Hawlio treuliau a chadw cofnodion os ydych yn warchodwr plant
Darganfod sut y gall pob gwarchodwr plant barhau i gael rhyddhadau treth ar gostau’r aelwyd, costau o brynu eitemau yn lle’r rhai y mae angen eu disodli, costau bwyd a diod, a chostau busnes eraill, yn dilyn newidiadau a gyhoeddwyd yng Nghyllideb 2025.
Os ydych yn warchodwr plant sy’n hunangyflogedig, gallwch hawlio rhyddhad treth ar eich treuliau busnes, gan gynnwys y canlynol:
-
costau o brynu eitemau i’r tŷ i gymryd lle’r rhai y mae angen eu disodli
-
costau ar gyfer yr aelwyd
-
bwyd a diod
-
cadw cofnodion
Gallwch barhau i hawlio rhyddhad treth ar eich holl dreuliau busnes os ydych yn defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Os oedd eich incwm cymhwysol dros £50,000 ym mlwyddyn dreth 2024 i 2025, bydd angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o 6 Ebrill 2026 ymlaen. Dysgwch ragor am y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, a gwylio fideos CThEF neu gofrestru ar gyfer gweminarau (yn agor tudalen Saesneg).
Prynu eitemau i’r tŷ i gymryd lle’r rhai y mae angen eu disodli
Os ydych yn defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Gall busnesau hunangyflogedig, gan gynnwys gwarchodwyr plant, hawlio am y costau o brynu eitemau i’r tŷ i gymryd lle’r rhai y mae angen eu disodli. Gallwch hawlio’r swm gwirioneddol yr ydych wedi’i wario ar brynu, atgyweirio a newid dodrefn ac eitemau yr aelwyd (fel soffas a charpedi).
Os ydych yn defnyddio rhywbeth at ddibenion busnes a phersonol, dim ond am y gyfran fusnes o’r gost y cewch hawlio. Dysgwch ragor am hawlio treuliau ar eitemau sy’n cael eu defnyddio am resymau busnes a rhesymau personol.
Enghraifft
Rydych yn prynu soffa am £400. Rydych yn cyfrifo bod 80% o’r defnydd o’r soffa yn dod wrth ofalu am blant. Gallwch hawlio traul o £320.
Os nad ydych yn defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Gallwch barhau i hawlio 10% o’ch incwm o ofalu am blant yn eich cartref eich hun ar gyfer costau i brynu eitemau i’r tŷ i gymryd lle’r rhai y mae angen eu disodli. Ni ddylech gynnwys incwm o ofalu am blant yn rhywle arall (er enghraifft, mewn canolfan gymunedol neu neuadd bentref).
Mae hyn yn cynnwys eitemau nad ydynt yn cael eu defnyddio ond ar gyfer eich busnes gwarchod plant (megis soffas a charpedi). Os ydych yn hawlio ar gyfer traul adnewyddu, ni allwch hefyd hawlio ar gyfer y gost o newid yr eitemau hynny.
Costau ar gyfer yr aelwyd
Os ydych yn defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Gall busnesau hunangyflogedig, gan gynnwys gwarchodwyr plant, hawlio am ganran fusnes o gostau ar gyfer yr aelwyd. Bydd angen i chi ddod o hyd i ddull rhesymol o gyfrifo eich canran, er enghraifft drwy ystyried nifer yr ystafelloedd rydych yn eu defnyddio i ofalu am blant, neu’r swm o amser rydych yn ei dreulio yn gwarchod plant yn eich cartref. Dysgwch ragor am hawlio treuliau pan fyddwch yn gweithio o’ch cartref.
Os nad ydych yn defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Gallwch barhau i hawlio canran o ‘gostau sefydlog’ a ‘chostau rhedeg’ eich aelwyd.
Mae costau rhedeg yn cynnwys y canlynol:
-
nwy a thrydan
-
dŵr, os oes gennych fesurydd dŵr
Mae costau sefydlog yn cynnwys y canlynol:
-
Treth Gyngor
-
dŵr, os nad oes gennych fesurydd dŵr
-
rhent neu log ar eich morgais
Mae’r canran y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar sawl awr yr wythnos yn arferol rydych yn gofalu am blant yn eich cartref eich hun. Mae hyn yn cynnwys amser pan fyddech fel arfer yn gofalu am blant yn eich cartref eich hun, ond eich bod wedi mynd â nhw ar deithiau y tu allan i’ch cartref (er enghraifft, i barc).
