Canllawiau

Dibenion a rheolau elusennau

Dysgwch am y rheolau mae’n rhaid i chi eu dilyn i lywodraethu eich elusen.

Applies to England and Wales

Dibenion a rheolau elusennau

Fel ymddiriedolwr, mae’n rhaid i chi redeg eich elusen mewn modd sy’n cydymffurfio â dogfen lywodraethol eich elusen a’r gyfraith.

Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod eich elusen yn cyflawni ei dibenion.

Mae pob ymddiriedolwr yn gyfrifol am hyn. Hyd yn oes os gwneir tasgau penodol gan ymddiriedolwyr, cyflogeion neu wirfoddolwyr unigol, mae pob ymddiriedolwr yn gyfrifol.

Defnyddio dogfen lywodraethol eich elusen

Dyma eich man cychwyn.

Mae gan bob elusen ddogfen lywodraethol. Mae’n cynnwys:

  • nodau neu ddibenion eich elusen (y cyfeirir atynt yn aml fel ei ’amcanion’)
  • rheolau ynghylch sut mae’n rhaid iddi weithredu

Sicrhewch fod y fersiwn ddiweddaraf gennych. Defnyddiwch hi wrth wneud eich cynlluniau a’ch penderfyniadau.

Defnyddiwch y gofrestr elusennau i wirio beth yw dogfen lywodraethol eich elusen. Mae fel arfer yn gyfansoddiad, gweithred neu femorandwm ymddiriedolaeth ac erthyglau cymdeithasiad.

Canolbwyntio ar ddibenion eich elusen

Mae’n rhaid i chi gyflawni dibenion eich elusen yn unig. Gellir gwario cronfeydd eich elusen yn unig ar gefnogi cyflawni’r dibenion hyn.

Darllenwch y ddogfen lywodraethol. Sicrhewch eich bod yn deall.

  • yr hyn mae’ch elusen wedi’i sefydlu i’w gyflawni (ei dibenion)
  • pwy fydd yn elwa o’ch elusen (ei buddiolwyr)
  • yr hyn a all neu na all eich elusen ei wneud i gyflawni ei dibenion (ei phwerau)

Bydd sicrhau bod eich elusen yn hyrwyddo ei dibenion yn rhywbeth y byddwch yn ei wneud yn gyson fel ymddiriedolwr.

Er enghraifft, pryd bynnag:

  • y byddwch yn nodi eich cyllideb am y flwyddyn
  • cytuno prosiectau neu wasanaethau newydd
  • meddwl am sut i ddefnyddio eiddo’r elusen

Llithro i weithgareddau nad yw eich elusen wedi’i sefydlu i’w gwneud

Gall hyn ddigwydd os na fyddwch yn canolbwyntio ar ddibenion eich elusen. Er enghraifft, lle bydd yr elusen:

  • yn dymuno darparu gwasanaeth newydd, ond nid yw’r ymddiriedolwyr wedi sicrhau bod y gwaith newydd hwn yn gymwys ar gyfer dibenion yr elusen
  • wedi gwneud cais am grant, y mae’n rhaid ei wario ar weithgareddau nad ydynt yn cyd-fynd â dibenion yr elusen

Mae defnyddio cronfeydd neu adnoddau’r elusen ar ddibenion eraill yn ddifrifol iawn. Mae’n bosibl y bydd rhaid i ymddiriedolwyr ad-dalu’r elusen o’u harian eu hunain.

Cadwch ddibenion eich elusen wedi’u hadolygu i sicrhau eu bod yn adlewyrchu’n gywir yr hyn y mae’r elusen yn ei wneud.

Budd y cyhoedd

Budd y cyhoedd yw’r hyn sy’n gwneud elusennau’n wahanol i sefydliadau eraill.

Mae’n ymwneud â darparu budd clir ar gyfer cynulleidfa ddigon eang wrth gyflawni dibenion eich elusen.

Mae’n rhaid i chi redeg eich elusen er budd y cyhoedd. Mae hyn yn golygu ystyried canllaw budd y cyhoedd y Comisiwn ar redeg elusen.

