Gwirio beth i adrodd arno ar gyfer EPR dros becynwaith fel cynhyrchydd mawr
Mae’r canllawiau hyn yn egluro eich cyfrifoldebau adrodd fel cynhyrchydd mawr o dan gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr (EPR) dros becynwaith. Mae’n egluro sut i nodi pa ddata y mae’n rhaid i chi adrodd arno a deall pa rwymedigaethau nad ydynt yn berthnasol i chi.
Mae cynhyrchydd mawr yn sefydliad y mae’r canlynol yn berthnasol iddo:
-
trosiant blynyddol o fwy na £2 miliwn
-
yn gyfrifol am gyflenwi dros 50 tunnell o becynwaith yn y DU
Os ydych chi o dan y trothwyon hyn, dylech wirio a ydych chi’n gynhyrchydd bach o dan EPR dros becynwaith.
Mae canllawiau ar wahân ar beth mae’n rhaid i gynhyrchwyr bach adrodd arno.
Sut mae defnyddio’r canllawiau hyn
Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i ddeall eich rhwymedigaethau adrodd yn y gwasanaeth Adrodd ar ddata pecynwaith (RPD).
Mae’n defnyddio’r un derminoleg ag a welwch yn y gwasanaeth RPD, a fydd yn eich helpu i nodi pa wybodaeth sy’n perthyn ym mhob colofn o’r ffeil data pecynwaith rydych chi’n ei llwytho i fyny i adrodd ar eich data. Mae’r ffeil data yn ffeil gwerthoedd wedi’u gwahanu gyda choma (CSV), yn debyg i daenlen Excel.
Cam 1: nodi pa weithgareddau pecynnu mae eich sefydliad yn eu cyflawni
Rhaid i chi roi gwybod sut rydych chi’n cyflenwi pecynwaith yn y DU. Mae cyflenwi’n golygu:
-
gwerthu, llogi neu fenthyca pecynwaith
-
cyfnewid pecynwaith am rywbeth ar wahân i arian
-
darparu pecynwaith oherwydd swyddogaeth statudol
-
darparu pecynwaith fel gwobr neu rodd
-
mewnforio pecynwaith ac yna ei waredu
Mae sut rydych chi’n cyflenwi pecynwaith yn cael ei alw’n ‘weithgaredd pecynnu’ o dan yr EPR dros becynwaith. Rhaid i chi nodi eich gweithgareddau pecynnu cyn symud ymlaen i gam 2: asesu o beth mae eich pecynwaith wedi’i wneud a faint mae’n ei bwyso.
Mae gwahanol gategorïau o weithgareddau pecynnu, ac efallai y bydd eich sefydliad yn ymwneud â mwy nag un gweithgaredd pecynnu ar unrhyw adeg:
-
cyflenwi o dan eich brand
-
pacio neu lenwi
-
mewnforio
-
cyflenwi’n wag
-
llogi neu fenthyca
-
cyflenwi drwy farchnad ar-lein
Rhaid i chi gofnodi data’r wlad os ydych chi’n gwerthu pecynwaith wedi’i lenwi yn uniongyrchol i ddefnyddiwr (busnes neu ddefnyddiwr) hyd yn oed os nad ydych chi’n gwneud dim un o’r gweithgareddau pecynnu eraill a restrir.
Darllenwch adran adrodd ar ddata’r gwledydd i gael rhagor o fanylion.
Gweithgaredd pecynnu: cyflenwi o dan eich brand
Rhaid i chi adrodd bod y pecynwaith ‘wedi’i gyflenwi o dan eich brand’ os yw wedi’i lenwi, a bod enw eich brand, nod masnach neu nod adnabod arall arno. Mae hyn yn berthnasol, fel a ganlyn:
-
rydych chi’n ei fewnforio eich hun
-
rydych chi’n cyflenwi’r pecynwaith wedi’i lenwi lle mae un neu fwy o rannau’r pecynwaith yn dangos eich brand
-
os ydych chi’n talu sefydliad arall i fewnforio eich pecynwaith brand wedi’i lenwi i’r DU
-
os bydd sefydliad arall yn gweithgynhyrchu neu’n pecynnu nwyddau a fydd yn cael eu gwerthu yn y DU yn eich pecynwaith brand
-
eich bod yn trwyddedu sefydliad arall i weithgynhyrchu a chyflenwi eich pecynwaith brand wedi’i lenwi yn y DU
Er enghraifft, gallwch gyflenwi pecynnau wedi’u llenwi, fel pryd parod, mewn hambwrdd plastig heb frand arno gyda ffilm, gyda llawes gardfwrdd yn dangos eich brand. Yn yr achos hwn, dylid cynnwys y llawes gardfwrdd, yr hambwrdd plastig a’r ffilm fel rhan o’r data rydych chi’n adrodd arno o dan weithgaredd y brand.
