Hawlio’r Haen Cyfradd Sero Preswyl
Hawliwch yr Haen Cyfradd Sero Preswyl (RNRB) yn erbyn ystâd rhywun sydd wedi marw, gan ddefnyddio ffurflen IHT435.
Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud hawliad am yr haen cyfradd sero preswyl (RNRB) yn erbyn ystâd rhywun sydd wedi marw, cyhyd â bod y canlynol yn wir:
-
bu farw’r person ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017
-
mae’r ystâd yn cynnwys man preswylio yr oedd yr ymadawedig yn berchen arno
-
mae’r man preswylio yn yr ystâd yn cael ei etifeddu gan ddisgynyddion uniongyrchol yr ymadawedig
Gall RNRB hefyd fod yn berthnasol os gwnaeth yr ymadawedig naill ai symud i fan preswylio llai o faint a llai o werth, neu werthu neu roi man preswylio i ffwrdd ar neu ar ôl 8 Gorffennaf 2015.
Sut i gwblhau’r ffurflen
Mae angen i chi wneud y canlynol:
-
Lawrlwytho’r ffurflen a’i chadw ar eich cyfrifiadur.
-
Agor y ffurflen gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader sy’n rhad ac am ddim.
-
Llenwch y ffurflen ar y sgrin.
Efallai na fydd y ffurflen yn gweithio os byddwch yn ceisio’i hagor yn eich porwr rhyngrwyd. Os na fydd y ffurflen yn agor, cysylltwch â gwasanaeth cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
I ble y dylid anfon y ffurflen
Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen, anfonwch hi i’r cyfeiriad post ar gyfer Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Updates to this page
-
An updated version of form IHT435 has been added.
-
An updated version of the form IHT435 has been added.
-
Guidance about the Transferable Residence Nil Rate Band from more than one pre-deceased spouse or civil partner on the IHT435 form has been updated.
-
Added translation