Hysbysiadau a gorchmynion diogelu rhag cam-drin domestig: canllawiau
Canllawiau hysbysiadau diogelu rhag cam-drin domestig (DAPNs) a gorchmynion diogelu rhag cam-drin domestig (DAPOs).
Mae hysbysiadau diogelu rhag cam-drin domestig (DAPNs) a gorchmynion diogelu rhag cam-drin domestig (DAPOs) ar gael ar draws Cymru a Lloegr o 25 Tachwedd 2026.
Maent yn gallu amddiffyn unigolyn 16 oed neu hŷn rhag rhywun 18 oed neu hŷn, os oes ganddynt gysylltiad personol â’r person hwnnw (cyn-bartner neu berthynas, er enghraifft).
Mae’r dudalen hon yn dod â chanllawiau sy’n ymwneud â DAPNs a DAPOs ynghyd.
Os ydych mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999 a gofynnwch am yr heddlu. Os na allwch siarad a’ch bod yn defnyddio ffôn symudol, pwyswch 55 i drosglwyddo’ch galwad i’r heddlu.
Canllawiau statudol i'r heddlu
Yn rhoi gwybodaeth i’r heddlu pryd i ystyried neu wneud cais am hysbysiad diogelu rhag cam-drin domestig (DAPN) neu orchymyn diogelu rhag cam-drin domestig (DAPO).
Canllawiau i ymarferwyr cyfreithiol
Canllawiau i ymarferwyr cyfreithiol ac asiantaethau cynghori sy’n gweithio ar achosion gorchmynion diogelu rhag cam-drin domestig, yn enwedig yn y llysoedd teulu a sirol.
Canllawiau i awdurdodau lleol a gwasanaethau cymorth
Gwybodaeth i staff awdurdod lleol a gwasanaethau cymorth rhag cam-drin domestig sy’n helpu pobl sydd angen eu diogelu rhag cam-drin domestig.
Beth i'w wneud os byddwch yn derbyn hysbysiad neu orchymyn cam-drin domestig
Canllawiau ar beth i’w wneud os bydd yr heddlu yn rhoi hysbysiad diogelu rhag cam-drin domestig i chi neu os bydd llys yn gwneud gorchymyn diogelu rhag cam-drin domestig yn eich erbyn.
Canllawiau i ddioddefwyr cam-drin domestig
Dysgwch sut i gael eich diogelu rhag cam-drin domestig drwy orchymyn diogelu rhag cam-drin domestig a sut i gael help os bydd gorchymyn yn cael ei dorri.