Canllawiau

Llysoedd a thribiwnlysoedd: canllawiau byw gyda COVID-19

Mae'r dudalen hon yn amlinellu sut mae llysoedd a thribiwnlysoedd wedi llacio cyfyngiadau COVID-19 sydd wedi bod ar waith ar draws ein hadeiladau yn ystod y pandemig. Mae hefyd yn darparu dolenni i ganllawiau iechyd y cyhoedd i helpu ein defnyddwyr i leihau'r risg o ddal afiechyd heintus a'i drosglwyddo i eraill.

Applies to England, Scotland and Wales

Yn dilyn arweiniad newydd ar fyw gyda heintiau resbiradol gan gynnwys COVID-19, bu inni llacio llawer o’r mesurau diogelwch a roddwyd mewn lle yn ystod y pandemig yn Lloegr, Cymru a’r Alban.

Dod i lys neu dribiwnlys

Mae ein llysoedd a thribiwnlysoedd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn bodloni’r safonau diogelwch gofynnol ac maen nhw ar agor ar gyfer cynnal gwrandawiadau. Dylech fynychu eich gwrandawiad fel y cynlluniwyd.

Os oes gennych dymheredd uchel neu os nad ydych yn teimlo’n ddigon da i fynychu gwrandawiad, cysylltwch â’r llys neu’r tribiwnlys ar unwaith. Rydym yn ystyried trefniadau amgen a cheisiadau unigol ar sail bob achos unigol.

Os ydy COVID-19 yn peri risg uwch ichi ac mae arnoch angen mynychu gwrandawiad, cysylltwch â’r llys neu dribiwnlys i roi gwybod iddynt fel y gallwn eich cadw’n ddiogel.

Gwasanaeth rheithgor

Os ydych yn rheithiwr, nid yw’n ofynnol i chi wisgo masg llawfeddygol gwrth hylif mewn ystafelloedd llai a gallwch fwyta ac yfed yn yr ystafelloedd hynny bellach.

Os ydych yn dod i’r llys fel rheithiwr, dyma ragor o wybodaeth am wasanaethu ar reithgor.

Gorchuddion wyneb

Nid yw gorchuddion wyneb yn ofynnol yn unrhyw ran o’n hadeiladau mwyach. Os ydych yn dod i adeilad llys neu dribiwnlys, gallwch barhau i wisgo gorchudd wyneb os y dymunwch wneud hynny.

Cael yr wybodaeth ddiweddaraf

Rydym yn diweddaru’r wybodaeth am weithrediad ein llysoedd a’n tribiwnlysoedd trwy:

Hysbysiadau a chyfarwyddiadau barnwrol

Gwybodaeth am yr hyn i’w ddisgwyl pan fyddwch yn dod i adeilad llys neu dribiwnlys gan yr ynadaeth.

Cyhoeddwyd ar 8 April 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 August 2022 + show all updates
  1. Guidance on custody suites removed.

  2. Updated following changes to guidance in Scotland and Wales.

  3. First published.