Gwirio a oes angen i chi gofrestru fel ymgynghorydd treth gyda CThEF a phryd
Gwiriwch a oes angen i chi gofrestru, a phryd, ar gyfer Cyfrif Gwasanaethau Asiant er mwyn rhyngweithio â CThEF ar ran eich cleientiaid fel cynghorydd treth.
Newidiadau i gofrestru
Mae CThEF wedi cyflwyno gwasanaeth ar-lein i gofrestru ar gyfer cyfrif gwasanaethau asiant. Mae hyn yn disodli’r ffordd flaenorol o gofrestru.
Efallai y bydd gofyn i chi yn gyfreithiol gofrestru gyda CThEF. Mae hyn yn golygu y bydd angen cyfrif gwasanaethau asiant arnoch os nad oes gennych un eisoes.
Rydym yn cyflwyno’r gofyniad i gofrestru fesul cam — bydd pryd y bydd angen i chi gofrestru yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Os oes gennych gyfrif gwasanaethau asiant eisoes, ni fydd angen i chi gofrestru eto. Byddwn yn cysylltu â chi drwy eich cyfrif gwasanaethau asiant pan fydd angen mwy o wybodaeth gennym gennych, gwirio a ydych yn bodloni rhai amodau (yn agor tudalen Saesneg).
Pwy sydd angen cofrestru
Os ydych yn delio â CThEF ynglŷn â materion treth rhywun arall ac yn cael eich talu am wneud hynny, rydym yn eich ystyried yn gynghorydd treth. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Cyfrif Gwasanaethau Asiant.
Mae rhyngweithio â CThEF yn cynnwys:
-
dros y ffôn, drwy’r post neu drwy e-bost
-
negeseuon drwy wefan GOV.UK neu ap CThEF
-
anfon ffurflenni, hawliadau neu ddogfennau eraill
Mae’n rhaid i’r endid cyfreithiol sy’n rhyngweithio â CThEF gofrestru. Ni fydd angen i weithwyr unigol gofrestru ar wahân, ond bydd angen i ni gynnal gwiriadau ar rai unigolion o fewn eich busnes (yn agor tudalen Saesneg).
Bydd angen i chi gofrestru hyd yn oed os:
- nad ydych yn ystyried eich hun yn gynghorydd treth, nac yn disgrifio’ch gwaith fel cyngor treth
- eich bod yn gweithio fel unig fasnachwr cofrestredig
- nad yw helpu pobl gyda’u materion treth yn brif swyddogaeth eich busnes
- eich bod ond yn rhyngweithio â CThEF ar ran un cleient
- bod eich busnes wedi’i leoli y tu allan i’r DU
Gwiriwch a oes angen i chi gofrestru
Defnyddiwch yr offeryn ar-lein hwn i wirio a oes angen i chi gofrestru gyda CThEF.
I ddefnyddio’r offeryn hwn, bydd angen i chi wybod a yw’ch busnes:
- yn darparu gwasanaethau treth taledig
- yn cysylltu â CThEF ar ran cleientiaid
- eisoes â chyfrif gwasanaethau asiant
- wedi cofrestru o’r blaen ar gyfer cod asiant Hunanasesiad neu Dreth Gorfforaeth
Pwy sydd ddim yn gorfod chofrestru
Ni fydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif gwasanaethau asiant os ydych yn:
- yn gyflogwr neu’n dîm treth mewnol, yn rhedeg y gyflogres ar gyfer eich staff eich hun
- ond yn delio â materion treth o fewn eich grŵp cwmnïau eich hun
- yn darparu gwasanaethau cyngor treth yn rhad ac am ddim (er enghraifft, gwasanaethau elusennol neu helpu ffrindiau neu deulu gyda threthi)
- yn rhyngweithio â CThEF ar ran trethdalwyr oherwydd bod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol, hyd yn oed os ydych yn cael eich talu (er enghraifft, ymarferwyr ansolfedd, rhai cwmnïau pensiwn neu fuddsoddi)
- bod yn rhaid rhyngweithio â CThEF mewn ymateb i gais am wybodaeth
- yn darparu meddalwedd cyflogres, cyfrifyddu neu dreth i eraill ei defnyddio, ond heb ryngweithio â CThEF
Hefyd, ni fydd angen i chi gofrestru os ydych ond yn rhyngweithio â CThEF:
- ar faterion tollau neu TAW mewnforio
- fel cynrychiolydd TAW (a benodir i ymdrin â materion TAW ar ran busnes)
- fel cynrychiolydd treth Gogledd Iwerddon (a benodir gan fusnes y tu allan i’r DU i reoli rhai rhwymedigaethau treth penodol i Ogledd Iwerddon)
- fel cynrychiolydd yn y DU ar gyfer Treth Anweddu (a benodir gan fusnes tramor i ddelio â materion treth penodol yn y DU)
- fel cyfryngwr ar gyfer y cynllun Import One Stop Shop
- i gynrychioli cleient mewn apeliadau i lys neu dribiwnlys
Pryd i gofrestru
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif gwasanaethau asiant o 18 Mai 2026, oni bai bod un o’r canlynol yn berthnasol:
- os oes gennych gyfrif Hunanasesiad neu Dreth Gorfforaeth eisoes, bydd angen i chi gofrestru o 18 Awst 2026
- os mai dim ond gwasanaethau cyflogres trydydd parti yr ydych yn eu darparu ar ran cleientiaid ac nad ydych yn rhyngweithio â CThEF mewn unrhyw ffordd arall, bydd angen i chi gofrestru o 18 Tachwedd 2026
- os ydych yn sefydliad gwasanaethau ariannol, bydd angen i chi gofrestru o 31 Rhagfyr 2026
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein i gofrestru o 18 Mai 2026, hyd yn oed os nad oes gofyn i chi wneud hynny tan ddyddiad diweddarach.
Y cyfnod cofrestru
Bydd gennych 3 mis o’r dyddiad y mae angen i chi gofrestru i wneud cais am gyfrif gwasanaethau asiant. Gallwch barhau i ryngweithio â CThEF ar ran eich cleientiaid:
- yn ystod y 3 mis hyn
- tra byddwn yn ystyried eich cofrestriad
Cyn i chi gofrestru
Cyn i chi gofrestru gyda CThEF, dylech wirio a ydych yn bodloni amodau CThEF i gofrestru fel cynghorydd treth (yn agor tudalen Saesneg).
Sut i gofrestru
Gallwch nawr wneud cais am gyfrif gwasanaethau asiant (yn agor tudalen Saesneg) i ryngweithio â CThEF fel cynghorydd treth.
Beth sy’n digwydd os na fyddwch yn cofrestru
Os oes angen i chi gofrestru ar gyfer Cyfrif Gwasanaethau Asiant ac nad ydych yn gwneud hynny, ni fyddwch yn gallu rhyngweithio â CThEF ar ran eich cleientiaid.
Os byddwch yn parhau i geisio rhyngweithio â CThEF, mae’n bosibl y byddwch yn destun sancsiynau (yn agor tudalen Saesneg).
Updates to this page
-
Information has been added to help overseas businesses understand the process they need to follow to register with HMRC.
-
Added translation
-
Information has been added to tell businesses how to register with HMRC as a tax adviser through the new online registration process introduced on 18 May 2026.
-
A tool to check if you need to register as a tax adviser has been added to the 'Who needs to register' section.
-
Guidance has been updated to explain that intermediaries for the Import One Stop Shop scheme do not need to register as tax advisers. It also confirms that anyone providing third‑party payroll services on behalf of clients will need to register as a tax adviser from 18 November 2026.
-
First published.