Gwirio’r ffordd i gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad gan ddefnyddio meddalwedd fasnachol
Dysgwch os oes angen i chi greu Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair unigryw er mwyn cyflwyno eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad gan ddefnyddio meddalwedd fasnachol.
Mae’n bosibl y bydd angen i chi greu Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair unigryw ar gyfer Porth y Llywodraeth er mwyn cyflwyno eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad gan ddefnyddio meddalwedd fasnachol. Bydd hyn yn caniatáu i’ch meddalwedd gyflwyno eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad i CThEF.
Os ydych yn defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, mae’n bosibl bydd angen i chi ddefnyddio proses wahanol er mwyn awdurdodi eich meddalwedd.
Cyn i chi ddechrau
Gwiriwch eich bod wedi gwneud y canlynol:
- cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
- ychwanegu Hunanasesiad fel treth i’ch cyfrif treth busnes neu gyfrif treth personol
Bydd angen i chi wybod a ydych wedi mewngofnodi i CThEF gyda’r canlynol:
- Porth y Llywodraeth — gall eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) fod hyd at 12 o gymeriadau
- GOV.UK One Login — eich enw defnyddiwr yw eich cyfeiriad e-bost
Os nad ydych yn siŵr pa fanylion yr ydych yn eu defnyddio, gwiriwch y manylion mewngofnodi cywir ar gyfer gwasanaethau ar-lein CThEF.
Rydych yn mewngofnodi gan ddefnyddio Porth y Llywodraeth
Os ydych yn mewngofnodi i Hunanasesiad gan ddefnyddio Porth y Llywodraeth, defnyddiwch yr un manylion yn eich meddalwedd fasnachol er mwyn ei gysylltu gyda CThEF er mwyn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth.
Rydych yn mewngofnodi gan ddefnyddio GOV.UK One Login
Os ydych yn mewngofnodi i Hunanasesiad gan ddefnyddio GOV.UK One Login, bydd angen i chi greu Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair unigryw ar gyfer Porth y Llywodraeth er mwyn cysylltu’ch meddalwedd fasnachol gyda CThEF wrth gyflwyno Ffurflen Dreth.
Ni all eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair unigryw ar gyfer Porth y Llywodraeth gael ei ddefnyddio i gael mynediad at wasanaethau ar GOV.UK.
Creu Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair unigryw ar gyfer Porth y Llywodraeth
Dilynwch y camau hyn er mwyn creu eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair unigryw ar gyfer Porth y Llywodraeth.
-
Defnyddiwch eich cyfrif GOV.UK One Login er mwyn mewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein CThEF.
-
Os ydych wedi mewngofnodi i’ch cyfrif treth personol, dewiswch y canlynol:
1. ‘Proffil a gosodiadau’.
2. ‘Rheoli cyfrif’ sydd y drws nesaf i ‘Manylion mewngofnodi’.
3. ‘Bwrw golwg’ sydd y drws nesaf i ‘Arweiniad ar feddalwedd fasnachol’. -
Os ydych wedi mewngofnodi i’ch cyfrif treth busnes, dewiswch y canlynol:
1. ‘Rheoli’r cyfrif’.
2. ‘Newid neu fwrw golwg dros fanylion eich cyfrif treth busnes’.
3. ‘Rheoli’ch manylion ar gyfer mewngofnodi i wasanaethau CThEF’.
4. ‘Bwrw golwg’ sydd y drws nesaf i ‘Arweiniad ar feddalwedd fasnachol’. -
Darllenwch yr arweiniad a dewis ‘Creu manylion ar gyfer Porth y Llywodraeth’.
-
Dilynwch y camau hyd nes eich bod wedi creu Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair unigryw ar gyfer Porth y Llywodraeth. Caiff eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) ei e-bostio i chi.
-
Nodwch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair unigryw ar gyfer Porth y Llywodraeth yn y mannau perthnasol yn eich meddalwedd fasnachol wrth gyflwyno eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.