Canllawiau

Rheolau anghymhwyso awtomatig ar gyfer ymddiriedolwyr elusen ac uwch swyddi elusennau

Canllawiau i unigolion ynghylch y rheolau anghymhwyso awtomatig, beth i'w wneud os ydych yn anghymwys a sut i wneud cais am hawlildiad.

Y rheolau anghymhwyso awtomatig

Rheolau yw’r rhain sy’n anghymwyso rhai pobl rhag bod yn ymddiriedolwr neu’n uwch reolwr elusen. Mae bod yn anghymwys yn golygu na all rhywun gael, neu barhau, mewn swydd ymddiriedolwr elusen neu uwch reolwr - hyd yn oed dros dro, oni bai bod y Comisiwn Elusennau wedi dileu (neu ‘hawlildio’) yr anghymhwysiad.

Rydych wedi’ch anghymhwyso rhag gweithredu fel ymddiriedolwr elusen neu uwch reolwr os yw unrhyw un o’r rhesymau a ddangosir yma tabl rhesymau anghymwyso (ODT, 57.9 KB) yn gymwys i chi.

Mae’r swyddi uwch reolwr a effeithir gan anghymhwyso ar lefel prif weithredwr a phrif swyddog cyllid. Mae’r canllawiau hyn yn esbonio yn fwy manwl sut i nodi’r rolau hyn.

Mae’n bwysig eich bod yn gwirio’n ofalus a ydych yn anghymwys a chael cyngor os ydych yn ansicr o gwbl. Fel rheol mae’n drosedd i weithredu os ydych yn anghymwys. Gall collfarn arwain at ddirwy, carchar neu’r ddau. Os ydych yn gweithredu pan fyddwch yn anghymwys, mae’n bosib y bydd rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian a gawsoch gan yr elusen yn ystod y cyfnod hwnnw.

Os ydych yn anghymwys, gallwch, yn y rhan fwyaf o achosion, wneud cais i’r Comisiwn Elusennau i hawlildio eich anghymhwysiad, fel y disgrifir yn y canllawiau hyn. Gallwch wneud hyn unrhyw bryd ar ôl cael eich anghymhwyso. Os cewch un, bydd hawlildiad yn dod â’ch anghymhwysiad i ben mewn perthynas â’r elusennau a enwir yn yr hawlildiad.

Mae’r ffurflen gais hawlildiad ar gael i’w defnyddio os oes angen i chi wneud cais.

Pan na fydd anghymhwyso awtomatig yn gymwys

Bydd y rheolau yn gymwys i swyddi ymddiriedolwr ac uwch reolwr yn unig ym mhob elusen (cofrestredig neu beidio) a leolir yng Nghymru a Lloegr a phwy sy’n gallu eu rhedeg (ymddiriedolwyr a rhai uwch reolwyr). Nid ydynt yn gymwys i elusennau sydd wedi cofrestru yn yr Alban, Gogledd Iwerddon neu wledydd eraill.

Nid ydych wedi’ch anghymhwyso os yw’ch collfarn wedi darfod. Gallwch ddefnyddio canllawiau Unlock i benderfynu pryd y bydd eich collfarn wedi’i darfod, ac nid yw’n eich anghymwyso mwyach.

Gallwch hefyd edrych ar wefan Nacro neu adran cyflogaeth GOV.UK i gael gwybodaeth am yr hyn sy’n cael ei ystyried yn gollfarn sydd wedi darfod a phryd y bydd collfarnau wedi darfod.

Nid yw’r rheolau anghymhwyso awtomatig yn anghymhwyso pobl rhag cymryd rhan mewn elusennau.

Ceir ffyrdd eraill y gall unigolyn anghymwys gymryd rhan mewn elusennau, megis trwy wirfoddoli, swyddi ymgynghorol neu gyflogaeth briodol mewn swyddi nad ydynt yn cael eu hystyried yn rolau uwch reolwr.