Os byddwch chi’n ychwanegu elfen pecynwaith brand newydd at gynnyrch a’r pecynwaith sydd wedi cael ei gyflenwi gan sefydliad arall gyda’i frand arno, dim ond yr elfen brand newydd (fel label) rydych chi’n gyfrifol am adrodd arni.
Os nad oes brand ar y rhan newydd o’r pecynwaith, rhaid i chi adrodd ar hyn fel ‘wedi’i becynnu neu ei lenwi’.
Os yw’r pecynwaith yn dangos mwy nag un brand:
-
rhaid i berchennog y brand, sef y cynhyrchydd cyntaf yn y DU sy’n cyflenwi’r pecynwaith wedi’i lenwi, adrodd arno
-
ac nid oedd yr un o berchnogion y brand wedi gwneud y cyflenwad cyntaf, rhaid i berchennog y brand sy’n meddiannu’r rhan fwyaf o’r pecynwaith adrodd arno
Yr hyn na ddylech chi adrodd arno fel ‘wedi’i gyflenwi o dan eich brand’
Peidiwch â rhoi gwybod am unrhyw un o’r canlynol:
-
pecynwaith eich nwyddau brand os ydynt yn cael eu mewnforio ac nad chi sy’n gyfrifol am hynny
-
pecynwaith brand heb ei lenwi gyda’ch brand
Darllenwch enghreifftiau o pryd rydych chi’n adrodd ac nad ydych chi’n adrodd o dan ‘wedi’u cyflenwi o dan eich brand’ yn adrannau 16, 26 a 27 y canllawiau safbwyntiau y cytunwyd arnynt a dehongliadau technegol ar y Gronfa Ddata Genedlaethol Gwastraff Pecynwaith.
Gweithgaredd pecynnu: pecynnu neu lenwi
Rhaid i chi adrodd ar becynwaith â brand neu heb frand fel pecynwaith wedi’i becynnu neu wedi’i lenwi o dan yr amgylchiadau canlynol.
Pecynwaith heb frand
Rhaid i chi roi gwybod am unrhyw becynwaith heb frand rydych chi’n ei bacio neu’n ei lenwi ar gyfer eich sefydliad eich hun neu sefydliad arall.
Pecynwaith â brand
Rhaid i chi adrodd ar becynwaith â brand rydych chi wedi’i becynnu neu ei lenwi os yw brand gwneuthurwr y pecynwaith ar y pecynwaith yn unig, ac mae’n ymwneud â’r pecynwaith yn unig, nid y cynnyrch.
Er enghraifft, os ydych chi’n pecynnu neu’n llenwi bag sydd â brand arno, ac mae’r brand ar y bag yn ymwneud â gwneuthurwr y bag nid y cynnyrch y tu mewn iddo, rhaid i chi adrodd ar y bag o dan y gweithgaredd ‘pecynnu neu lenwi’.
Rhaid i chi hefyd adrodd ar becynwaith brand rydych chi wedi’i bacio neu ei lenwi os yw unrhyw un o’r canlynol yn wir:
-
mae’r brand ar y pecynwaith yn perthyn i sefydliad nad yw wedi’i sefydlu yn y DU
-
mae’r brand ar y pecynwaith yn perthyn i sefydliad yn y DU nad yw’n gynhyrchydd mawr
Gweithgaredd pecynnu: mewnforio
Rhaid i chi adrodd ar becynwaith wedi’i fewnforio fel ‘wedi’i fewnforio’ os yw wedi’i lenwi ac:
-
rydych chi wedyn yn ei roi i sefydliad arall
-
os ydych chi’n ei waredu yn y DU
-
nid oes brand arno neu nid yw’n frand i chi, a chi sy’n gyfrifol am ei fewnforio
-
mae’n cynnwys brand, a pherchennog y brand sy’n gyfrifol am ei fewnforio ond nid yw’n gynhyrchydd mawr neu nid yw wedi’i sefydlu yn y DU
-
chi yw’r sefydliad cyntaf yn y DU i gymryd perchnogaeth dros y pecynwaith
-
nid oes brand arno, ac mae’n dal heb frand ar ôl cael ei fewnforio
Os ydych chi’n mewnforio pecynwaith heb ei lenwi, wedi’i frandio neu heb ei frandio ac yn ei waredu yn y DU, mae’n rhaid i chi adrodd arno fel ‘wedi’i fewnforio’.
