Cyn i chi ddechrau’r canllaw hwn
Esboniad o’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, trosolwg o’ch blwyddyn gyntaf a rhestr wirio cyn i chi ddefnyddio’r canllaw hwn.
Mae Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn ffordd newydd i unig fasnachwyr a landlordiaid wneud Hunanasesiad.
Mae dim ond angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm os yw’r canlynol yn wir:
-
rydych eisoes wedi’ch cofrestru ar gyfer Hunanasesiad ac wedi cyflwyno Ffurflen Dreth
-
rydych yn cael incwm o hunangyflogaeth fel unig fasnachwr neu o eiddo fel landlord, neu’r ddau
Mae pryd y gall angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn dibynnu ar eich incwm cymhwysol.
Incwm cymhwysol yw’ch trosiant o incwm o hunangyflogaeth ac eiddo. Dyma’r cyfanswm cyn treuliau, yn seiliedig ar y Ffurflen Dreth a gyflwynwyd gennych yn y flwyddyn dreth flaenorol.
Os oedd eich Ffurflen Dreth 2024 i 2025 yn dangos bod eich incwm cymhwysol dros £50,000, mae angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o fis Ebrill 2026.
Mae Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn cael ei gyflwyno’n raddol, fesul cam. Mae’r tabl canlynol yn esbonio pryd y bydd angen i chi ddechrau ei ddefnyddio.
Pryd i ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
| Ffurflen Dreth Hunanasesiad | Incwm cymhwysol | Dyddiad dechrau |
|---|---|---|
| Blwyddyn dreth 2024 i 2025 | mwy na £50,000 | 6 Ebrill 2026 |
| Blwyddyn dreth 2025 i 2026 | mwy na £30,000 | 6 Ebrill 2027 |
| Blwyddyn dreth 2026 i 2027 | mwy na £20,000 | 6 Ebrill 2028 |
Cyn i chi ddefnyddio’r canllaw hwn, gwnewch yn siŵr eich bod wedi dilyn y camau i gofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Camau i’w cwblhau cyn i chi ddefnyddio’r canllaw hwn
-
Gwiriwch a oes angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm (mae hyn yn cynnwys cyfrifo’ch incwm cymhwysol a gwirio a ydych wedi’ch eithrio).
-
Dewch o hyd i feddalwedd sy’n cydweddu — gallwch ddefnyddio ein hofferyn i wirio meddalwedd rydych chi eisoes yn ei defnyddio neu ddod o hyd i feddalwedd newydd.
-
Cofrestrwch ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Os ydych yn asiant, gwnewch yn siŵr eich bod hefyd wedi gwneud y canlynol:
-
wedi creu cyfrif gwasanaethau asiant
-
wedi ychwanegu awdurdodiadau’ch cleient ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Os nad ydych wedi cwblhau’r camau hyn, mae’n bwysig darllen y canllaw cam wrth gam sy’n berthnasol i chi:
Beth sy’n aros yr un peth
Mae rhai pethau yn y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yr un peth â Hunanasesiad.
Mae dal angen i chi wneud y canlynol:
-
cyflwyno un Ffurflen Dreth bob blwyddyn dreth
-
talu eich bil treth fel y gwnewch nawr
Mae’n rhaid i chi wneud y ddau erbyn 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth o hyd.
Beth sy’n newydd
Mae angen i chi wneud pethau newydd ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, fel:
-
defnyddio meddalwedd sy’n cydweddu
-
creu cofnodion digidol o’ch incwm o hunangyflogaeth ac eiddo
-
anfon diweddariadau chwarterol bob 3 mis
-
ychwanegu unrhyw ffynonellau incwm eraill sydd gennych, a chyflwyno eich Ffurflen Dreth gan ddefnyddio’ch meddalwedd
-
deall newidiadau i gosbau
Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut i wneud y pethau hyn a beth sydd angen i chi ei wybod.
Efallai y bydd rhai o’r termau, i ddisgrifio beth sydd angen i chi ei wneud ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, yn newydd i chi. Mae’r adran hon yn esbonio beth maen nhw’n ei olygu a’r wybodaeth allweddol.
