Hysbysiadau Diogelu rhag Cam-drin Domestig (DAPNs) a Gorchmynion Diogelu rhag Cam-drin Domestig (DAPOs)
Canllawiau os oes DAPN wedi’i roi neu os gwnaed cais am DAPO neu os rhoddwyd DAPO yn eich erbyn.
Os ydych chi wedi cael Hysbysiad Diogelu rhag Cam-drin Domestig (DAPN) neu Orchymyn Diogelu rhag Cam-drin Domestig (DAPO) neu os oes cais wedi’i wneud am un yn eich erbyn, bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall beth yw DAPN neu DAPO, beth mae’n ei olygu, a beth mae angen i chi ei wybod am gydymffurfio â’r hysbysiad neu’r gorchymyn. O fis Tachwedd 2026, mae’r gorchmynion hyn ar gael ledled Cymru a Lloegr (wedi’u cyflwyno’n genedlaethol).
Mae DAPNs a DAPOs yn gyfreithiol rwymol. Os gwneir DAPO a’ch bod yn torri ei amodau heb esgus rhesymol, gallwch gyflawni trosedd a gallech wynebu mynd i’r carchar, cael dirwy, neu’r ddau.
Gellir rhoi DAPN neu wneud cais am DAPO pan nodir cam-drin domestig. Bydd y llys yn ystyried a oes angen DAPO i amddiffyn unigolyn rhag pob math o gam-drin domestig neu’r risg o gam-drin domestig, gan gynnwys cam-drin heb fod yn gorfforol ac ymddygiad rheolaethol neu orfodaethol.
Os ydych chi eisiau cyngor am DAPN neu DAPO, efallai yr hoffech gysylltu â chyfreithiwr neu Gyngor ar Bopeth. Efallai y gallant ddarparu gwybodaeth am eich opsiynau ac unrhyw gymorth cyfreithiol a allai fod ar gael i chi.
Os ydych chi’n poeni bod eich ymddygiad yn gamdriniol ac yn dymuno newid, mae Respect Phoneline yn cynnig cymorth am ddim dros y ffôn, drwy e-bost ac ar y we i’r rheini sy’n cyflawni cam-drin domestig yn y DU. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar eu gwefan: www.respectphoneline.org.uk
Beth ydy cam-drin domestig?
Mae Deddf Cam-drin Domestig 2021 yn dweud y gall ymddygiad camdriniol gynnwys unrhyw un o’r canlynol: cam-drin corfforol neu rywiol; ymddygiad treisgar neu fygythiol; ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi; cam-drin economaidd; cam-drin seicolegol, emosiynol neu fath arall o gam-drin.
Beth yw Hysbysiad Diogelu rhag Cam-drin Domestig (DAPN)?
Mae DAPN yn cael ei roi gan yr heddlu i ddarparu amddiffyniad ar unwaith i ddioddefwyr cam-drin domestig. Mae’n cynnwys cyfarwyddiadau penodol y mae’n rhaid i’r cyflawnwr eu dilyn, fel aros i ffwrdd o gartref y dioddefwr. Gellir rhoi DAPN pan fydd yr heddwas o’r farn bod sail resymol dros gredu bod person 18 oed neu hŷn wedi bod yn gamdriniol tuag at berson arall sy’n 16 oed neu’n hŷn o leiaf. Rhaid i’r cyflawnwr a’r dioddefwr hefyd fod â chysylltiad personol, er enghraifft, maent yn briod neu wedi bod yn bartneriaid sifil, mewn perthynas neu’n perthyn.
Bydd yr heddlu’n ystyried a oes angen DAPN i amddiffyn y dioddefwr rhag cam-drin domestig neu’r risg o gam-drin domestig. Os bydd yr heddlu’n rhoi DAPN, rhaid iddynt wneud cais i’r llys ynadon wrando ar gais am Orchymyn Diogelu rhag Cam-drin Domestig (DAPO) o fewn 48 awr.
Mae DAPN yn gyfreithiol rwymol, a gallai methu â dilyn ei reolau arwain at arestio’r cyflawnwr a dod ag ef gerbron llys ynadon.