Rheolau anghymhwyso eraill

Ceir rheolau eraill a allai atal rhywun rhag bod yn ymddiriedolwr elusen neu ddal rhai swyddi yn yr elusen:

Nid yw’r Comisiwn Elusennau yn gosod neu’n gorfodi’r rheolau ynghylch cymhwyster gwirio’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Swyddi elusen cyfyngedig y mae anghymhwyso yn berthnasol iddynt

Mae’r rheol sy’n gymwys i ymddiriedolwyr a rhai rolau uwch reolwr o fewn elusennau wedi’u cyfyngu i unigolion nad ydynt wedi’u hanghymhwyso.

Ymddiriedolwyr

Mae ymddiriedolwr naill ai’n:

  • ymddiriedolwr elusen - rhywun sy’n gyfrifol am lywodraethu elusen a chyfeirio sut y caiff ei rheoli a’i rhedeg. Gall dogfen lywodraethol elusen eu galw nhw’n ymddiriedolwyr, y bwrdd, y pwyllgor rheoli, llywodraethwyr, cyfarwyddwyr, neu enw arall. Mae Deddf Elusennau 2011 yn diffinio ymddiriedolwyr elusen fel y bobl sydd â’r brif reolaeth dros yr elusen, waeth beth y cânt eu galw yn nogfen lywodraethol yr elusen.
  • ymddiriedolwr ar gyfer elusen - unigolyn neu sefydliad sy’n dal eiddo ar gyfer elusen megis ymddiriedolwr daliannol neu ymddiriedolwr gwarchod
  • swyddog cwmni (neu gorff corfforaethol arall) pan fydd yn gweithredu fel ymddiriedolwr elusen (ymddiriedolwr corfforaethol). Mae “swyddog” yn cynnwys unrhyw unigolyn sydd â rheolaeth gyffredinol dros weinyddu’r corff, sef cyfarwyddwyr y gorfforaeth fel arfer.

Swyddi uwch reolwr perthnasol

Y swyddi uwch reolwr perthnasol yw swyddi Prif Weithredwr (neu’r cyfwerth) a’r Prif Swyddog Cyllid (neu’r cyfwerth).

Mae’n bwysig deall sut y mae’r rheolau yn diffinio’r swyddi uwch reolwr a effeithir oherwydd y swyddogaeth, ac nid teitl y swydd, sy’n bwysig. Gallwch ddefnyddio’r canllawiau hyn i’ch helpu i ddeall a yw swydd sydd gennych yn yr elusen, neu yr hoffech wneud cais amdani, yn bodloni’r diffiniad o swydd uwch reolwr.

Beth y mae’n rhaid i chi wneud os ydych wedi’ch anghymhwyso a’r camau efallai y bydd angen i chi eu cymryd.

Os ydych yn anghymwys ni allwch weithredu mewn swydd ymddiriedolwr neu uwch reolwr perthnasol yn yr elusen, oni bai a hyd nes bod yr anghymhwysiad yn cael ei hawlildio gan y Comisiwn Elusennau.

Os nad oes hawlildiad gennych ac rydych yn gweithredu pan fyddwch wedi’ch anghymhwyso, ac mae’r Comisiwn yn cael gwybod am hynny:

  • byddwn yn eich cynghori bod rhaid i chi roi’r gorau i weithredu yn eich swydd ar unwaith
  • rydym yn debygol o ddwyn y mater at sylw ymddiriedolwyr unrhyw elusennau lle mae gennych swydd berthnasol
  • gallwn orchymyn eich bod yn ad-dalu unrhyw dreuliau, buddion, tâl cydnabyddiaeth neu werth y buddion mewn nwyddau a gawsoch gan yr elusen yn ystod y cyfnod hwn pan oeddech yn gweithredu tra roeddech yn anghymwys
  • byddwn yn ystyried a ddylai’r mater gael ei gyfeirio at yr heddlu neu beidio

Y camau y bydd angen i chi eu cymryd o bosib os ydych wedi’ch anghymhwyso

Swyddi uwch reolwyr

Os ydych yn anghymwys, neu’n dod yn anghymwys pan fyddwch mewn swydd uwch reolwr perthnasol mewn elusen, rhaid i chi roi’r gorau i’r swydd honno, oni bai a hyd nes bod y Comisiwn yn hawlildio eich anghymhwysiad.