Beth na dylech adrodd arno fel ‘wedi’i ‘fewnforio’
Peidiwch ag adrodd bod pecynwaith wedi’i lenwi ‘wedi’i fewnforio’ os yw un o’r canlynol yn berthnasol iddo:
-
nid oes brand arno ac rydych chi’n mynd ymlaen i’w gyflenwi i ‘gynhyrchydd mawr’ sy’n rhoi ei frand arno
-
mae brand arno ac rydych chi wedi’i fewnforio ar ran perchennog brand sy’n ‘gynhyrchydd mawr’ ac wedi’i sefydlu yn y DU - yn yr achos hwn, perchennog y brand sy’n gyfrifol am adrodd o dan y gweithgaredd ‘wedi’i gyflenwi o dan eich brand’
Os ydych chi’n mewnforio pecynwaith â brand neu heb frand nad yw wedi ei lenwi, rhaid ei nodi fel ‘wedi’i becynnu neu wedi’i lenwi’ neu fel deunydd ‘wedi’i gyflenwi fel pecynwaith gwag’.
Gweithgarwch pecynnu: bod yn berchen ar farchnad ar-lein
Rhaid i chi adrodd ar unrhyw becynwaith lle mae cyflenwyr o’r tu allan i’r DU yn gwerthu eu nwyddau i’r DU drwy wefan neu ap (ar-lein yn unig) rydych chi’n ei weithredu fel ‘marchnad ar-lein’.
Rhaid i chi hefyd ddarparu disgrifiad o’r fethodoleg rydych chi wedi’i defnyddio i gasglu’r data rydych chi’n adrodd arno.
Rhagor o wybodaeth am sut mae creu a chyflwyno eich methodoleg.
Beth na dylech adrodd arno fel ‘marchnad ar-lein’
Peidiwch ag adrodd o dan y gweithgaredd hwn os ydych chi’n berchen ar wefan sy’n cyflenwi nwyddau gan sefydliadau yn y DU yn unig.
Os ydych chi hefyd yn cyflenwi pecynwaith â’ch brand eich hun arno ar eich marchnad ar-lein yn y DU, dylid adrodd ar y pecynwaith hwn o dan y gweithgaredd ‘wedi’i gyflenwi o dan eich brand’ ac ni ddylid adrodd arno ddwywaith.
Os ydych chi’n pecynnu neu’n llenwi pecynwaith heb frand ac yn ei gyflenwi drwy eich marchnad ar-lein yn y DU, rhaid i chi adrodd ar hyn fel ‘wedi’i becynnu neu wedi’i lenwi’, nid ‘marchnad ar-lein’.
Os ydych chi’n farchnad ar-lein, nid oes angen i chi adrodd ar ddosbarth pecynwaith ac nid oes angen i chi ddarllen ‘cam 3: nodi dosbarth pecynwaith’ yn y canllawiau hyn.
Gweithgaredd pecynnu: llogi neu fenthyca
Os ydych chi’n llogi neu’n benthyca pecynwaith heb ei lenwi (a elwir hefyd yn ddarparwr gwasanaeth) i sefydliad arall, fel paledi pren, rhaid i chi adrodd arno fel ‘wedi’i logi neu ei fenthyg’. Dim ond y tro cyntaf y bydd y pecynwaith hwn yn cael ei gyflenwi y bydd angen i chi adrodd arno.
Beth na ddylech adrodd arno fel ‘wedi’i logi neu ei fenthyca’
Peidiwch ag adrodd ar becynwaith rydych chi’n ei logi neu’n ei fenthyg gan sefydliad arall ar gyfer eich gweithgareddau pecynnu eich hun.
Gweithgaredd pecynnu: cyflenwi’n wag
Os ydych chi’n cyflenwi pecynwaith gwag sydd â brand neu heb frand arno (a elwir hefyd yn ddosbarthwr), rhaid i chi adrodd arno fel ‘wedi’i gyflenwi’n wag’ oni bai y bydd y pecynwaith yn dod yn gyfrifoldeb i ‘gynhyrchydd mawr’ sy’n gwneud y canlynol:
-
ei lenwi neu ei becynnu
-
ei lenwi i ffurfio rhan o’i becynwaith â brand
Gallwch gael gwybod a yw cynhyrchydd yn gynhyrchydd mawr drwy wneud y canlynol:
-
gwirio’r gofrestr gyhoeddus i weld pwy sydd wedi cofrestru â’r rheoleiddwyr amgylcheddol
-
gofyn i’r sefydliad ei hun
Darllenwch enghreifftiau o sut mae dangos tystiolaeth bod cynhyrchydd mawr yn baciwr neu’n llenwr neu’n berchennog brand yn atodiad 10 o fersiwn 8 o’r canllawiau safbwyntiau y cytunwyd arnynt a dehongliadau technegol ar y Gronfa Ddata Genedlaethol Gwastraff Pecynwaith.
