Canllawiau

Hawlio yn ôl Tâl Salwch Statudol a delir i’ch cyflogeion o ganlyniad i goronafeirws (COVID-19)

Sut i ddefnyddio’r Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol Coronafeirws i hawlio yn ôl Tâl Salwch Statudol (SSP) cyflogeion sy’n gysylltiedig â choronafeirws.

This guidance was withdrawn on

The Coronavirus Statutory Sick Pay Rebate Scheme has now closed. The last date for submitting or amending a claim was 24 March 2022.

You can:

Mae’r Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol yn dod i ben ar gyfer absenoldebau sy’n gysylltiedig â choronafeirws ar ôl 17 Mawrth 2022.

Mae gan gyflogwyr hyd at a chan gynnwys 24 Mawrth 2022 i wneud y canlynol:

  • cyflwyno unrhyw hawliadau terfynol
  • diwygio hawliadau y maent eisoes wedi’u cyflwyno

Cyn i chi ddechrau

Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

Bydd yn rhaid i chi sicrhau eich bod eisoes wedi talu tâl salwch eich cyflogeion cyn i chi hawlio.

Cyfrifo’ch cyfnod hawlio

Gallwch hawlio am sawl cyfnod cyflog a sawl cyflogai ar yr un pryd. Os ydych yn gwneud sawl hawliad, gall y cyfnodau hawlio orgyffwrdd.

Uchafswm nifer y cyflogeion y gallwch hawlio ar eu cyfer yw’r nifer a oedd gennych ar draws eich cynlluniau TWE ar 30 Tachwedd 2021.

I gwblhau’ch hawliad, bydd angen dyddiadau dechrau a gorffen y cyfnod hawlio arnoch, sef:

  • dyddiad dechrau’r cyfnod cyflog cynharaf yr ydych yn hawlio ar ei gyfer - os dechreuodd y cyfnod cyflog cyn 21 Rhagfyr 2021 bydd angen i chi ddefnyddio 21 Rhagfyr 2021 fel y dyddiad dechrau
  • dyddiad dod i ben y cyfnod cyflog diweddaraf yr ydych yn hawlio ar ei gyfer - mae’n rhaid i hwn fod ar neu cyn y dyddiad y gwnewch eich hawliad (oherwydd gallwch ond hawlio am SSP a delir ar ffurf ôl-daliadau)

Delwedd yn dangos cyflogwr yn hawlio Tâl Salwch Statudol ar gyfer 3 chyflogai dros 2 gyfnod cyflog. Mae’r hawliad yn dechrau ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod cyflog cyntaf, ac yn dod i ben ar ddiwrnod olaf yr ail gyfnod cyflog. Swm yr hawliad yw’r hyn a delir i bob cyflogai, wedi’i gyfyngu i 2 wythnos.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen:

  • nifer y cyflogeion yr ydych yn hawlio ar eu cyfer
  • dyddiadau dechrau a dod i ben eich cyfnod hawlio
  • cyfanswm y tâl salwch yr ydych yn ei hawlio’n ôl – ni ddylai hwn fod yn fwy na phythefnos o’r gyfradd SSP sydd wedi’i phennu
  • eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth a gawsoch pan wnaethoch gofrestru ar gyfer TWE Ar-lein - os nad oes gennych chi hyn dysgwch sut i gael eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) sydd ar goll
  • eich cyfeirnod TWE y cyflogwr
  • enw a rhif ffôn cyswllt rhywun y gallwn gysylltu ag ef pe bai gennym ymholiadau
  • eich manylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y DU (dylech ond rhoi manylion cyfrif sy’n gallu derbyn taliad Bacs) gan gynnwys:
    • rhif y cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu (a’r rhif rôl, os oes un)
    • cod didoli
    • yr enw sydd ar y cyfrif
    • eich cyfeiriad sy’n gysylltiedig â’ch cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu

Cofnodion y mae’n rhaid i chi eu cadw

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion o Dâl Salwch Statudol yr ydych wedi’i dalu ac yn dymuno’i hawlio’n ôl gan CThEM.

