Canllawiau

Cyfrifo a hawlio rhyddhad rhag colledion masnachu Treth Gorfforaeth

Sut i gyfrifo a hawlio rhyddhad Treth Gorfforaeth ar golledion masnachu.

Trosolwg

Os yw’ch cwmni neu sefydliad yn agored i Dreth Gorfforaeth ac yn gwneud colled drwy fasnachu, gwerthu neu waredu ased cyfalaf, neu ar incwm eiddo, efallai y gallwch hawlio rhyddhad rhag Treth Gorfforaeth.

Rydych yn cael rhyddhad treth drwy wrthbwyso’r golled yn erbyn enillion eraill neu elw arall eich busnes yn yr un cyfnod cyfrifyddu. Gallwch hefyd ddewis cario’r golled yn ôl, os na wnewch hynny bydd yn cael ei gario ymlaen i gyfnod cyfrifyddu arall.

Mae’r canllaw hwn yn cynnwys colledion masnachu yn unig.

Mae canllaw ar wahân ar sut i gyfrifo a hawlio rhyddhad treth o’r Dreth Gorfforaeth ar golledion terfynol, cyfalaf ac incwm o eiddo.

Colledion masnachu

Cyfrifir yr elw neu’r golled masnachu at ddibenion Treth Gorfforaeth drwy wneud yr addasiadau treth arferol i’r ffigur elw neu ffigur golled a ddangosir yng nghyfrifon ariannol eich cwmni neu sefydliad.

I gyfrifo colled masnachu dylech wneud y canlynol:

  • cynnwys unrhyw lwfansau cyfalaf (mae’r rhain yn cynyddu’r golled)
  • cynnwys unrhyw daliadau mantoli (mae’r rhain yn gostwng y golled)
  • peidio â chynnwys unrhyw golledion neu enillion y gellid eu gwneud wrth werthu neu waredu asedion
  • cynnwys blwydd-daliadau penodol a rhoddion elusennol (a elwir yn ‘daliadau masnach’)

Os gwnewch golled masnachu ac na ellir ei defnyddio yn yr un flwyddyn, efallai y gallwch ddewis ei gario yn ôl i gyfnodau cyfrifyddu cynharach, neu y bydd yn cael ei gario ymlaen i’w wrthbwyso yn erbyn yr elw ar gyfer cyfnodau yn y dyfodol.

Sut i hawlio colled masnachu

Mae hawlio colledion masnachu yn ffurfio rhan o’ch Ffurflen Dreth y Cwmni.

Os yw’ch hawliad yn cwmpasu cyfnod cyfrifyddu diweddaraf y cwmni, nodwch ‘0’ ym mlwch 155 ar ffurflen CT600 a rhowch swm llawn y golled ym mlwch 780. Dylech hefyd nodi’r golled gyfan, neu gymaint o’r golled ag y gallwch ei hawlio, ym mlwch 275 yn erbyn cyfanswm eich elw.

Mae’n rhaid i chi wneud pob un o’r canlynol os yw’r hawliad yn cynnwys colledion o gyfnod cyfrifyddu diweddarach:

  • nodwch ‘0’ ym mlwch 155 ar ffurflen CT600
  • nodwch swm llawn y colledion masnachu sy’n codi yn y cyfnod cyfrifyddu hwn neu gyfnod cyfrifyddu diweddarach y gallwch ei hawlio yn erbyn cyfanswm yr elw ym mlwch 275
  • rhowch swm y golled sy’n codi yn y cyfnod cyfrifyddu hwn ym mlwch 780 yn unig

Grwpiau a cholledion masnachu

Os oes gan eich cwmni neu sefydliad berthynas â chwmni arall sy’n berthynas grŵp cymwys, gallwch ddewis gwrthbwyso colledion penodol, gan gynnwys colledion masnachu, yn erbyn elw aelodau eraill o’r grŵp, yn lle eu cario ymlaen neu yn ôl.

Cario colled masnachu ymlaen

Gellir gwrthbwyso rhai colledion nad yw eich cwmni wedi’u defnyddio mewn unrhyw ffordd arall yn erbyn elw mewn cyfnodau cyfrifyddu yn y dyfodol.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am gario colled masnachu ymlaen.

Elw sy’n codi o 1 Ebrill 2017

Mae cyfyngiadau ar gyfanswm y colledion a gariwyd ymlaen y gellir eu gwrthbwyso yn erbyn elw cyfnodau cyfrifyddu o 1 Ebrill 2017.