Efallai y bydd rhaid i chi a’r elusen geisio cyngor cyfreithiol ynghylch sut y bydd hyn yn effeithio ar eich cyflogaeth a’ch hawliau eraill.

Swyddi ymddiriedolwyr

Os ydych yn anghymwys, neu os ydych yn dod yn anghymwys fel ymddiriedolwr, rhaid i chi roi’r gorau i weithredu mewn unrhyw swyddi ymddiriedolwr, oni bai a hyd nes bod y Comisiwn yn hawlildio eich cais. Dylech hefyd ymddiswyddo’n ffurfiol o’ch swydd fel ymddiriedolwr er mwyn bod yn glir nad ydych yn rhan o’r corff ymddiriedolwyr mwyach.

Os ydych yn anghymwys, neu’n dod yn anghymwys, nid ydych wedi’ch atal rhag cymryd rhan gydag elusennau. Ceir ffyrdd eraill y gall rhywun anghymwys gymryd rhan gydag elusennau, trwy gyflogaeth neu wirfoddoli.

Swyddi uwch reolwr a effeithir gan y rheolau - trosolwg

Mae anghymhwyso yn gymwys swyddi Prif Weithredwr (neu’r cyfwerth) a’r Prif Swyddog Cyllid (neu’r cyfwerth).

Mae’n bwysig deall sut y mae’r rheolau yn diffinio’r swyddi uwch reolwr a effeithir oherwydd swyddogaeth (ac nid teitl) y swydd sy’n bwysig.

Gallwch ddefnyddio’r cwestiynau mwy manwl hyn i’ch helpu i wneud y gwiriad hwn.

Gwiriad cyflym - beth yw swydd uwch reolwr

Swyddi Prif Weithredwr (neu’r cyfwerth)

Mae swydd Prif Weithredwr (neu’r cyfwerth)

  • yn golygu bod yn bennaf gyfrifol am reoli’r elusen o ddydd i ddydd
  • yn atebol i’r ymddiriedolwyr elusen yn unig

Os nad oes Prif Swyddog Cyllid ar wahân (neu’r cyfwerth) sy’n gyfrifol am weithrediad ariannol yr elusen, yr unig swyddi uwch reolwr cyfyngedig yw’r swydd Prif Weithredwr (neu’r cyfwerth).

Swyddi Prif Swyddog Cyllid (neu’r cyfwerth)

Mae swydd Prif Swyddog Cyllid (neu’r cyfwerth) yn gyfyngedig:

  • os yw’n atebol i’r prif weithredwr neu’r ymddiriedolwyr yn unig
  • os yw’n gyfrifol am reoli cyllid yr elusen yn gyffredinol

Ceir ffactorau allweddol wrth benderfynu a yw’r swydd yn gyfyngedig neu beidio.

Nid yw ffactorau eraill, megis teitl y swydd, maint yr elusen, nifer y staff neu wirfoddolwyr, bod ag awdurdod cyllidebol, bod ag awdurdod ar gyfer trin, trafod neu gyfrifyddu arian yr elusen yn berthnasol oni bai bod y swydd yn cynnwys bod yn gyfrifol am reolaeth gyffredinol cyllid yr elusen.

Os yw swydd yn gyfyngedig ni all gael ei dal gan rywun anghymwys oni bai bod hawlildiad ganddo neu ganddi. Mae hyn yn gymwys os yw’r rôl yn barhaol, dros dro, rhan-amser neu interim.