Beth mae’n ei olygu os yw’r heddlu wedi rhoi DAPN i mi?
Mae DAPN yn rhoi terfynau a rheolau ar waith ar unwaith y mae’r heddlu’n credu sy’n angenrheidiol i atal cam-drin domestig neu i leihau’r risg o gam-drin domestig. Gallai hyn gynnwys cyfarwyddiadau penodol fel rhoi’r gorau i gysylltu â’r dioddefwr neu aros i ffwrdd o gartref y dioddefwr.
Bydd yr heddlu’n rhoi gwybod i chi pan fyddant wedi rhoi DAPN i chi neu wedi gwneud cais am DAPO yn eich erbyn. Os rhoddir DAPN, rhaid i’r heddlu ei roi i chi’n bersonol.
Bydd yr heddlu’n egluro amodau DAPN pan fyddant yn ei roi. Os oes DAPN wedi cael ei roi yn eich erbyn, rhaid i chi gydymffurfio â’i delerau. Mae DAPN yn gyfreithiol rwymol. Os na fyddwch yn cydymffurfio â’i amodau, gallech gael eich arestio a’ch dwyn gerbron y llys ynadon cyntaf sydd ar gael. Os bydd yr heddlu’n rhoi DAPN, rhaid iddynt wedyn wneud cais am DAPO. Fel arfer, gwrandewir cais DAPO gan y llys ynadon o fewn 48 awr.
Beth yw Gorchymyn Diogelu rhag Cam-drin Domestig (DAPO)?
Gall y llys wneud DAPO i amddiffyn dioddefwyr rhag pob math o gam-drin domestig, gan gynnwys cam-drin heb fod yn gorfforol ac ymddygiad rheolaethol neu orfodaethol. Gall llys wneud DAPO yn ystod achosion troseddol, teuluol neu sifil sy’n mynd rhagddynt. Gall yr heddlu hefyd wneud ceisiadau, gan ddioddefwr ei hun neu gan rywun nad yw’n ymwneud yn uniongyrchol â’r achos (ar ran y dioddefwr), a elwir yn ‘drydydd parti’. Gallai trydydd parti gynnwys aelod o’r teulu, ffrind, neu weithiwr gofal cymdeithasol. Os nad oedd yr heddlu’n ymwneud â chais am DAPO, bydd y llys neu gynrychiolydd cyfreithiol y sawl a wnaeth gais yn rhoi gwybod i chi bod DAPO wedi’i wneud neu y gwnaed cais amdano yn eich erbyn. Bydd yr heddlu hefyd yn cael gwybod am unrhyw DAPO a wneir, hyd yn oed os nad nhw oedd y person neu’r sefydliad a wnaeth gais am y gorchymyn.
Mae DAPO yn gyfreithiol rwymol. Mae torri amodau DAPO heb esgus rhesymol yn drosedd a gall arwain at garchar, dirwy neu’r ddau. Gellir defnyddio DAPOs i osod rheolau ac amodau y mae’n rhaid i chi eu dilyn.
- Rheol sy’n eich atal rhag gwneud rhywbeth yw gwaharddiad. Er enghraifft, gall gynnwys eich atal rhag dod o fewn pellter penodol i gartref y dioddefwr a/neu unrhyw adeilad penodol, fel gweithle’r dioddefwr.
- Bydd DAPO bob amser yn cynnwys gofynion hysbysu gorfodol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi roi eich enw a’ch cyfeiriad i’r heddlu a rhoi gwybod i’r heddlu am unrhyw newidiadau i’r rhain. Yn gyntaf, mae’n ofynnol i chi roi eich enw a’ch cyfeiriad i’r heddlu o fewn 3 diwrnod i wneud DAPO, ac ar ôl hynny, o fewn 3 diwrnod i newid eich enw neu’ch cyfeiriad.