Cam 2: asesu o beth mae eich pecynwaith wedi’i wneud a faint mae’n pwyso
Ar gyfer pob gweithgaredd pecynnu yng ngham 1, rhaid i chi adrodd ar ddeunydd y pecynwaith a’r pwysau mewn cilogramau (kg).
Dylech asesu deunydd y pecynwaith a phwysau pob elfen cyn symud ymlaen i gam 3: nodi dosbarth y pecynwaith.
Deunyddiau pecynwaith
Rhaid i chi adrodd ar ddata ar gyfer y deunyddiau canlynol:
-
alwminiwm, fel tuniau neu gaeadau poteli
-
deunyddiau cyfansawdd seiliedig ar ffeibr, fel cartonau ar gyfer hylifau a chartonau ar gyfer cynhyrchion nad ydynt yn hylifau
-
gwydr, fel poteli neu jariau
-
papur neu gerdyn, fel bocsys grawnfwyd neu lewys cardfwrdd
-
plastig
-
dur, fel aerosolau
-
pren, fel paledi pren
-
arall, fel bambŵ, seramig, copr, corc, cywarch, rwber a silicôn
Rhaid i chi hefyd adrodd ar yr is-fath o ddeunydd plastig (caled neu hyblyg) naill ai fel ‘caled’ (fel potel siampŵ), neu ‘hyblyg’ (fel cling film) ar gyfer pecynwaith cartref a phecynwaith sy’n cael ei roi yn y bin yn aml.
Sut mae adrodd ar gydrannau ar wahân
Rhaid i chi adrodd ar bwysau a deunydd pob cydran ar wahân, er enghraifft, mae’r gorchudd plastig mewn pecyn o fatris yn wahanol i’r cardfwrdd.
Cynwysyddion diodydd alwminiwm, dur a PET
Ar gyfer cynwysyddion diodydd polyethylen terephthalad (PET) (math o blastig), dur ac alwminiwm, rhaid rhoi gwybod am yr holl gydrannau, ni waeth beth yw eu deunydd, o dan y prif ddeunydd (y deunydd sy’n pwyso fwyaf).
Er enghraifft, byddai cynhwysydd diod PET gyda label papur a chaead polyethylen dwysedd uchel (HDPE) (math arall o blastig), yn cael ei gofnodi fel PET, gan gynnwys pwysau’r label papur.
Cynwysyddion diodydd gwydr
Ar gyfer cynwysyddion diodydd gwydr, rhaid i chi adrodd ar yr holl gydrannau ar wahân.
Cydrannau pecynwaith sydd wedi’u ffurfio o ddeunyddiau integredig
Rhaid i chi adrodd ar bwysau llawn deunydd y pecynwaith mewn kg fel y prif ddeunydd yn ôl pwysau (y deunydd sy’n pwyso fwyaf).
Er enghraifft:
-
rhaid adrodd ar becyn creision sydd wedi’i wneud o blastig a ffoil lle mai plastig yw’r prif ddeunydd, fel plastig
-
rhaid adrodd ar diwb past dannedd sydd wedi’i wneud o blastig ac alwminiwm gyda’r prif bwysau’n blastig, fel plastig
Cyfansoddion sy’n seiliedig ar ffibr
Rhaid i chi ddosbarthu deunydd fel ‘cyfansawdd ffeibr’ os yw’r ddau beth canlynol yn wir:
-
mae’r gydran pecynwaith yn cynnwys ffeibrau papur neu fwrdd neu bapur gydag un haen blastig neu fwy, gan ffurfio un uned na ellir ei gwahanu â llaw
-
mae’r haenau plastig yn fwy na 5% o’r deunydd pacio yn ôl más – os yw’n 5% neu lai, dylech ei ddosbarthu fel ‘papur neu gerdyn’
Cam 3: nodi dosbarth y pecynwaith
O dan EPR dros becynwaith, mae dosbarth pecynwaith yn disgrifio sut mae’n cael ei ddefnyddio.
Ar gyfer pob gweithgaredd pecynnu, rhaid i chi roi gwybod a yw pecynwaith yn cael ei ystyried yn ddeunydd sylfaenol, eilaidd, trydyddol neu’n ddeunydd sy’n cael ei gludo.
Rhaid i chi nodi dosbarth pecynwaith cyn symud ymlaen i gam 4: cadarnhau’r mathau o becynwaith.