Mae’n esbonio sut, wrth wneud penderfyniadau fel ymddiriedolwyr, dylech:

  • fod yn glir am bwy ddylai elwa o’ch elusen a beth yw’r buddion hyn
  • sicrhau bod unrhyw fuddion preifat i unigolion neu sefydliadau’n angenrheidiol, yn achlysurol ac er budd yr elusen
  • rheoli unrhyw risg o niwed i fuddiolwyr a’r cyhoedd a allai godi o waith yr elusen

Mae’n rhaid i chi adrodd ar fudd y cyhoedd bob blwyddyn yn adroddiad blynyddol eich elusen: gweler ein canllaw ar yr hyn i’w adrodd.

Beth arall mae eich dogfen lywodraethol yn ddweud

Mae gan eich dogfen lywodraethol reolau ynghylch sut mae rheoli eich elusen. Sicrhewch eich bod yn gwybod y rhain ac yn cydymffurfio â nhw. Bydd hyn yn eich helpu i wneud penderfyniadau dilys. Mae hefyd yn helpu i osgoi anghydfod niweidiol.

Mae dogfennau llywodraethol fel arfer yn dweud:

  • sut mae’n rhaid penodi ymddiriedolwyr
  • pa mor aml mae’n rhaid i ymddiriedolwyr gwrdd
  • faint o ymddiriedolwyr sydd eu hangen i wneud penderfyniad dilys

Gall dogfen lywodraethol roi pwerau ychwanegol i chi. Er enghraifft, pwerau i fuddsoddi neu fenthyca arian. Gwiriwch os oes unrhyw amodau neu gyfyngiadau arbennig mae angen i chi eu dilyn.

Gallai hefyd ddweud os oes pethau na fedrwch eu gwneud. Er enghraifft:

  • gwneud taliadau i ymddiriedolwyr neu
  • werthu tir yr elusen

Os byddwch yn defnyddio pŵer, sicrhewch eich bod yn cydymffurfio â’ch dyletswyddau ymddiriedolwyr megis y ddyletswydd i ymddwyn er budd pennaf yr elusen.

Dylech hefyd gadw eich dogfen lywodraethol wedi’i diweddaru.

Y gyfraith

Nid oes rhaid i chi fod yn arbenigwr. Ond mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich elusen yn cydymffurfio â’r gyfraith.

I’ch helpu i wneud hyn, cymerwch gamau rhesymol i ddysgu pa gyfreithiau sy’n gymwys. Er enghraifft, wrth ddarllen canllawiau perthnasol neu wrth gael cyngor proffesiynol priodol.

Cyfraith elusennau

Mae cyfraith elusennau’n cynnwys gofynion am yr hyn y mae rhaid i chi adrodd wrth y Comisiwn

Mae canllawiau pellach hefyd ar gyfraith elusennau yn ôl pwnc ar gael ar wefan y Comisiwn.

Cyfreithiau a rheoliadau eraill

Gallai gofynion eraill fod yn gymwys ar gyfer eich elusen gan ddibynnu ar:

  • yr hyn y mae’n ei wneud - er enghraifft, os yw’n berchen ar dir, yn cyflogi staff, yn codi arian, neu’n gweithio gyda phlant
  • ei strwythur - er enghraifft, os yw’n gwmni, yn sefydliad corfforedig elusennol neu’n ymddiriedolaeth
  • lle mae’n gweithio - er enghraifft, os yw’n gweithio mewn rhannau eraill o’r DU neu’n fyd-eang

Mae elusennau hefyd yn ddarostyngedig i gyfreithiau cyffredinol megis treth, diogelu data, ac iechyd a diogelwch y mae gan ymddiriedolwyr gyfrifoldebau i’w bodloni.

Gall sefydliadau eraill roi gwybodaeth neu help.

Cyhoeddwyd ar 2 November 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 March 2022 + show all updates
  1. Introductory video added.

  2. Added translation