Canllawiau

Teuluoedd gyda mwy na 2 o blant: gwneud cais am fudd-daliadau

Gwybodaeth am Gredyd Cynhwysol i deuluoedd gyda mwy na dau o blant

Trosolwg

Os ydych eisoes yn cael budd-daliadau ar gyfer mwy na 2 o blant, byddwch yn parhau i gael y budd-daliadau hynny.

Ni fyddwch yn cael swm ychwanegol ar gyfer mwy na 2 o blant, oni bai y cafodd y plant eu geni cyn 6 Ebrill 2017 (ar 6 Ebrill neu cyn hynny ar gyfer Cymhorthdal Incwm) neu fod amgylchiadau arbennig yn berthnasol.

Os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm gyda ‘lwfans dibynnydd’ ar gyfer un neu fwy o blant, ac mae plentyn arall yn ymuno â’ch cartref mae angen i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Bydd DWP yn dweud wrthych a fydd swm y lwfans dibynnydd a gewch yn newid. Bydd hyn yn dibynnu ar y rheolau newydd ar gyfer hawlio budd-daliadau ar gyfer mwy na 2 o blant a’ch amgylchiadau.

Os ydych yn hawlio budd-daliadau neu gredydau treth ar hyn o bryd ac nad ydych yn symud i Gredyd Cynhwysol tan ddyddiad diweddarach, byddwch yn dal i gael swm ychwanegol ar gyfer pob plentyn rydych yn gofalu amdano cyn belled â’ch bod yn parhau i fod yn gyfrifol am yr un plant a bod eich amgylchiadau yn aros yr un fath.

Mae plentyn (neu berson ifanc cymwys) yn golygu unrhyw un o dan 16 oed, neu berson ifanc dan 20 oed sy’n cofrestru ar, wedi derbyn neu wedi dechrau addysg llawn amser nad yw’n addysg uwch, fel Safon Uwch, neu hyfforddiant cymeradwy cyn iddynt gyrraedd 19 oed.

Os ydych eisoes wedi hawlio Credyd Cynhwysol neu Gredyd Treth Plant

Os ydych wedi hawlio Credyd Cynhwysol neu Gredyd Treth Plant yn y 6 mis blaenorol ond fe’i stopiwyd am gyfnod o amser, cewch yr un cymorth os ydych yn ail-hawlio’r rhain, cyhyd â’ch bod yn parhau i fod yn gyfrifol am yr un plant a bod eich amgylchiadau’n aros yr un fath.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cysylltu â chi a dywedir wrthych pryd y dylech hawlio Credyd Cynhwysol. Mae hyn i sicrhau nad ydych yn colli allan yn ariannol pan fyddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol.

Bydd angen i chi fod â hawl i Bremiwm Anabledd Difrifol o fewn y mis yn union cyn i chi symud i Gredyd Cynhwysol.

Os ydych yn dod yn gyfrifol am blentyn arall

Dylech roi gwybod am enedigaeth plentyn yn y ffordd arferol ar gyfer Credyd Cynhwysol, Credyd Treth Plant a Chymhorthdal Incwm fel y gallwn benderfynu a ellir talu swm ychwanegol.

Yn gyffredinol, bydd gennych hawl i swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer unrhyw blentyn neu berson ifanc cymwys a aned cyn 6 Ebrill 2017.

Os oes gennych blentyn arall nad yw’n byw gyda chi pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, ond yna yn dychwelyd i’ch cartref, bydd gennych hawl i swm plentyn ar eu cyfer, cyhyd â’u bod wedi’u geni cyn 6 Ebrill 2017.

Noder: Os yw hyn yn digwydd ac rydych yn cael Credyd Treth Plant/Credyd Cynhwysol am blentyn a aned ar ôl 6 Ebrill 2017, yna efallai na fyddwch yn cael Credyd Treth Plant/Credyd Cynhwysol i’r plentyn hwnnw oni bai fod eithriad yn berthnasol.