Defnyddio meddalwedd sy’n cydweddu
Nid yw CThEF yn darparu meddalwedd, ond mae gwybodaeth am y gwahanol fathau o feddalwedd a sut i ddewis y feddalwedd gywir ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Gallwch hefyd ddefnyddio ein hofferyn i chwilio am feddalwedd — mae’r holl feddalwedd ar y rhestr honno wedi bod drwy broses gydnabod CThEF.
Gallwch ddewis meddalwedd hollgynhwysol i greu cofnodion digidol, anfon eich diweddariadau chwarterol a chyflwyno’ch Ffurflen Dreth, neu gallwch ddewis mwy nag un cynnyrch.
Er enghraifft, os ydych chi’n defnyddio taenlenni ar gyfer eich cofnodion, gallwch barhau i’w defnyddio. Ond bydd angen meddalwedd arnoch o hyd sy’n cysylltu â’ch taenlenni (a elwir weithiau yn feddalwedd bontio). Dyma sut y byddwch chi’n anfon diweddariadau chwarterol ac yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth.
Bydd yn rhaid i’ch meddalwedd wneud popeth sydd ei angen arnoch — mae hyn hefyd yn golygu gallu ychwanegu unrhyw ffynonellau incwm eraill sydd gennych cyn i chi gyflwyno eich Ffurflen Dreth.
Mae defnyddio meddalwedd yn golygu y byddwch yn gallu storio a throsglwyddo’ch cofnodion yn ddiogel.
Creu cofnodion digidol
Cofnod digidol yw cofnod o’ch incwm neu’ch treuliau sy’n cael ei greu a’i storio gan ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Dim ond cofnodion o’ch incwm o hunangyflogaeth ac eiddo y mae angen i chi eu cadw’n ddigidol.
Pan fyddwch chi’n creu cofnod, bydd angen y canlynol arnoch:
-
y swm
-
y dyddiad y cawsoch yr incwm, neu’r dyddiad yr aed i’r treuliau
-
categori eich incwm neu dreuliau (gan ddefnyddio’r un categorïau ag y byddech ar gyfer Hunanasesiad)
Mae cadw cofnodion digidol gan ddefnyddio meddalwedd yn eich galluogi i weld y diweddaraf am eich llif arian i helpu i gefnogi’ch busnes.
Mae hefyd yn eich helpu i ddod o hyd i unrhyw gamgymeriadau’n gynnar.
Anfon diweddariadau chwarterol
Diweddariadau chwarterol yw cyfanswm eich incwm a threuliau o hunangyflogaeth ac eiddo. Crynodeb ydyn nhw, nid Ffurflenni Treth.
Mae eich meddalwedd yn defnyddio’ch cofnodion digidol i greu’r diweddariadau chwarterol.
Mae angen i chi anfon diweddariadau chwarterol bob 3 mis yn ystod y flwyddyn dreth ar gyfer pob busnes unig fasnachwr a busnes eiddo sydd gennych.
Pan fyddwch chi’n anfon diweddariadau chwarterol, byddwch yn gallu gweld eich bil treth disgwyliedig. Gall hyn eich helpu yn y ffordd ganlynol:
-
gwneud penderfyniadau cytbwys ar gyfer eich busnes
-
cael eich treth yn iawn
Cyflwyno’ch Ffurflen Dreth
Bydd eich meddalwedd yn dangos eich incwm a threuliau o hunangyflogaeth ac eiddo ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan, a hynny ar gyfer pob busnes sydd gennych.
Ar ôl i chi wirio hyn, efallai y bydd angen i chi ddiwygio neu ddiweddaru rhywfaint o’r wybodaeth.
Os oes gan CThEF wybodaeth yn barod am eich ffynonellau eraill o incwm ac enillion, byddwn yn ychwanegu hon at eich Ffurflen Dreth. Bydd angen i chi eu gwirio ac ychwanegu unrhyw ffynonellau incwm eraill sydd gennych, fel cynilion neu ddifidendau.