Fel arfer swyddi am dâl fydd yn gyfyngedig, ond mae hefyd yn bosib i swyddi gwirfoddolwyr fod yn gyfyngedig. Mae’r enghreifftiau yn y canllaw hwn yn esbonio’r pwyntiau hyn.

Gwiriad manwl - beth yw swydd uwch reolwr

Cwestiynau i’w gofyn er mwyn nodi swyddi cyfyngedig

Er mwyn gweithio allan pa swyddi, os o gwbl, sy’n gyfyngedig, mae’n rhaid i chi ofyn a oes unrhyw reolaeth dros swyddi’r elusen.

Os nad oes unrhyw reolaeth dros swyddi’r elusen, nid oes unrhyw swyddi cyfyngedig gan yr elusen. Os oes rheolaeth dros swyddi’r elusen, mae’n rhaid i chi ystyried y canlynol:

  • os oes mwy nag un rheolaeth dros swydd yr elusen, rhaid i chi nodi pa swydd, sy’n adrodd i’r ymddiriedolwyr, sy’n gyfyngedig. Hon fydd y swydd uwch reoli uchaf yn yr elusen
  • a oes swydd ar wahân hefyd sy’n cynnwys rheolaeth dros arian sy’n gyfyngedig

Gallwch ddefnyddio’r graffeg gweledol swydd uwch reolwr i’ch helpu gyda hyn, a’r enghreifftiau isod i nodi swyddi cyfyngedig.

ddelwedd swydd uwch reolwr

Lawrlwytho’r ddelwedd swydd uwch reolwr (PNG, 70.6 KB)

Disgrifiad o’r ddelwedd: ydy fy swydd yn cyfrif fel swydd uwch reolwr?

Cyfrifoldeb am reoli’r elusen gyfan

Os oes gan eich swydd gyfrifoldeb am reoli’r elusen gyfan ac rydych yn uniongyrchol atebol i ymddiriedolwyr, rydych chi’n uwch reolwr.

Os oes gan eich swydd gyfrifoldeb am reoli’r elusen gyfan ond nid ydych yn uniongyrchol atebol i ymddiriedolwyr, nid ydych yn uwch reolwr heblaw eich bod yn gyfrifol am reoli cyllid yr elusen.

Cyfrifoldeb am reolaeth gyffredinol a rheoli cyllid yr elusen

Os oes gan eich swydd gyfrifoldeb am reolaeth gyffredinol a rheoli cyllid yr elusen ac rydych yn atebol i uwch reolwr neu ymddiriedolwyr, rydych chi’n uwch reolwr.

Os oes gan eich swydd gyfrifoldeb am reolaeth gyffredinol a rheoli cyllid yr elusen ond nid ydych yn atebol i uwch reolwr neu ymddiriedolwyr, nid ydych yn uwch reolwr.

Rheoli swyddi elusen

Mae rheoli swyddi elusen yn cynnwys awdurdod a chyfrifoldeb ar gyfer rheolaeth a gweithrediad yr elusen o ddydd i ddydd, neu ran arwyddocaol ohoni. Fel rheol mae gan bobl sy’n dal swyddi o’r fath yr awdurdod i wneud penderfyniadau ar faterion strategol, ariannol neu weithredol allweddol.

Mewn rhai elusennau bydd sawl swydd, o dan yr ymddiriedolwyr, sy’n ymwneud â rheoli’r elusen, ac mewn eraill efallai na fydd unrhyw swyddi.

Os oes nifer o swyddi sy’n ymwneud â rheoli’r elusen, bydd meddwl am strwythur yr elusen fel yr amlinellir isod yn eich helpu i benderfynu pa rai o’r swyddi hyn sy’n gyfyngedig.