Os ydych yn gyfrifol am blentyn neu blant trwy fabwysiadu neu fel rhan o drefniant gofal diriant, yna byddwch yn gallu cael swm ychwanegol i’r plant hyn. Ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw symiau y gallech eu cael ar gyfer unrhyw blant eraill yn eich cartref. Bydd angen i chi ddarparu dogfennau i gefnogi hyn.

Os ydych yn gwneud cais newydd

Os ydych yn gwneud cais newydd, bydd Credyd Cynhwysol yn talu swm ychwanegol ar gyfer yr holl blant a anwyd cyn 6 Ebrill 2017.

Os ydych wedi bod yn cael cymorth i blant mewn Credyd Cynhwysol, Credyd Treth Plant, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn ystod y 6 mis diwethaf, byddwch yn parhau i gael swm y plentyn ar gyfer yr un nifer o blant, cyhyd ag y byddwch yn parhau i fod yn gyfrifol am yr un plant.

Bydd y diogelwch hwn hefyd yn cael ei gynnal drwy newidiadau i ffurf y teulu, fel gwahanu o bartner mewn cais ar y cyd, neu gyfuno i ffurfio cais newydd ar y cyd.

Bydd eithriadau (amgylchiadau arbennig) roedd yn gymwys mewn dyfarniad blaenorol o Gredyd Cynhwysol, Credyd Treth Plant, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn parhau i fod yn gymwys yn y dyfarniad Credyd Cynhwysol newydd, oni bai nad yw’r amodau ar gyfer yr eithriad hwnnw yn cael eu bodloni mwyach.

Os oes gennych hawl i ddyfarniad o fudd-dal sy’n bodoli eisoes sy’n cynnwys Premiwm Anabledd Difrifol, neu wedi bod â hawl i gael budd-dal presennol o fewn y mis diwethaf a oedd yn cynnwys Premiwm Anabledd Difrifol, ac wedi parhau i gwrdd â’r amodau cymhwyster ar gyfer y Premiwm Anabledd Difrifol, ni allwch hawlio Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd. Dylech, os yn gymwys, hawlio budd-daliadau eraill neu aros ar eich budd-daliadau presennol hyd nes y dywedir wrthych am hawlio Credyd Cynhwysol. Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i weld pa fudd-daliadau y gallech eu cael os na allwch hawlio Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd.

Amgylchiadau arbennig

Rydym yn galw’r amgylchiadau arbennig hyn yn eithriadau.

Efallai y gallwch gael y swm plentyn ychwanegol ar gyfer trydydd plentyn, plentyn dilynol neu berson ifanc cymwys (rydych yn gyfrifol amdano) a aned ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017 (ar ôl 6 Ebrill 2017 ar gyfer Cymhorthdal Incwm) os aned y plentyn neu’r plant:

  • fel rhan o enedigaeth luosog

  • o ganlyniad i feichiogiad nad oedd yn gydsyniol (yn cynnwys trais) neu fe’i beichiogwyd pan oeddech mewn perthynas gorfodol neu o dan reolaeth

Os ydych yn gyfrifol am blentyn neu blant (waeth beth fo’r drefn y gwnaethant ymuno â’r catref) sydd:

  • yn cael eu mabwysiadu o ofal yr awdurdod lleol

  • yn eich gofal, naill ai’n ffurfiol neu’n anffurfiol ac mae’n debyg y byddent fel arall yn derbyn gofal gan awdurdod lleol

  • yn blentyn i’ch plentyn chi

Yna cewch swm ychwanegol ar eu cyfer ac ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw symiau y gallech eu cael ar gyfer unrhyw blant eraill yn eich cartref.

Ar gyfer yr holl eithriadau uchod, bydd angen i chi ddarparu dogfennau ategol i ni.

Genedigaethau lluosog

Gallwch gael Credyd Cynhwysol a Chredyd Treth Plant ychwanegol ar gyfer eich trydydd plentyn a phlant dilynol os ydynt yn cael eu geni fel rhan o enedigaeth luosog, ar wahân i 1 plentyn yn yr enedigaeth honno. Mae hyn yn golygu bod yr eithriad yn berthnasol i’r plant ychwanegol yn yr enedigaeth honno.