- Efallai y bydd y llys yn penderfynu defnyddio monitro electronig (a elwir yn ‘dagio’) i fonitro a ydych chi’n cydymffurfio â rheolau’r DAPO. Ni fydd monitro electronig ar gael o ddechrau’r cyflwyniad cenedlaethol ym mis Tachwedd 2026.
- Efallai y bydd y llys hefyd yn defnyddio gofyniad cadarnhaol sy’n galw arnoch i gymryd camau cadarnhaol. Adeg cyflwyno’n genedlaethol, dim ond pan fydd yr heddlu’n gwneud cais am y gorchymyn neu pan fydd y gorchymyn yn cael ei wneud mewn achos troseddol sy’n mynd rhagddo y bydd gofynion cadarnhaol sy’n seiliedig ar raglenni, fel mynychu rhaglen newid ymddygiad, ar gael i ddechrau. Gellir gosod gofynion cadarnhaol nad ydynt yn seiliedig ar raglenni, fel tynnu cynnwys sy’n ymwneud â’r dioddefwr oddi ar gyfryngau cymdeithasol neu ddychwelyd allweddi i eiddo.
Am faint mae DAPO yn para?
Nid oes gan y DAPO unrhyw isafswm nac uchafswm hyd. Bydd y llys yn ystyried pa mor hir y mae angen i’r DAPO bara i amddiffyn dioddefwr rhag cam-drin domestig neu’r risg o gam-drin domestig. Bydd y llys yn pennu hyd y gorchymyn pan fydd yn gwneud DAPO.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i wedi cael hysbysiad gwrandawiad DAPO?
Pan wneir cais am DAPO yn eich erbyn, bydd y llys neu’r heddlu yn rhoi gwybod i chi pryd y bydd y llys yn gwrando eich achos. Dylech fynd i’r llys i roi eich tystiolaeth - gweler o dan Beth fydd yn digwydd yn y llys? i gael rhagor o wybodaeth am beth i’w ddisgwyl. Gellir gosod DAPO yn eich erbyn o hyd os na fyddwch yn mynychu’r llys.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i wedi cael DAPO?
Mewn rhai achosion, gall y llys wneud DAPO heb roi gwybod i chi ymlaen llaw na rhoi cyfle i chi fynychu gwrandawiad cyn i’r gorchymyn gael ei wneud. Gall hyn ddigwydd pan fydd y llys o’r farn ei bod yn gyfiawn ac yn gyfleus gwneud y gorchymyn heb rybudd neu yn ôl yr angen i amddiffyn y dioddefwr. Bydd yr heddlu neu’r llys wedyn yn rhoi gwybod i chi am y gorchymyn ac yn rhoi gwybod i chi am delerau’r gorchymyn, gan gynnwys ei hyd ac unrhyw ofynion neu waharddiadau. Bydd papurau’r llys yn dweud pryd y cynhelir y gwrandawiad nesaf, lle bydd gennych hawl i roi eich tystiolaeth - gweler o dan Beth fydd yn digwydd yn y llys? i gael rhagor o wybodaeth am beth i’w ddisgwyl.
Mae DAPO yn gyfreithiol rwymol ac mae torri unrhyw un o’i reolau yn cael ei alw’n dorri amodau. Mae torri amodau DAPO yn drosedd. Gall torri amodau DAPO arwain at hyd at bum mlynedd o garchar, neu ddirwy, neu’r ddau. Wrth benderfynu ar y ddedfryd briodol, bydd y llys yn ystyried y canllawiau dedfrydu perthnasol: https://sentencingcouncil.org.uk/guidelines/breach-of-a-protective-order-restraining-and-non-molestation-orders/
Rhaid i chi gymryd y DAPO o ddifrif a chydymffurfio â’i delerau. Os ydych chi wedi cael DAPO, dylech wneud y canlynol:
- Ymgyfarwyddo â thelerau’r gorchymyn,
- Gwneud yn siŵr eich bod yn deall yr hyn y mae’r DAPO yn gofyn i chi ei wneud a pheidio â’i wneud,
- Osgoi unrhyw gysylltiad â’r dioddefwr. Gall y DAPO eich atal rhag cysylltu â’r dioddefwr gan gynnwys drwy alwadau ffôn, negeseuon testun, e-bost, cyfryngau cymdeithasol, neu unrhyw fath arall o gyfathrebu.