Os ydych chi’n farchnad ar-lein, does dim angen i chi adrodd ar ddosbarth pecynwaith.
Prif becynwaith
Gall prif becynwaith fod yn un o’r canlynol:
-
pecynwaith ar un eitem i’w gwerthu i ddefnyddiwr (busnes neu ddefnyddiwr), fel potel o win
-
pecynwaith ar eitemau lluosog, fel pecyn o duniau ffa, sydd wedi’i fwriadu fel un eitem i’w werthu i ddefnyddiwr
Mae’r prif becynwaith yn cynnwys yr holl becynwaith sy’n cynnwys ac yn diogelu’r eitem neu’r eitemau.
Pecynwaith eilaidd
Defnyddir pecynwaith eilaidd i grwpio nifer o eitemau gwerthu (y cynnyrch a’r prif becynwaith) gyda’i gilydd. Gall sefydliadau hefyd ddefnyddio pecynwaith eilaidd i arddangos nwyddau mewn siopau, fel hambwrdd cardfwrdd.
Pecynwaith trydyddol
Defnyddir pecynwaith trydyddol neu dros dro i drin a chludo prif becynwaith neu becynwaith eilaidd, er enghraifft cratiau i atal difrod wrth gludo. Nid yw pecynwaith trydyddol yn cynnwys cynwysyddion ffyrdd, rheilffyrdd, llongau ac awyrennau.
Pecynwaith cludo
Mae pecynwaith cludo yn golygu pecynwaith trydyddol ar eitemau sy’n cael eu cyflenwi neu y bwriedir eu cyflenwi i ddefnyddiwr (nid busnes). Mae hyn yn cynnwys pecynwaith ar nwyddau sy’n cael eu gwerthu ar-lein neu eu danfon i’r prynwr o siop neu fan casglu. Gall pecynwaith cludo gynnwys bocsys cardfwrdd, bagiau siopa, papur swigod a bagiau postio.
Cam 4: cadarnhau’r mathau o becynwaith
Ar gyfer pob gweithgaredd pecynnu, rhaid i chi roi gwybod a yw’r pecynwaith yn un o’r canlynol:
-
pecynwaith cartref neu becynwaith nad yw’n ymwneud â’r cartref
-
yn cael ei roi mewn biniau cyhoeddus yn aml
-
cynhwysydd diod o’r cartref neu gynhwysydd diod nad yw’n dod o’r cartref
-
un y gellir ei ailddefnyddio
-
yn cael ei reoli gan yr unigolyn ei hun - mae hyn yn golygu pecynwaith sy’n cael ei drin gan eich sefydliad eich hun
Mae’n rhaid i chi gadarnhau’r mathau o becynwaith cyn symud ymlaen i gam 5: gwirio a oes angen i chi adrodd ar ddata ailgylchadwyedd eich pecynwaith.
Math o becynwaith: pecynwaith cartref a phecynwaith nad yw’n ymwneud â’r cartref
Ar gyfer pob gweithgaredd pecynnu, mae’n rhaid i chi asesu ac adrodd ar a yw eich pecynwaith yn cael ei ystyried yn becynwaith cartref neu’n becynwaith nad yw’n ymwneud â’r cartref.
Math o becynwaith: yn cael ei roi’n aml mewn biniau cyhoeddus
Rhaid i chi adrodd ar ddata am ddeunydd a phwysau pecynwaith sy’n cael ei roi’n aml mewn biniau cyhoeddus, fel:
-
pecynwaith sy’n cael ei roi i ddefnyddwyr gyda bwyd neu ddiod tecawê, gan gynnwys deunydd lapio, bocsys, cwpanau, dalwyr cwpanau, bagiau a phapur
-
pecynwaith melysion, lle mae’r melysion yn pwyso llai na 230 gram (g), gan gynnwys pecynnau gwm cnoi a phecynnau siocled
-
pecynwaith sigarennau, sigârs, tybaco, e-sigarennau a hylif ail-lenwi fêps
-
pecynwaith gwelltyn – er enghraifft, papur neu seloffen
-
pecynnau creision neu becynwaith byrbrydau sawrus eraill, lle mae’r creision neu’r byrbrydau’n pwyso llai na 60g
-
pecynwaith darnau unigol o fwyd y gellir eu bwyta ar unwaith heb eu paratoi ymhellach, gan gynnwys rholiau selsig, swshi, brechdanau, bisgedi a chacennau unigol
-
cartonau sy’n dal 850 mililitr (ml) neu lai o ddiod, y gellir yfed ei chynnwys ar unwaith heb ei wanhau
-
bagiau bach sy’n cynnwys llai na 600ml o ddiod, y gellir yfed ei gynnwys ar unwaith heb ei wanhau
Dim ond yn y categori hwn y mae angen i chi adrodd ar y data hwn. Rhaid i chi beidio ag adrodd arno fel deunydd pacio o’r cartref hefyd.