Mae’r rhain yn berthnasol i golledion masnachu a gariwyd ymlaen fel bod:

  • y swm y gellir ei ryddhau gan ddefnyddio colledion masnachu a gariwyd ymlaen ac a gododd cyn 1 Ebrill 2017 wedi’i gyfyngu i, yn fras, swm y lwfans hyd at £5 miliwn, ynghyd â 50% o’r elw masnachu sy’n weddill ar ôl didynnu’r lwfans
  • y cyfanswm cyffredinol y gellir ei ryddhau gan ddefnyddio’r mwyafrif o fathau o golledion a gariwyd ymlaen - gan gynnwys colledion masnachu a gariwyd ymlaen ac a gafwyd naill ai cyn neu ar ôl 1 Ebrill 2017 - wedi’i gyfyngu i, yn fras, swm y lwfans hyd at £5 miliwn, ynghyd â 50% o gyfanswm yr elw sy’n weddill ar ôl didynnu’r lwfans

Rhagor o wybodaeth am newidiadau i ryddhad ar gyfer colledion a gariwyd ymlaen

Darllenwch yr arweiniad ar ddiwygio colledion i gael rhagor o wybodaeth am y ffordd y newidiodd rhyddhad gyfer colledion a gariwyd ymlaen o 1 Ebrill 2017.

Cario colled masnachu yn ôl

Yn hytrach na chario colled ymlaen, gallwch hawlio er mwyn i’r golled gael ei gwrthbwyso yn erbyn elw ar gyfer y cyfnod cynharach o 12 mis (nid y cyfnod cyfrifyddu).

Dim ond os oedd eich cwmni neu sefydliad yn cynnal yr un fasnach ar ryw adeg yn y cyfnod cyfrifyddu neu’r cyfnodau sy’n disgyn yn y cyfnod cyfrifyddu o 12 mis y gallwch wneud hyn.

Er enghraifft, os oes gan eich cwmni neu sefydliad golled o £8,000 yn y cyfnod cyfrifyddu 1 Ionawr 2016 i 31 Rhagfyr 2016 ac elw o £20,000 yn y 12 mis cynharach, gallwch gario’r golled o £8,000 i’w gwrthbwyso yn erbyn yr elw ar gyfer y flwyddyn gyfrifyddu flaenorol. Bydd hyn yn ei gostwng o £20,000 i £12,000.

Os yw rhan o’r cyfnod cyfrifyddu yn cwmpasu peth o’r cyfnod 12 mis hwnnw, dosrannir yr elw am y cyfnod hwnnw a dim ond yn erbyn y gyfran honno o’r elw sy’n dod o fewn y cyfnod o 12 mis y gellir gwrthbwyso’r golled.

Er enghraifft, mae gan eich cwmni neu sefydliad golled o £8,000 yn y cyfnod cyfrifyddu 1 Ionawr 2016 i 31 Rhagfyr 2016 ac yn ddiweddar mae wedi newid ei ddyddiad cyfrifyddu, fel bod cyfnodau cyfrifyddu ac elw’r cyfnodau cynharach:

  • yn £2,000 ar gyfer 1 Gorffennaf 2015 i 31 Rhagfyr 2015
  • yn £10,000 ar gyfer 1 Gorffennaf 2014 i 31 Gorffennaf 2015

Gallwch gario £2,000 o’r golled yn ôl i dalu’r holl elw yn y cyfnod a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2015.

Ni ellir cario balans y golled o £6,000 yn ôl yn llwyr gan mai dim ond 6 mis o’r elw o £10,000 sy’n dod o fewn 12 mis cynharach y cyfnod gwneud colledion.

Dim ond colled o £5,000 (6 ÷ 12 x £10,000) y gellir ei defnyddio, ac mae’r balans o £1,000 ar gael i’w gario ymlaen i’r flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2017.

Estyniad dros dro i gario colledion masnachu yn ôl

Yng Nghyllideb 2021, cyhoeddodd y Canghellor estyniad dros dro i gario colledion masnachu yn ôl o un flwyddyn i 3 blynedd, ar gyfer colledion hyd at £2,000,000 am gyfnodau cyfrifyddu a ddaeth i ben rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2022. Mae’n rhaid gosod colledion yn erbyn elw’r blynyddoedd mwyaf diweddar yn gyntaf cyn eu cario yn ôl i flynyddoedd cynharach.

Nid oes unrhyw newid i’r trefniant presennol o gario swm diderfyn o golledion masnachu yn ôl, fodd bynnag, ar gyfer y rhyddhad estynedig, mae swm y golled y gellir ei gario yn ôl i 2 flynedd gynharach y cyfnod estynedig wedi’i gapio ar gyfer pob un o’r 2 flynedd honno. Mae hwn yn gap o £2,000,000 o golledion ar gyfer yr holl gyfnodau cyfrifyddu perthnasol sy’n dod i ben yn y cyfnod 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021 (blwyddyn ariannol 2020).

