os yw’r llys yn penderfynu bod angen eich amddiffyn. Gall y llys wneud hyn hyd yn oed os nad yw’r achos yn ymwneud â cham-drin domestig. Bydd y llys yn ystyried eich barn cyn gwneud hynny.
Mae’r gyfraith hefyd yn caniatáu i’r heddlu roi DAPN neu wneud cais am DAPO i’ch amddiffyn. Byddant yn gwneud hyn os ydynt o’r farn bod y cyflawnwr wedi bod yn ymosodol tuag atoch chi neu eich bod mewn perygl o gam-drin domestig. Mae gan yr heddlu ddyletswydd i ystyried eich barn cyn bwrw ymlaen.
Pan fydd yr heddlu’n gwneud cais am DAPO ar eich rhan, efallai y byddant yn gofyn i chi a hoffech gyflwyno tystiolaeth lafar neu ysgrifenedig i gefnogi eu cais. Gall y llys ystyried unrhyw dystiolaeth a gyflwynir yn y gwrandawiad. Os bydd yr heddlu’n gwneud cais am DAPO ar eich rhan, ni ellir eich gorfodi i fynychu’r gwrandawiad llys, oni bai eich bod wedi cyflwyno tystiolaeth.
Mae cymorth ar gael os oes DAPN wedi cael ei roi neu os oes DAPO wedi cael ei wneud i’ch diogelu. Efallai yr hoffech gysylltu â gwasanaeth cymorth cam-drin domestig arbenigol i gael cyngor a chymorth - https://www.gov.uk/guidance/domestic-abuse-how-to-get-help/get-help-and-support. Gall y gwasanaethau hyn ddarparu cymorth ymarferol ac emosiynol, eich helpu i ddeall beth mae DAPN neu DAPO yn ei olygu, trafod eich opsiynau a’ch helpu i gynllunio ar gyfer diogelwch. Gallwch hefyd siarad â chynghorydd trais domestig annibynnol, gweithiwr cymdeithasol neu weithiwr cymorth proffesiynol arall os oes angen help arnoch i gael gafael ar wasanaethau neu i ddeall y cymorth sydd ar gael i chi.
Beth sy’n digwydd pan ddaw’r DAPO i ben?
Os yw DAPO yn dod i ben yn fuan, a’ch bod yn poeni am eich diogelwch, gallwch gysylltu â’r heddlu neu wasanaeth cymorth cam-drin domestig. Gallwch chi, trydydd parti neu’r heddlu wneud cais i newid y gorchymyn (a elwir yn amrywio) i wneud iddo bara’n hirach. Os yw’r gorchymyn eisoes wedi dod i ben, gallwch chi, trydydd parti neu’r heddlu wneud cais am orchymyn newydd.
Beth os nad ydw i’n cytuno â’r DAPO neu os ydw i eisiau ei newid?
Gallwch wneud cais i’r llys a wnaeth y gorchymyn i’w newid (amrywio) neu i ddod ag ef i ben (a elwir yn ddiddymu). I wneud hyn, bydd angen i chi lenwi ffurflen DA3 (Cais i amrywio neu ddiddymu gorchymyn diogelu rhag cam-drin domestig), wedi’i hategu gan ddatganiad tyst. Gallwch hefyd ofyn i’r llys a wnaeth y DAPO sut i wneud hyn.
Gallwch hefyd apelio yn erbyn DAPO. Gallwch ofyn i’r llys a wnaeth y DAPO sut y gallwch apelio.
Efallai y byddwch am gael cymorth neu gyngor cyfreithiol os nad ydych yn cytuno â DAPO neu os ydych am ei newid (gweler isod).
Alla i gael cyngor cyfreithiol am ddim?
Efallai y byddwch yn dymuno gofyn am gyngor cyfreithiol ynghylch DAPO sydd wedi cael ei wneud er eich diogelwch neu ynghylch gwneud cais am DAPO. Gall cymorth cyfreithiol helpu i dalu costau cyngor cyfreithiol ac mae ar gael i ddioddefwyr sydd eisiau gwneud cais am DAPOs, yn amodol ar brofion modd a theilyngdod. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch a allwch chi gael cymorth cyfreithiol yn: www.gov.uk/legal-aid.
Os ydych eisoes yn ymwneud ag achos mewn llys teulu neu lys sirol gyda’r cyflawnwr, bydd eich cynghorydd cyfreithiol fel arfer yn gwneud cais am gymorth cyfreithiol ar eich rhan.
Os nad ydych chi’n siŵr ble i gael cyngor cyfreithiol, efallai y bydd gwasanaeth cymorth cam-drin domestig arbenigol yn gallu darparu gwybodaeth a’ch cyfeirio at gymorth cyfreithiol priodol, gan gynnwys cynghorwyr cyfreithiol lle bo hynny’n berthnasol.
Pwy all fy helpu i wneud cais am DAPO?
Mae FLOWS (Finding Legal Options for Women Survivors) yn cynnig cymorth a chyngor cyfreithiol am ddim i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig ar sut i wneud cais am DAPO. Does dim rhaid i chi fod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol i gael help gan FLOWS. Gallwch gysylltu â FLOWS ar 0203 745 7707, drwy anfon e-bost at flows@rjadvice.org.uk neu drwy eu gwefan.
Efallai y gallwch hefyd gael cymorth gan sefydliadau eraill sy’n cynnig cymorth a chefnogaeth i ddioddefwyr cam-drin domestig.