Cysylltu â'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu
Gall unrhyw un yng Nghymru neu Loegr ddefnyddio'r gwasanaeth hwn i gysylltu â'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu (BSR).
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Gofyn cwestiwn i BSR
Gallwch holi BSR ynghylch:
- cyfrifoldebau cymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu
- cyfrifoldebau arolygwyr adeiladu cofrestredig
- Gwasanaethau BSR, er enghraifft, Cofrestru fel arolygydd adeiladu neu Gofrestr fel cymeradwywr rheolaeth adeiladu
Ar gyfer adeiladau yn Lloegr, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn hefyd i holi BSR ynghylch:
- diogelwch a chyfranogiad trigolion
- cyfrifoldebau dylunwyr, adeiladwyr ac eraill yn y diwydiant adeiladu
- cyfrifoldebau rheolaeth adeiladu awdurdodau lleol
- canllawiau a chyfraith diogelwch adeiladu
- pwyllgorau statudol
- llunio ceisiadau rheolaeth adeiladu ar gyfer datblygiadau cymhleth, er enghraifft, prosiectau aml-adeilad
- Gwasanaethau BSR, er enghraifft, Cofrestru neu reoli adeilad preswyl uchel neu Gyflwyno hysbysiad digwyddiad gorfodol
Gwneud cwyn i BSR
Gallwch wneud cwyn i BSR am:
- arolygwyr adeiladu cofrestredig a Chymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu
- rheolaeth adeiladu awdurdodau lleol yn Lloegr
- y BSR ei hun
Ar gyfer adeiladau preswyl uchel yn Lloegr, gallwch wneud cwyn i BSR hefyd am y canlynol:
- materion yn yr adeilad a allai arwain at dân yn lledaenu
- materion yn yr adeilad a allai arwain at ran o’r adeilad, neu’r adeilad cyfan yn dymchwel
- materion yn ymwneud â diogelwch tân neu gywirdeb strwythurol yn yr adeilad sy’n cael ei ddylunio, ei adeiladu neu ei adnewyddu
- personau atebol a’r prif berson atebol
Cwynion am yr adeilad rydych yn byw ynddo
Os ydych yn byw yn Lloegr ac eisiau cwyno am yr adeilad rydych yn byw ynddo, yn gyntaf codwch eich mater gyda pherson sy’n atebol am ddiogelwch adeiladu. Er enghraifft, landlord neu gwmni rheoli’r adeilad. Defnyddiwch y gwasanaeth hwn os nad ydynt wedi ymdrin â’ch problem.
Yr hyn na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn ar ei gyfer
Ni all BSR ymateb i gwestiynau na rhoi cyngor ar y canlynol:
- cydymffurfio â’r rheoliadau adeiladu
- ceisiadau rheolaeth adeiladu yn Lloegr, cyn i gais ddechrau
- ceisiadau rheolaeth adeiladu yng Nghymru
- rheolaeth adeiladu awdurdodau lleol yng Nghymru
- adeiladau preswyl uchel yng Nghymru
Cysylltwch â Llywodraeth Cymru (ar LLYW.CYMRU) am awdurdodau lleol, ceisiadau rheolaeth adeiladu neu adeiladau preswyl uchel yng Nghymru.
Peidiwch â defnyddio’r gwasanaeth hwn i adrodd am bryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol neu lendid cyffredinol adeilad. Dylid adrodd am y materion hyn i’ch landlord neu gwmni rheoli.
Cyn i chi ddechrau
I ofyn cwestiwn, bydd BSR yn gofyn i chi am:
- eich manylion cyswllt, neu fanylion cyswllt rhywun sy’n gweithredu ar eich rhan, fel bod BSR yn gwybod at bwy i ymateb
- manylion eich cwestiwn
I wneud cwyn, bydd BSR yn gofyn i chi am y canlynol:
- cyfeiriad yr adeilad, os yw’r gŵyn yn ymwneud ag adeilad
- eich manylion cyswllt, neu fanylion cyswllt rhywun sy’n gweithredu ar eich rhan, fel bod BSR yn gwybod at bwy i ymateb
- enw’r person neu’r sefydliad rydych wedi cwyno yn flaenorol iddo, os yw’n berthnasol
- manylion eich cwyn, er enghraifft, y dyddiad y daethoch yn ymwybodol o’r broblem, i bwy rydych eisoes wedi adrodd am y broblem a phryd, os yw’n berthnasol
- unrhyw wybodaeth ategol, fel ffotograffau neu ddogfennau rydych am eu lanlwytho
Os nad ydych am roi eich enw a’ch manylion cyswllt i BSR, gallwch ofyn i rywun rydych yn ymddiried ynddo ofyn cwestiwn neu wneud cwyn ar eich rhan.
Cael cymorth i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn
Rhif ffôn: 0300 790 6787
Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau a Dydd Gwener, 8:30am i 5pm
Dydd Mercher, 10am i 5pm
Dydd Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau banc y DU, ar gau
Os byddai’n well gennych siarad ar y ffôn mewn iaith heblaw am Saesneg, mae gwasanaeth cyfieithu ar gael.
Updates to this page
-
What you can ask BSR or complain to BSR about in relation to Wales has been added.
-
Added more detail about what you can not use the service for, including to get advice on compliance with the building regulations or pre-application advice about building control applications.
-
Guidance about complaints has been added to this page. This includes information about what you can make a complaint about and how to make a complaint to the Building Safety Regulator.
-
First published.