Ble mae plentyn cyntaf yr enedigaeth luosog yn naill ai’r plentyn cyntaf neu’r ail blentyn yn y cartref, byddwn yn talu swm plant ar gyfer yr holl blant a aned fel rhan o’r enedigaeth luosog.

Mae hyn yn golygu y gallwch gael swm ychwanegol ar gyfer y plentyn hwnnw (y plentyn cyntaf) yn ogystal â phlentyn neu blant eraill yr enedigaeth luosog.

Mabwysiadwyd o ofal awdurdod lleol

Mae’r eithriad hwn yn berthnasol i blentyn neu blant a fabwysiadwyd o ofal yr awdurdod lleol. Byddwch yn gallu derbyn swm ychwanegol o’r dyddiad y byddwch yn dod yn gyfrifol amdanynt, yn hytrach na’r dyddiad y cafodd y plentyn ei eni.

Nid yw’r eithriad hwn yn berthnasol os:

  • os mabwysiadir plant o dramor

  • bod chi neu’ch partner, neu roeddech chi a’ch partner yn llysriant y plentyn mabwysiedig cyn iddynt gael eu mabwysiadu

Ers 28 Tachwedd 2018, mae’r polisi ar gyfer pryd y byddwn yn talu am blant mewn trefniadau gofalu nad ydynt yn rhiant neu a fabwysiadwyd wedi newid. Am fwy o wybodaeth.

Plant sy’n byw gyda ffrindiau neu deulu dan drefniadau gofal

Mae hyn yn cynnwys:

  • trefniadau gofal ffurfiol fel Gorchymyn Trefniadau Plant, Gorchymyn Gwarcheidiaeth

  • trefniadau gofal anffurfiol os yw’n debygol y byddai’r plentyn fel arall yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, (bydd angen dogfennau ategol gan ddefnyddio’r ffurflen gofal anffurfiol)

Os ydych yn gofalu am blentyn a’ch bod chi neu’ch partner yn rhiant neu’n llysriant y plentyn hwnnw, ni chewch swm plentyn ychwanegol ar eu cyfer oni bai:

  • nhw yw eich plentyn cyntaf neu ail

  • anwyd y plentyn cyn 6 Ebrill 2017 (ar 6 Ebrill 2017 neu cyn hynny ar gyfer Cymhorthdal Incwm)

Os oes gan blentyn rydych yn gyfrifol amdano blentyn ei hun, cewch chi hefyd swm y plentyn ychwanegol ar gyfer ‘plentyn eich plentyn’ hyd nes eich bod naill ai:

  • eich plentyn yn troi 16 oed ac maen tyn hawlio budd-dal ar eu pen eu hunain

  • eich plentyn yn gadael y cartref, gan adael eu plentyn yn eich gofal

Sylwer: Os yw’ch plentyn yn gadael y cartref ond mae eu plentyn yn aros yn eich gofal, ni fyddwch yn gallu hawlio’r eithriad hwn mwyach, ond efallai y byddwch yn gallu hawlio am eu plentyn dan yr eithriad trefniadau gofal di-riant.

Mae hyn hefyd yn berthnasol i blentyn person ifanc cymwys am gredydau treth.

Ers 28 Tachwedd 2018, mae’r polisi ar gyfer pryd y byddwn yn talu am blant mewn trefniadau gofal nad ydynt yn rhiant neu a fabwysiadwyd wedi newid. Am fwy o wybodaeth

Beichiogiad nad oedd yn gydsyniol

Efallai y gallwch gael y swm plentyn ychwanegol i drydydd blentyn neu blentyn dilynol os naill ai:

  • anwyd eich plentyn o ganlyniad i feichiogiad nad oedd yn gydsyniol (yn cynnwys trais)

  • roeddech mewn perthynas gorfodol neu o dan reolaeth gyda rhiant biolegol arall y plentyn ar adeg y beichiogiad

Er mwyn cael y swm plentyn ychwanegol o fudd-dal am y rheswm hwn mae’n rhaid i chi bellach beidio â bod yn byw gyda’r rhiant (biolegol) arall y plentyn.