Mae’r rhestr o eitemau sy’n aml yn cael eu rhoi mewn biniau cyhoeddus yn cael ei hadolygu’n rheolaidd a gall newid ar ddiwedd y flwyddyn adrodd.
Math o becynwaith: cynwysyddion diodydd
Rhaid i chi adrodd ar gynwysyddion diodydd sy’n dal rhwng 150ml a 3 litr o hylif fel ‘cynwysyddion diodydd’. Mae hyn yn cynnwys cynwysyddion sy’n rhan o amlbecyn a photeli neu ganiau untro ar gyfer diodydd sy’n cael eu gwneud yn gyfan gwbl neu’n bennaf o:
-
plastig PET
-
gwydr
-
dur
-
alwminiwm
Rhaid i chi adrodd ar eich cynwysyddion diodydd naill ai fel:
-
cynwysyddion diodydd o’r cartref
-
cynwysyddion diodydd nad ydynt o’r cartref
Darllenwch ganllawiau ar sut i asesu a yw eich cynwysyddion diodydd yn cael eu hystyried yn becynwaith cartref neu’n becynwaith nad yw’n dod o’r cartref.
Beth na dylech adrodd arno fel cynhwysydd diodydd
Rhaid i chi adrodd ar y cynwysyddion diodydd canlynol fel ‘prif becynwaith’ yn hytrach na ‘chynwysyddion diodydd’:
-
cynwysyddion o dan 150ml neu dros 3 litr
-
cwpanau tecawê neu gynwysyddion diodydd HDPE, fel potel lefrith
Sut i roi gwybod am gydrannau cynwysyddion diodydd
Ar gyfer cydrannau cynwysyddion diodydd gwydr, rhaid i chi adrodd ar bwysau pob cydran ar wahân yn ôl y math o ddeunydd fel y prif becynwaith (o’r cartref neu ddim o’r cartref).
Ar gyfer cynwysyddion diodydd dur, alwminiwm a PET, rhaid i chi adrodd ar gydrannau unigol wedi’u gwneud o wahanol ddeunyddiau, fel caead neu label, fel rhan o gyfanswm pwysau’r dur, alwminiwm a PET.
Rhaid i chi adrodd ar y cynhwysydd o dan y categori deunydd sydd trymaf (y prif ddeunydd).
Math o becynwaith: gwastraff hunan-reoledig
Mae gwastraff hunan-reoledig yn cyfeirio at wastraff pecynwaith rydych chi, fel sefydliad, yn cymryd cyfrifoldeb uniongyrchol dros ei reoli eich hun. Mae hyn yn golygu nad ydych chi’n dibynnu ar awdurdodau lleol i’w gasglu ar eich rhan.
Adrodd ar wastraff hunan-reoledig naill ai fel:
-
gwastraff defnyddiwr
-
gwastraff sefydliad
Gwastraff defnyddiwr
Ar gyfer gwastraff defnyddiwr rydych chi’n ei reoli eich hun, dim ond data ar gyfer gwastraff sydd wedi cael ei ailgylchu y mae’n rhaid i chi adrodd arno.
Rhaid i chi wneud y canlynol:
-
adrodd ar gyfanswm y pwysau mewn kg, wedi’i ddadansoddi yn ôl math o ddeunydd
-
tystiolaeth bod y pecynwaith wedi cael ei ailgylchu yn ystod y cyfnod adrodd, nid dim ond ei anfon i’w ailgylchu – rhaid i’r dystiolaeth ddod gan ailbrosesydd neu allforiwr achrededig
Mae 3 math gwahanol o wastraff y mae defnyddwyr yn ei reoli eu hunain:
-
gwastraff pecynwaith, fel pecynwaith plastig hyblyg, nad yw’n cael ei gasglu’n rheolaidd gan awdurdodau lleol
-
pecynwaith mae modd ei ailddefnyddio sydd wedi cael ei ailddefnyddio o leiaf unwaith, er enghraifft, mae cratiau sy’n cael eu defnyddio i ddanfon nwyddau wedyn yn cael eu casglu’n ôl a’u defnyddio o leiaf unwaith eto
-gwastraff pecynwaith dolen gaeedig
Rhaid i chi adrodd ar wastraff pecynwaith nad yw’n becynwaith sy’n cael ei gasglu a’i ailddefnyddio’n aml gyda’i gilydd o dan wastraff y mae defnyddwyr yn ei reoli eu hunain.