Strwythur yr elusen ar gyfer rheoli swyddi elusen

Os yw’r disgrifiad o reolaeth yr elusen yn gymwys i’r swydd, mae’n rhaid i chi benderfynu ai’r swydd hon yw’r:

  • swydd rheolwr uchaf o dan yr ymddiriedolwyr neu
  • a yw’n adrodd i swydd arall, er ei bod yn bodloni’r disgrifiad, ar lefel staff neu o dan yr ymddiriedolwyr

Nid yw’r swydd wedi’i chyfyngu os yw’n cynnwys:

  • rheoli’r elusen ond
  • yn adrodd i rywun arall, o dan yr ymddiriedolwyr, sydd â chyfrifoldeb dros reolaeth yr elusen

Mae’n dilyn ar gyfer pob elusen sydd â rheolaeth dros swyddi elusen, hyd yn oed yr un mwyaf, ei bod yn debygol y bydd un swydd reoli berthnasol yn unig sy’n gyfyngedig.

Yn bennaf y swydd hon fydd y Prif Weithredwr, Prif Swyddog Gweithredu neu’r Rheolwr Elusen uchaf, neu’r rhai sydd â swyddogaethau cyfwerth ond teitlau gwahanol.

Dim rheolaeth uchaf sengl dros swyddi elusen

Mewn rhai strwythurau elusen llai cyffredin, ni cheir swydd reoli uchaf sengl o dan yr ymddiriedolwyr.

Yn lle cael swydd Prif Weithredwr (neu’r cyfwerth), mae’r cyfrifoldeb dros reoli’r elusen, o dan yr ymddiriedolwyr, yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng nifer o swyddi.

Yn y math hwn o strwythur elusen, mae pob un o’r swyddi cyfartal hyn yn gyfyngedig.

Rheolaeth dros swyddi arian

Dyma’r swyddi o dan yr ymddiriedolwyr, sy’n atebol i’r prif weithredwr neu’r ymddiriedolwyr ar gyfer rheolaeth gyffredinol o gyllid yr elusen.

Mae cyfrifoldebau’r swydd hon yn debygol o gynnwys cyfrifoldeb cyffredinol dros:

  • perfformiad a strategaeth ariannol yr elusen
  • polisïau ariannol yr elusen
  • rheolaethau ariannol yr elusen
  • cydymffurfiaeth â gofynion cyfrifyddu ac adrodd

Ni fydd y rhan fwyaf o swyddi mewn elusen sydd ag elfen ariannol wedi’u cyfyngu oherwydd nid oes ganddynt y lefel hon o reolaeth dros arian.

Mae enghreifftiau’n cynnwys swyddi a all fod ag awdurdod cyllidebol, neu awdurdod ar gyfer trin, trafod, cofnodi ac adrodd ar arian elusen. Er bod swyddi sy’n cynnwys y tasgau a’r swyddogaethau hyn yn cynnwys cyfrifoldeb ac yn gofyn am sgiliau, maent wedi’u cyfyngu dim ond os oes awdurdod ganddynt ar gyfer rheolaeth gyffredinol o gyllid yr elusen.

Strwythur yr elusen ar gyfer rheolaeth dros swyddi arian

At ddibenion y rheolau, mae rheolaeth gan elusen dros swydd arian dim ond os yw’r ymddiriedolwyr, yn ychwanegol at swydd reoli uchaf yr elusen, wedi gwneud swydd arall yn gyfrifol am reolaeth gyffredinol cyllid yr elusen.

Fel rheol swyddi Cyfarwyddwr Cyllid, Pennaeth Cyllid neu’r Prif Swyddog Cyllid fydd y rhain, neu’r rhai sydd â swyddogaethau cyfwerth ond teitlau gwahanol.

Mae’n dilyn ar gyfer pob elusen sydd â swyddi cyfyngedig, hyd yn oed y rhai mwyaf, ei bod yn debygol y bydd un swydd rheoli arian yn unig sy’n gyfyngedig.

Os nad oes swydd rheoli arian o’r fath yn yr elusen, yna mae’n rhaid iddi ystyried a oes rheolaeth gyfyngedig ganddi dros swydd elusen yn unig.