Mae cap ar wahân o £2,000,000 ar gyfer yr holl gyfnodau cyfrifyddu perthnasol sy’n dod i ben yn y cyfnod 1 Ebrill 2021 i 31 Mawrth 2022 (blwyddyn ariannol 2021). Bydd gan grwpiau gap o £2,000,000 ar gyfer pob cyfnod perthnasol.

Bydd angen i hawliad i gario colled yn ôl dros gyfnod estynedig gael ei wneud ar Ffurflen Dreth, fodd bynnag, gellir gwneud hawliadau o dan y terfyn de minimis o £200,000 y tu hwnt i Ffurflen Dreth. Mae hyn yn golygu y gall unrhyw gwmni annibynnol, neu gwmni sy’n grŵp, sydd â cholledion sy’n gallu darparu rhyddhad hyd at uchafswm o £200,000 wneud hawliad mewn perthynas â chyfnod cyfrifyddu perthnasol heb orfod aros i gyflwyno ei Ffurflen Dreth y Cwmni.

Cyflwyno hawliad de minimis

Os ydych am gyflwyno hawliad de minimis y tu hwnt i Ffurflen Dreth y Cwmni gallwch, anfon hawliad i CThEM.

Bydd angen i chi roi gwybodaeth berthnasol fel:

  • UTR
  • enw’r cwmni
  • cod yr asiant (os yw’n berthnasol)
  • dyddiadau dechrau a dod i ben y cyfnod cyfrifyddu pan wnaed y golled
  • swm y golled
  • dyddiadau cyfnodau cyfrifyddu i gario’r golled yn ôl a’r symiau perthnasol
  • cyfrifon rheoli ar ffurf PDF os nad oes Ffurflen Dreth wedi’i llenwi ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu pan wnaed y golled

Mae rhagor o wybodaeth am y newidiadau i’w gweld yn yr arweiniad ynghylch cario colled yn ôl dros gyfnod estynedig ar gyfer busnesau.

Sut i hawlio am golled masnachu i gael ei chario’n ôl, neu ddiwygio hawliad

Gallwch wneud hawliad i gario colled masnachu yn ôl pan gyflwynwch eich Ffurflen Dreth y Cwmni am y cyfnod pan wnaethoch y golled.

Gallwch wneud eich hawliad yn eich Ffurflen Dreth neu mewn diwygiad i’r Ffurflen Dreth, cyn belled â’ch bod o fewn y terfyn amser i’w diwygio. Gallwch hefyd wneud eich hawliad mewn llythyr.

Os ydych yn gwneud hawliad ar eich Ffurflen Dreth sy’n lleihau eich rhwymedigaeth o ran Treth Gorfforaeth am gyfnod cynharach, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod wedi rhoi ‘X’ yn y blwch priodol ar ffurflen CT600.

Dylid gwneud hawliad cyn pen 2 flynedd i ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu pan wnaethoch y golled. Dylai eich hawliad gynnwys:

  • enw eich cwmni neu sefydliad
  • y cyfnod pan wneir y golled
  • swm y golled
  • sut y bydd y golled yn cael ei defnyddio

Os anfonwch eich hawliad ar wahân, anfonwch ef i CThEM.

Gallwch newid eich hawliad yn yr un ffordd ag y byddwch yn diwygio’ch Ffurflen Dreth.

Os na fydd CThEM yn cynnal gwiriad cydymffurfio o ran eich Ffurflen Dreth neu’ch hawliad annibynnol, neu unrhyw ddiwygiad diweddarach, daw swm y golled yn derfynol. Gall CThEM ofyn am ddefnydd y golled mewn Ffurflen Dreth yn y dyfodol (er enghraifft, i wirio a yw’r un fasnach yn dal i gael ei chynnal).

Os ydych yn gwrthbwyso colled yn erbyn cyfnod cyfrifyddu lle rydych eisoes wedi talu’r dreth sy’n ddyledus, bydd CThEM yn anfon ad-daliad atoch, oni bai bod arnoch unrhyw Dreth Gorfforaeth, pan fydd yn cael ei didynnu o’r taliad yn gyntaf.

Cyhoeddwyd ar 13 August 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 July 2021 + show all updates
  1. This page has been updated at the extend loss carry back section to include a link to the form for making de minimis claims.

  2. A new section about temporary extension to carry back of trade losses has been added.

  3. Corrected CT600 box numbers to reflect latest version.

  4. This guidance now deals with trading losses only and has been updated with new rules on Corporation Tax losses from 1 April 2017, it also links to guidance about terminal, capital and property income losses.

  5. First published.