Rydych yn gofalu am blant yn eich cartref eich hun am 40 awr neu fwy mewn wythnos
Gallwch hawlio 33% o’ch costau rhedeg, a 10% o’ch costau sefydlog os ydych yn arferol yn gofalu am blant yn eich cartref eich hun am 40 awr neu fwy mewn wythnos.
Rydych yn gofalu am blant yn eich cartref eich hun am lai na 40 awr mewn wythnos
Gallwch hawlio canrannau llai o’ch costau yn seiliedig ar nifer yr oriau rydych yn eu treulio yn gofalu am blant os ydych yn arferol yn gofalu am blant yn eich cartref eich hun am lai na 40 awr mewn wythnos. Gall hyn fod gan eich bod ond yn gofalu am blant am ran o’r amser, neu eich bod hefyd yn gofalu am blant yn rhywle arall (er enghraifft, mewn canolfan gymunedol neu mewn neuadd bentref).
Gallwch gyfrifo’r canran o’ch costau rhedeg y cewch eu hawlio drwy rannu’r nifer o oriau â 40, ac yna lluosi’r ateb â 33. Gallwch gyfrifo’r canran o’ch costau sefydlog y cewch eu hawlio drwy rannu’r nifer o oriau â 4. Os oes gan eich atebion rifau degol, dylech eu talgrynnu i fyny i’r rhif cyfan agosaf.
Enghraifft
Fel arfer, rydych yn treulio 16 awr yr wythnos yn gofalu am blant yn eich cartref eich hun.
Gallwch hawlio 14% o’ch costau rhedeg gan fod 16 awr ÷ 40 × 33 = 13.2%. Mae talgrynnu i fyny i’r rhif cyfan agosaf yn gwneud hyn yn 14%.
Gallwch hawlio 4% o’ch costau sefydlog gan fod 16 awr ÷ 4 = 4%.
Bwyd a diod
Os ydych yn defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Gall gwarchodwyr plant barhau i hawlio’r costau o fwyd a diod sy’n cael eu rhoi i blant, a hynny at ddibenion busnes. Gallwch hawlio’r swm gwirioneddol yr ydych wedi’i wario ar brynu bwyd a diod rydych yn eu rhoi i’r plant rydych yn gofalu amdanynt. Os yw’r bwyd a’r diod yn cael eu rhannu gyda’ch aelwyd, gallwch barhau i hawlio cyfran resymol o gyfanswm y gost. Dysgwch ragor am hawlio treuliau ar eitemau sy’n cael eu defnyddio am resymau busnes a rhesymau personol.
Os nad ydych yn defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Gallwch barhau i hawlio’r gost amcangyfrifedig o fwyd a diod rydych yn eu rhoi i’r plant rydych yn gofalu amdanynt.
Cadw cofnodion
Os ydych yn defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Os ydych yn warchodwr plant sydd yn rhan o’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, dylech gadw cofnodion digidol o’ch treuliau a’ch incwm o hunangyflogaeth wrth ddilyn rheolau’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Os nad ydych yn defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Gallwch barhau i ddefnyddio llyfr arian a chofrestr presenoldeb er mwyn cofnodi incwm a threuliau.
Mae’r rhaid i chi gadw derbyniadau ar gyfer y canlynol:
-
yr holl dreuliau busnes sy’n £10 neu fwy
-
eitemau bychain y gwnaethoch eu prynu gyda’ch gilydd sydd â chyfanswm o £10 neu fwy
Does dim rhaid i chi gadw derbyniadau ar gyfer y canlynol:
-
bwyd a diod rydych yn eu rhoi i’r plant rydych yn gofalu amdanynt
-
eitemau unigol sy’n costio llai na £10
Rhoi adborth i ni
Mae angen eich help arnom i wneud yn siŵr bod GOV.UK yn gweithio ar ei orau i chi. Gallwch roi adborth i ni am yr arweiniad hwn er mwyn helpu i wella GOV.UK.