- Gofynnwch am gyngor cyfreithiol, os oes angen.
Cofiwch, eich cyfrifoldeb chi yw dilyn rheolau’r gorchymyn. Mae methu â gwneud hynny yn torri amodau’r gorchymyn.
Beth fydd yn digwydd yn y llys?
Byddwch yn cael amser a dyddiad i ymddangos yn y llys ar gyfer DAPO.
Bydd y llys yn gwrando ac yn ystyried tystiolaeth yr achos. Cewch gyfle i ofyn cwestiynau a rhoi tystiolaeth. Ar ôl clywed y dystiolaeth, bydd y llys yn ystyried a yw’n fwy tebygol na pheidio eich bod wedi bod yn cam-drin y person sydd i’w amddiffyn gan y DAPO (h.y. y dioddefwr). Bydd y llys wedyn yn ystyried a yw DAPO yn ‘angenrheidiol ac yn gymesur’ i amddiffyn y dioddefwr rhag cam-drin domestig neu’r risg neu’r bygythiad o gam-drin domestig pellach. Nid yw DAPO yn euogfarn droseddol.
Mewn rhai achosion, gall llys ynadon neu Lys y Goron ystyried a fyddai gofyniad cadarnhaol yn helpu i fynd i’r afael â’r ymddygiad a arweiniodd at y cais am DAPO. Gallai hyn gynnwys mynychu rhaglen newid ymddygiad, neu raglen camddefnyddio sylweddau neu iechyd meddwl. Lle bo’n briodol, gall y llys osod DAPO gyda gofyniad i chi fynychu asesiad addasrwydd ac, os pennir ei fod yn addas, i chi gymryd rhan mewn rhaglen. Bydd yr heddlu’n rhoi manylion yr asesiad i chi.
Gellir gosod gofynion cadarnhaol nad ydynt yn seiliedig ar raglenni hefyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i chi gymryd camau. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, tynnu cynnwys sy’n ymwneud â’r dioddefwr oddi ar gyfryngau cymdeithasol neu ddychwelyd allweddi i eiddo.
Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn dilyn amodau’r DAPO?
Mae torri amodau DAPO yn drosedd. Mae hyn yn golygu os na fyddwch yn cydymffurfio ag amodau’r gorchymyn y gallech wynebu hyd at bum mlynedd o garchar, neu ddirwy, neu’r ddau.
Beth os nad wyf yn cytuno â’r DAPO neu os wyf am ei newid?
Gallwch wneud cais i’w newid (gelwir hyn yn amrywiad) neu ddod â’r gorchymyn i ben (gelwir hyn yn ddiddymu) drwy wneud cais i’r llys a wnaeth y gorchymyn. I wneud hyn, bydd angen i chi lenwi ffurflen https://assets.publishing.service.gov.uk/media/673efeffb3f0df6d2ebaefe3/DA3_1124.pdf, wedi’i hategu gan ddatganiad tyst. Gallwch hefyd ofyn i’r llys sut i wneud hyn.
Gallwch hefyd apelio yn erbyn DAPO. Gallwch ofyn i’r llys a wnaeth y DAPO am wybodaeth am sut i apelio.
Efallai y byddwch am gael cymorth neu gyngor cyfreithiol os ydych am newid DAPO neu apelio yn ei erbyn (gweler isod).
Alla i gael cyngor cyfreithiol am ddim?
Gall cymorth cyfreithiol helpu i dalu costau cyngor cyfreithiol a bydd ar gael ar gyfer DAPOs, yn amodol ar y profion modd a theilyngdod arferol. Efallai y cewch gymorth cyfreithiol os ydych yn gymwys - bydd hyn yn dibynnu ar eich achos ac ar eich amgylchiadau ariannol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch a allwch chi gael cymorth cyfreithiol yma: https://www.gov.uk/legal-aid.