Canllawiau

Ymddiriedolwyr elusen: ymddiswyddo a diswyddo

Pa weithdrefnau y mae angen i chi eu dilyn i ymddiswyddo fel ymddiriedolwr elusen neu ddiswyddo ymddiriedolwr o'r bwrdd.

Applies to England and Wales

Cyfnod gwasanaeth i ymddiriedolwyr

Efallai fod dogfen lywodraethol eich elusen yn nodi nifer penodol o flynyddoedd y gall ymddiriedolwyr wasanaethu ar eu cyfer. Gall ymddiriedolwr sydd wedi cyrraedd diwedd ei dymor penodedig gael ei ailbenodi am dymor arall, oni bai bod eich dogfen lywodraethol yn dweud fel arall.

Os nad yw’ch dogfen lywodraethol yn pennu cyfnod gwasanaeth, bydd ymddiriedolwyr yn parhau yn eu rôl nes eu bod yn marw, yn ymddiswyddo neu’n cael eu diswyddo.

Ymddiswyddo fel ymddiriedolwr

Yn gyffredinol, gall ymddiriedolwyr ymddiswyddo cyn diwedd eu cyfnod penodedig. Bydd rhaid i ymddiriedolwr gyflwyno cais ysgrifenedig i ymddiswyddo.

Efallai fod dogfen lywodraethol eich elusen hefyd yn cynnwys rhai rheolau y bydd rhaid i chi eu dilyn os yw ymddiriedolwr am ymddiswyddo.

Gwnewch yn siŵr bod digon o ymddiriedolwyr gennych chi i redeg eich elusen. Os yw’ch dogfen lywodraethol yn datgan y nifer lleiaf ar gyfer eich bwrdd ymddiriedolwyr, gwnewch yn siŵr nad ydych yn mynd yn is na’r nifer hwnnw. Ceisiwch ganfod a phenodi ymddiriedolwr newydd cyn i’r ymddiriedolwyr sy’n ymddeol adael.

Sut i ddiswyddo ymddiriedolwr o’r bwrdd

Fel arfer bydd angen rheswm da arnoch i ddiswyddo ymddiriedolwr, er enghraifft os yw wedi gwneud rhywbeth sy’n niweidio enw da eich elusen.

Edrychwch ar ddogfen lywodraethol eich elusen i weld a oes gweithdrefn ar gyfer diswyddo ymddiriedolwyr.

Os yw’ch elusen yn gwmni, mae hawl gennych ddiswyddo cyfarwyddwr, ar yr amod eich bod yn dilyn y gweithdrefnau cywir. Mae’r hawl honno gennych o dan Ddeddf Cwmnïau 2006, beth bynnag arall sydd wedi’i ysgrifennu yn eich erthyglau cymdeithasu.

Pleidlais o ddiffyg hyder

Gallwch gynnal pleidlais o ddiffyg hyder i annog rhywun i ymddiswyddo fel ymddiriedolwr. Gallai hyn fod yn rhan o reolau eich elusen ar gyfer diswyddo ymddiriedolwr, neu wedi’i ysgrifennu yn ei dogfen lywodraethol. Os nad yw’n rhan o reolau eich elusen, nid oes unrhyw bŵer cyfreithiol gan y bleidlais ac ni fydd rhaid i’r ymddiriedolwr ymddiswyddo.

Ystyriwch gyfryngu. Mae gan y Y Weinyddiaeth Gyfiawnder rwydwaith o gyfryngwyr.

Gweithdrefnau cyfreithiol i ddiswyddo neu ddisodli ymddiriedolwyr

Fel arfer mae’n fater syml i ymddiriedolwr adael os yw’ch elusen yn gwmni neu os oes gweithdrefnau wedi’u hysgrifennu yn eich dogfen lywodraethol.

Os nad dyma’r achos, gall y Ddeddf Ymddiriedolwyr ganiatáu i chi ddisodli ymddiriedolwr - er enghraifft os yw’r ymddiriedolwr am ymddeol neu’n gwrthod gweithredu fel ymddiriedolwr.

Sut i ddiweddaru manylion eich elusen

Pan fydd ymddiriedolwr yn gadael, diweddarwch y cofnodion sydd gan y Comisiwn Elusennau am eich elusen - naill ai yn eich ffurflen flynyddol neu ar-lein.

Os oedd rhai cyfrifoldebau arbennig gan yr ymddiriedolwr sy’n ymddeol, mae’n syniad da i drefnu trosglwyddiad. Gallai hyn olygu bod yr ymddiriedolwr sy’n gadael.

  • yn trosglwyddo cyfrinair yr elusen ar gyfer gwefan y Comisiwn
  • hyfforddi eraill ar sut i gwblhau’r ffurflen flynyddol
  • yn dweud wrth y Comisiwn bod eich cyswllt a enwir wedi newid

Os yw’r ymddiriedolwr sy’n gadael yn cael ei enwi ar weithredoedd teitl eich elusen i dir neu eiddo, bydd rhaid i chi ddiweddaru’r gweithredoedd teitl. Mae trefn gyfreithiol benodol ar gyfer hyn a gallwch geisio cyngor proffesiynol. Dylai fod gennych ddau ymddiriedolwr o leiaf bob amser os yw’ch elusen yn dal tir.

Cyhoeddwyd ar 23 May 2013