Canllawiau

Ymgyrchu gan elusennau yn ystod etholiadau'r Senedd ac etholiadau lleol

Deall y rheolau ar weithgarwch gwleidyddol ac ymgyrchu a sut maen nhw'n cael eu rheoleiddio.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Gall elusennau gymryd rhan mewn gweithgarwch gwleidyddol sy’n cefnogi eu pwrpas ac sydd er eu lles gorau. Fodd bynnag, rhaid i elusennau ddilyn y gyfraith wrth wneud hynny. Isod mae canllawiau allweddol i helpu i arwain elusennau yn ystod etholiadau’r Senedd ac etholiadau lleol.

Cyfraith elusennau ac etholiadau

Fel ymddiriedolwr, rydych chi’n gyfrifol am sicrhau bod eich elusen bob amser yn dilyn y rheolau ar weithgarwch gwleidyddol ac ymgyrchu.

Materion a chwestiynau allweddol i’w hystyried

Mae’r canllaw defnyddiol hwn yn amlinellu materion a chwestiynau allweddol i elusennau eu hystyried ac mae’n seiliedig ar senarios y mae elusennau wedi’u hwynebu’n gyffredin yn ystod cyfnodau etholiad blaenorol.

Canllawiau cyfryngau cymdeithasol

Gall elusennau ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gyfreithlon i ymgyrchu, ond gall fod risgiau i wneud hynny. Darllenwch ein canllawiau cyfryngau cymdeithasol am ragor o wybodaeth.

Gwybodaeth i ymgeiswyr

Darllenwch ein canllaw am wybodaeth ar sut y gall ymgeiswyr seneddol ymgysylltu ag elusennau yn ystod ymgyrch etholiadol.

Cyfraith etholiadol

Ochr yn ochr â chyfraith elusennau, gall cyfraith etholiadol fod yn berthnasol i’ch elusen.

Gwiriwch ganllawiau ymgyrchwyr di-blaid y Comisiwn Etholiadol ar gyfer etholiadau’r Senedd am fanylion llawn y rheolau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 13 Mawrth 2026

Argraffu'r dudalen hon