Adroddir ar wastraff pecynwaith dolen gaeedig fel ffigur ar wahân.
Mae data ar wastraff y mae defnyddwyr yn ei reoli eu hunain yn cael ei ddefnyddio i wrthbwyso pecynwaith sydd wedi’i wneud o’r un deunydd rydych chi wedi adrodd arno fel pecynwaith o’r cartref ac sy’n cael ei roi yn y bin yn aml. Bydd hyn yn lleihau eich ffi gwaredu.
Gwastraff sefydliad
Rhaid i chi adrodd ar ddata am yr holl wastraff pecynwaith y mae eich sefydliad wedi’i gasglu. Gallai hyn gynnwys ‘ôl-drosglwyddo’ (gan ddefnyddio llwybrau dychwelyd cynnyrch i gasglu a chludo gwastraff pecynwaith yn ôl i’ch sefydliad) neu lle rydych chi wedi trefnu i gontractwr preifat waredu gwastraff pecynwaith.
Gall hyn gynnwys:
-
gwastraff pecynwaith gyda’ch brand chi eich hun
-
gwastraff pecynwaith sefydliadau eraill (brand)
-
gwastraff pecynwaith rydych chi wedi’i gael gan sefydliad arall ar gyfer ‘ôl-drosglwyddo’
-
gwastraff pecynwaith heb frand
-
gwastraff pecynwaith rydych chi wedi’i adfer gan ddefnyddwyr ac sy’n cael ei gasglu’n rheolaidd gan awdurdodau lleol
Mae’r rheoleiddwyr wedi cyhoeddi datganiad ar wastraff hunan-reoledig sefydliad.
Math o becynwaith: pecynwaith y gellir ei ailddefnyddio
Mae pecynwaith y gellir ei ailddefnyddio wedi cael ei ddylunio i gael ei ailddefnyddio a’i ail-lenwi sawl gwaith, er enghraifft paled pren ar gyfer cludo nwyddau. Dim ond os yw’n bodloni’r diffiniad hwn ac os yw’r cynhyrchydd wedi creu system ailddefnyddio ar gyfer y pecynwaith y dylid adrodd arno o dan y categori ‘pecynwaith y mae modd ei ailddefnyddio’.
Dylech adrodd ar becynwaith y gellir ei ailddefnyddio y tro cyntaf y byddwch chi’n ei gyflenwi. Rhaid i chi wneud y canlynol:
-
dylech gynnwys pwysau pecynwaith y mae modd ei ailddefnyddio pan fyddwch chi’n rhoi gwybod faint o becynwaith rydych wedi’i gyflenwi o dan y gweithgaredd pecynnu perthnasol
-
dylech adrodd ar becynwaith y mae modd ei ailddefnyddio ar wahân – rhaid i chi rannu eich data i ddangos faint sy’n becynwaith sylfaenol y gellir ei ailddefnyddio a faint sy’n becynwaith ansylfaenol gellir ei ailddefnyddio
Dylech hefyd roi gwybod faint o’ch pecynwaith y gellir ei ailddefnyddio sy’n becynwaith o’r cartref ac yn becynwaith nad yw o’r cartref.
Cam 5: gwirio a oes angen i chi adrodd ar ddata ailgylchadwyedd eich pecynwaith
Rhaid i chi adrodd ar ddata ailgylchadwyedd y canlynol:
-
pecynwaith o’r cartref
-
pecynwaith sy’n aml yn mynd i finiau cyhoeddus
-
cynwysyddion diodydd o’r cartref sydd wedi’u gwneud o wydr
Rhaid i chi ddefnyddio’r fethodoleg asesu ailgylchadwyedd (RAM) i asesu ailgylchadwyedd a sgorio pecynwaith fel coch, ambr neu wyrdd.
Mae sgoriau RAM yn effeithio ar eich ffi gwaredu.
Mae’n rhaid i chi wirio a oes angen i chi adrodd ar ddata RAM cyn symud ymlaen i gam 6: gwirio a oes angen i chi gofnodi data’r wlad.
Cam 6: gwirio a oes angen i chi adrodd ar ddata’r wlad
Mae data gwledydd yn golygu gwybodaeth yn nodi ym mha un o bedair gwlad y DU y mae’r pecynwaith yn cael ei gyflenwi a’i waredu. Mae’r gofyniad hwn ar wahân i ofynion eraill adrodd ar ddata pecynwaith.