Os nad oes gennych dystiolaeth i gefnogi’r eithriad hwn yn barod, bydd angen i chi gwblhau’r ffurflen gymorth ar gyfer plentyn a feichiogwyd heb eich cydsynia gyda chymorth gan drydydd parti cymeradwy.

Ni fydd DWP, HMRC a staff yr awdurdod lleol yn eich holi ynghylch amgylchiadau’r beichiogiad, bydd unrhyw wybodaeth a roddwch yn cael ei chadw’n gyfrinachol.

Os ydych yn gymwys i gael y swm ychwanegol ar gyfer eich plentyn, ni fydd y rheswm dros y beichiogiad yn ymddangos mewn unrhyw lythyrau budd-dal.

Mwy o wybodaeth

Darllenwch fwy o wybodaeth am:

Bydd gennych hawl i gael cymorth ychwanegol o hyd i unrhyw blant anabl, waeth beth yw cyfanswm y plant yn eich cartref.

Efallai y byddwch yn dal i fod â hawl i gael help gyda chostau gofal plant ar gyfer unrhyw un o’ch plant, hyd yn oed os na fyddwch yn cael y swm plentyn ychwanegol ar gyfer eich holl blant.

Ni effeithir ar fudd-daliadau pasbort, er enghraifft, prydau ysgol am ddim i blant.

Dylech barhau i roi gwybod am enedigaeth plentyn ac unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau sy’n ymwneud â phlant neu bobl ifanc er mwyn i chi beidio â cholli’r hyn y mae gennych hawl iddo.

Dylid hysbysu HMRC am newidiadau i geisiadau credydau treth, dylech roi gwybod i DWP am newidiadau i Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill.

Person ifanc cymwys

Yn gyffredinol, person ifanc cymwys yw rhywun 16 i 19 oed sydd mewn addysg neu hyfforddiant.

Mae person ifanc cymwys yn rhywun dros 16 oed mewn unrhyw un o’r sefyllfaoedd hyn:

  • mewn addysg llawn amser neu beidio - o’u pen-blwydd yn 16 oed hyd at 31 Awst yn dilyn y pen-blwydd hwnnw

  • os ydynt wedi’u cofrestru, neu eu derbyn ar gyfer hyfforddiant cymeradwy neu gwrs addysg nad yw’n addysg uwch - hyd at 31 Awst yn dilyn eu pen-blwydd yn 19 oed

Mae’n rhaid darparu’r hyfforddiant neu’r cwrs a gymeradwywyd mewn ysgol, coleg neu rywle arall a gymeradwyir gan gorff cymwys.

Mae’n rhaid i’r amser cyfartalog a dreuliwyd yn ystod y tymor mewn hyfforddiant, gwaith ymarferol, astudiaeth dan oruchwyliaeth neu gymryd arholiadau fod yn fwy na 12 awr yr wythnos. Nid yw toriadau prydau bwyd ac astudiaeth heb oruchwyliaeth yn cael eu cyfrif.

Pan fydd y person ifanc cymwys yn 19 oed, mae’n rhaid i’r addysg neu’r hyfforddiant fod wedi dechrau cyn iddynt gyrraedd eu pen-blwydd yn 19 oed, neu mae’n rhaid eu bod wedi cofrestru i ymgymryd â’r addysg neu’r hyfforddiant hwnnw cyn cyrraedd yr oedran hwnnw.

Cyhoeddwyd ar 6 April 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 March 2021 + show all updates
  1. Updated the guidance. Since 27 January 2021 you can make a new claim for Universal Credit if you get the severe disability premium or are entitled to it, or you got or were entitled to the severe disability premium in the last month, and you’re still eligible for it.

  2. Updated guidance to reflect that new claims to Universal Credit can now be made by households with more than 2 children.

  3. Updated the guide to correct some drafting errors

  4. Updated to reflect regulation change for adopted and kinship care children.

  5. Date families with 3 or more children will be able to make a new claim to Universal Credit amended to February 2019.

  6. First published.