Mae’n rhaid i chi gadw’r cofnodion canlynol am 3 blynedd ar ôl y dyddiad y cewch y taliad ar gyfer eich hawliad:

  • y dyddiadau yr oedd y cyflogai ar absenoldeb salwch
  • pa rai o’r dyddiadau hynny oedd yn ddyddiau cymwys
  • y rheswm a roddodd dros fod i ffwrdd o’r gwaith – roedd ganddo symptomau, roedd gan rywun sy’n byw gydag ef symptomau neu roedd yn dilyn mesurau gwarchod
  • rhif Yswiriant Gwladol y cyflogai

Gallwch ddewis sut rydych yn cadw cofnodion o absenoldeb salwch eich cyflogeion. Mae’n bosibl y bydd angen i CThEM weld y cofnodion hyn os oes dadlau ynghylch talu’r Tâl Salwch Statudol.

Bydd angen i chi argraffu neu gadw’ch datganiad Cymorth Gwladwriaethol (o’r crynodeb o’ch hawliad) a’i gadw tan 31 Rhagfyr 2024.

Sut i hawlio

Mae’r Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol Coronafeirws wedi dod i ben erbyn hyn. Y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno neu ddiwygio hawliad oedd 24 Mawrth 2022.

Os ydych yn defnyddio asiant

Os ydych yn defnyddio asiant sydd wedi’i awdurdodi i weithredu TWE Ar-lein i chi, bydd yn gallu hawlio ar eich rhan. Dylech siarad â’ch asiant ynghylch p’un a yw’n darparu’r gwasanaeth hwn.

Os na allwch hawlio ar-lein

Dylai cyflogwyr nad ydynt yn gallu hawlio ar-lein fod wedi cael llythyr yn nodi ffordd arall o wneud hawliad. Cysylltwch â CThEM os nad ydych wedi cael llythyr ac os na allwch wneud unrhyw hawliadau cymwys ar-lein.

Ar ôl i chi hawlio

Bydd eich hawliad yn cael ei wirio ac, os yw’n ddilys, bydd yr arian yn cael ei dalu i mewn i’r cyfrif rydych wedi’i roi cyn pen 6 diwrnod gwaith.

Bydd CThEM yn gwirio hawliadau ac yn cymryd camau priodol i atal neu adennill taliadau y canfyddir eu bod yn anonest neu’n anghywir. Pan fydd cyflogwyr yn rhoi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol yn fwriadol er mwyn elwa ar yr hawliad, bydd CThEM yn codi cosbau hyd at £3000.

Byddwn yn cysylltu â chi gan ddefnyddio’r manylion a roddwyd gennych os bydd gennym unrhyw ymholiadau am yr hawliad.

Ni allwch wirio cynnydd eich hawliad. Peidiwch â chysylltu â CThEM oni bai bod mwy na 10 diwrnod gwaith wedi mynd heibio ers i chi wneud eich hawliad, a’ch bod heb gael taliad neu heb glywed gennym erbyn hynny.

Help arall y gallwch ei gael

Cael help ar-lein

Defnyddiwch gynorthwyydd digidol CThEM i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cynlluniau cymorth coronafeirws.

Cysylltu â CThEM

Rydym yn derbyn nifer fawr iawn o alwadau ar hyn o bryd. Mae cysylltu â CThEM yn ddiangen yn peryglu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Gallwch gysylltu â CThEM ynghylch y Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol Coronafeirws, os nad oes modd i chi gael yr help sydd ei angen arnoch ar-lein.

Cyhoeddwyd ar 26 May 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 April 2022 + show all updates
  1. The Coronavirus Statutory Sick Pay Rebate Scheme has now closed. The last date for submitting or amending a claim was 24 March 2022.

  2. Added translation

  3. Added information on the Statutory Sick Pay Rebate Scheme for coronavirus related absences because the scheme closes after 17 March 2022.

  4. The scheme has been reintroduced. You can only claim for employees who were off work on or after 21 December 2021. The maximum number of employees you can claim for is the number you had across your PAYE schemes on 30 November 2021. If the period of absence started before 21 December 2021, you’ll need to use 21 December 2021 as the start date.

  5. This scheme will be reintroduced from mid-January 2022. Further guidance will be available as soon as possible.

  6. Welsh translation added to the page.

  7. First published.