Mae angen i chi hefyd ddefnyddio’ch meddalwedd i gofnodi unrhyw ryddhadau neu lwfansau, fel lwfansau cyfalaf neu ryddhad Rhentu Ystafell.
Yna byddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth gan ddefnyddio’ch meddalwedd.
Osgoi cosbau
Mae cosbau newydd yn disodli’r cosbau presennol am gyflwyno’n hwyr a thalu’n hwyr.
Os ydych chi’n hwyr yn anfon diweddariad chwarterol neu’n cyflwyno’ch Ffurflen Dreth, ni fyddwch yn cael cosb ar unwaith. Yn lle hynny, byddwch yn cael pwynt cosb. Os byddwch chi’n cyrraedd y trothwy pwyntiau, byddwch yn cael cosb. Mae hyn yn golygu y byddwch yn osgoi cosb os byddwch yn gwneud camgymeriad unwaith.
Ni fyddwn yn rhoi pwyntiau cosb ar gyfer diweddariadau chwarterol hwyr ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027. Bydd angen i chi anfon eich diweddariadau chwarterol cyn y gallwch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth.
Os ydych chi’n hwyr yn talu eich bil treth, byddwch yn cael cosb am dalu’n hwyr. Mae’r cosbau newydd am dalu’n hwyr yn cael eu cyfrifo ar sail pa mor hir y mae’n ei gymryd i chi dalu’r hyn sydd arnoch. Po gynted y byddwch chi’n talu, yr isaf fydd y gosb.
Mae pryd y bydd angen i chi ddechrau creu cofnodion digidol ar gyfer eich diweddariadau chwarterol yn dibynnu ar eich cyfnod cyfrifyddu.
Os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn dod i ben ar 5 Ebrill — byddwch yn defnyddio cyfnodau diweddaru safonol ac mae angen i chi greu cofnodion digidol o 6 Ebrill.
Os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn dod i ben ar 31 Mawrth — byddwch yn defnyddio cyfnodau diweddaru calendr ac mae angen i chi gadw cofnodion digidol o 1 Ebrill.
Mae gwybodaeth am wirio eich cyfnod cyfrifyddu yn eich meddalwedd yn yr adran nesaf — Cael eich meddalwedd yn barod.
Mae hefyd wybodaeth am gyfnod pob diweddariad chwarterol yn seiliedig ar eich cyfnod cyfrifyddu yn y llawlyfr am anfon diweddariadau chwarterol.
Mae’r tabl hwn yn esbonio beth sydd angen i chi ei wneud ac erbyn pryd ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm gan ddechrau o fis Ebrill 2026.
| Beth sydd angen i chi ei wneud | Dyddiad |
|---|---|
| Creu cofnodion digidol gan ddefnyddio’ch meddalwedd sy’n cydweddu | O 6 Ebrill 2026 (os ydych chi’n defnyddio cyfnodau diweddaru safonol) O 1 Ebrill 2026 (os ydych chi’n defnyddio cyfnodau diweddaru calendr) |
| Anfon y diweddariad chwarterol cyntaf gan ddefnyddio’ch meddalwedd sy’n cydweddu | Erbyn 7 Awst 2026 |
| Anfon yr ail ddiweddariad chwarterol | Erbyn 7 Tachwedd 2026 |
| Anfon y trydydd diweddariad chwarterol | Erbyn 7 Chwefror 2027 |
| Anfon y pedwerydd diweddariad chwarterol | Erbyn 7 Mai 2027 |
| Paratoi a chyflwyno’ch Ffurflen Dreth gan ddefnyddio’ch meddalwedd sy’n cydweddu — gwirio a oes angen i chi wneud unrhyw addasiadau, hawlio rhyddhadau neu lwfansau, gwirio ac ychwanegu incwm neu enillion eraill, a thalu’ch bil treth | Erbyn 31 Ionawr 2028 |
Cyn i chi ddechrau defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, bydd angen i chi gael eich meddalwedd yn barod.