Rhaid dadansoddi’r data yn ôl pwysau mewn kg a math o ddeunydd. Nid oes angen ei ddadansoddi yn ôl dosbarth neu fath o becynwaith.
Nid yw data gwledydd yn:
-
effeithio ar rwymedigaethau ailgylchu
-
effeithio ar ffioedd gwaredu
Mae’r rheoleiddwyr wedi cyhoeddi datganiad ynghylch pryd i gasglu ac adrodd ar ddata gwledydd. Rhagor o wybodaeth am sut gallai data gwledydd effeithio ar eich cais.
Gwlad gyflenwi
Y wlad gyflenwi yw’r wlad yn y DU lle rydych chi wedi cyflenwi pecynwaith iddi (y gyrchfan).
Dylech gofnodi’r wlad gyflenwi os:
-
ydych chi wedi gwerthu pecynwaith wedi’i lenwi i ddefnyddiwr (busnes neu ddefnyddiwr)
-
ydych chi’n cyflenwi pecynwaith gwag fel ‘wedi’i gyflenwi’n wag’ ac nid y cynhyrchydd mawr na pherchennog y brand sy’n gyfrifol amdano
-
yw eich sefydliad yn llogi pecynwaith neu’n ei fenthyca i sefydliadau eraill
-
ydych chi’n berchen ar farchnad ar-lein lle mae pecynwaith yn cael ei gyflenwi i farchnad y DU o’r tu allan i’r DU
Rhaid cofnodi gwlad y pecynwaith sy’n cael ei gyflenwi o dan un gweithgaredd yn unig. Os ydych chi’n gwerthu pecynwaith wedi’i lenwi i ddefnyddiwr ond eich bod hefyd yn cyflawni unrhyw un o’r 3 gweithgaredd pecynnu arall a restrir o dan ‘gwlad gyflenwi’, dim ond unwaith y mae’n rhaid i chi ei gofnodi.
Y wlad gwaredu
Os ydych chi’n fewnforiwr yn y DU sy’n mewnforio pecynwaith wedi’i lenwi i’r DU at eich defnydd eich hun, dylech gofnodi’r wlad sy’n ei waredu. Y wlad gwaredu yw’r wlad yn y DU lle rydych chi wedi cael gwared ar y pecynwaith fel gwastraff.
Os nad ydych chi’n fewnforiwr, ni ddylech gofnodi’r data hwn.
Enghraifft o adrodd ar wlad gyflenwi a gwaredu
Mae cynhyrchydd mawr yn Lloegr yn llogi ac yn benthyg pecynwaith ac yn mewnforio paledi gwag y gellir eu hailddefnyddio i’w llogi ledled y DU. Cafodd y rhain eu llogi allan am y tro cyntaf (eu cyflenwi am y tro cyntaf) i gwsmer yn yr Alban. Dylai’r cynhyrchydd mawr gofnodi’r canlynol o dan y ‘gweithgarwch llogi neu fenthyg’:
-
pwysau a deunydd y paledi o dan y gweithgarwch llogi neu fenthyg
-
y wlad gyflenwi fel yr Alban
Roedd yr un cynhyrchydd wedi gwaredu’r pecynwaith a gafodd ei fewnforio yn ei safle yn Lloegr felly dylai gofnodi’r canlynol o dan ‘gweithgarwch mewnforiwr’:
-
pwysau a deunydd unrhyw becynwaith cludo a gafodd ei fewnforio a’i waredu ac unrhyw baledi a ddifrodwyd wrth fewnforio a gafodd eu gwaredu ar y safle
-
gwlad gwaredu’r pecynwaith cludo a phaledi wedi’u difrodi fel Lloegr
Beth i’w wneud nesaf
Rhaid i chi gyflwyno eich data pecynwaith gan ddefnyddio’r gwasanaeth RPD.
Darllenwch y canllawiau i ddeall sut i wneud y canlynol:
-
adrodd ar eich data - gan gynnwys y codau y mae angen i chi eu defnyddio a sut mae creu eich ffeil CSV
Cael help neu roi adborth
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’ch rheoleiddiwr amgylcheddol neu dîm gwasanaeth cwsmeriaid EPR dros becynwaith.
Gwiriwch fanylion cyswllt rheoleiddwyr a gweinyddwyr.
Gallwch hefyd roi adborth am y canllawiau hyn.
Panel defnyddwyr
Mae Defra yn chwilio am weithwyr proffesiynol ym maes gwastraff a phecynwaith i ymuno â phanel defnyddwyr i helpu i wella ein gwasanaethau. Dysgu sut i gymryd rhan mewn sesiynau ymchwilio i adnoddau a gwastraff..