Enghreifftiau o swyddi cyfyngedig ac anghyfyngedig

Dim swyddi cyfyngedig

Nid oes unrhyw staff cyflogedig gan elusen fach sy’n delio ag iechyd menywod. Mae gan yr elusen wirfoddolwyr, yn ychwanegol i’w hymddiriedolwyr, sy’n helpu gyda’r gwaith codi arian. Mae eu gwaith yn cynnwys ychydig bach o drin arian. Nid oes unrhyw swyddi cyfyngedig gan yr elusen.

Nid y ffaith bod ei gweithwyr yn wirfoddolwyr di-dâl sydd i gyfrif am hyn. Y rheswm am hyn yw oherwydd nid yw unrhyw dasgau neu swyddogaethau’r gwirfoddolwyr yn cynnwys rheoli’r elusen. Nid oes awdurdod ganddynt dros reolaeth a gweithrediad yr elusen o ddydd i ddydd neu ran arwyddocaol ohono.

Yr ymddiriedolwyr sy’n rheoli’r elusen.

Dim swyddi cyfyngedig, hyd yn oed os oes rhai gweithwyr

Mae elusen fach sy’n delio ag iechyd menywod wedi cyflogi gweithiwr cyflogedig dros dro i ddatblygu cronfa ddata cefnogwyr a chylchlythyr elusen. Nid oes unrhyw staff cyflogedig eraill.

Nid yw’r swydd dros dro wedi’i chyfyngu er ei bod yn atebol i’r ymddiriedolwr ac nid oes unrhyw staff eraill. Mae hyn oherwydd bod y gweithiwr yn cyflawni cylch gorchwyl arbennig ac nid yw’r math o awdurdod sydd gan ei swydd yn cael ei ystyried yn awdurdod ar gyfer rheolaeth a gweithrediad yr elusen o ddydd i ddydd neu ran arwyddocaol ohono,

Yr ymddiriedolwyr sy’n rheoli’r elusen.

Rheolaeth gyfyngiad o swydd elusen (Prif Weithredwr cyfatebol), ond dim rheolaeth gyfyngedig dros swydd arian

Mae swydd rheolwr y ganolfan cyflogedig rhan-amser gan elusen canolfan gymunedol. Mae nifer fach o staff cyflogedig gan y ganolfan - weithiwr gweinyddol a gofalwr. Mae rhai gwirfoddolwyr ganddi hefyd sy’n helpu gyda’r gwaith codi arian.

Mae rheolwr y ganolfan yn atebol i’r ymddiriedolwr am redeg yr elusen o ddydd i ddydd, gan gynnwys rheoli’r holl staff a’r gwirfoddolwyr. Mae’r swydd hefyd yn cynnwys bod yn gyfrifol am weithio gyda’r ymddiriedolwyr i gynllunio a datblygu’r elusen a chynnal gweithrediadau ariannol.

Mae’r swydd rheolwr y ganolfan yn gyfyngedig oherwydd:

  • mae tasgau a swyddogaethau’r swydd yn cynnwys rheoli’r elusen. Mae awdurdod a chyfrifoldeb gan y gweithiwr dros reolaeth a gweithrediad yr elusen o ddydd i ddydd neu ran arwyddocaol ohono; a’r
  • swydd yw’r swydd reoli uchaf o dan yr ymddiriedolwyr

Oherwydd bod rheolaeth gyfyngedig o swydd elusen, rhaid ystyried a oes swydd ar wahân hefyd yn yr elusen sydd â rheolaeth dros arian.

Yn yr enghraifft hon nid oes swydd o’r fath, felly swydd rheolwr y ganolfan yw’r unig un sy’n bodloni’r diffiniad hwn.

Nid yw teitl y swydd yn berthnasol wrth ystyried a yw’n gyfyngedig

Yn yr enghraifft uchod, nid yw’r swydd yn cael ei galw rheolwr y ganolfan. Teitl y swydd yw swyddog datblygu. Ym mhob agwedd arall yr un yw’r swydd.

Mae’r swydd swyddog datblygu yn gyfyngedig am yr un rhesymau a nodir uchod, er nad yw’r teitl yn awgrymu ei bod yn swydd reoli.

Swyddi ariannol sy’n gyfyngedig dim ond os ydynt yn atebol am reolaeth gyffredinol dros gyllid yr elusen

Yn yr enghraifft uchod, yn ogystal â rheolwr y ganolfan a staff eraill, ceir swydd gweinyddwr cyllid cyflogedig rhan-amser hefyd. Mae’r swydd yn cynnwys trafod arian, cofnodi a chysoni trafodion, bancio grantiau a rhoddion, darparu adroddiadau a gwybodaeth i’r ymddiriedolwyr a chyfrifydd yr elusen, ac anfonebu a phrosesu gwariant yn unol â chyllideb gytunedig.

Er bod y swydd yn cynnwys cyfrifoldeb ac yn gofyn am sgiliau, ac mae’n cynnwys nifer o swyddogaethau cyllid pwysig, nid yw’n swydd rheolaeth dros arian oherwydd nid oes cyfrifoldeb ar gyfer rheolaeth gyffredinol dros gyllid yr elusen.

Yr ymddiriedolwyr sy’n gwneud hyn, gan gydweithio â Rheolwr y Ganolfan.

Ni all swyddi cyfyngedig gael eu dal gan unigolyn anghymwys ar sail dros dro neu interim, oni bai bod hawlildiad gan yr unigolyn anghymwys

Yn yr enghraifft uchod, mae rheolwr y ganolfan sydd yn y swydd yn sâl ac ni fydd yn dychwelyd i’r gwaith yn yr elusen am ychydig fisoedd. Hoffai’r ymddiriedolwyr drefnu i aelod arall o staff yr elusen ymgymryd â’r swydd dros dro.

Mae’r unigolyn a gynigir i ymgymryd â’r swydd dros dro yn anghymwys. Ni all y trefniadau dros dro ddigwydd heb hawlildiad.

Os yw’r ymddiriedolwyr yn penderfynu cefnogi cais am hawlildiad, dylent roi gwybod i’r Comisiwn Elusennau yr hoffent gael penderfyniad cyflym.

Caiff unrhyw gais am hawlildiad ei benderfynu trwy ddefnyddio’r un profion a ffactorau sy’n gymwys i bob cais am hawlildiad.

Os oes nifer o swyddi “rheoli’r elusen” yn yr elusen, dim ond y swydd reoli uchaf o dan yr ymddiriedolwyr sy’n gyfyngedig. Os oes rheolaeth ar wahân hefyd dros swydd arian, sy’n atebol am reolaeth gyffredinol o gyllid yr elusen, bydd hon yn gyfyngedig hefyd.

Mae elusen plant ryngwladol yn cyflogi dros 8,000 o staff ac mae ganddi 1,500 o wirfoddolwyr. Mae sawl swydd yn yr elusen sy’n cynnwys rheoli’r elusen.

Mae’r tîm rheoli uchaf yn yr elusen yn adrodd i’r Prif Weithredwr. Mae’r tîm uwch reoli yn cynnwys swyddi cyfarwyddwr ar gyfer Gwasanaethau, Strategaeth, Codi Arian a Chyllid.

Er bod nifer o swyddi yn yr elusen sy’n cynnwys rheoli’r elusen, nid yw hyn yn golygu bod nifer o swyddi cyfyngedig. Y swyddi sy’n atebol i’r ymddiriedolwyr yw’r rhai y mae angen eu hystyried.

Mae’r swydd Prif Weithredwr yn gyfyngedig oherwydd:

  • mae tasgau a swyddogaethau’r swydd yn cynnwys rheoli’r elusen. Mae awdurdod a chyfrifoldeb gan y gweithiwr dros reolaeth a gweithrediad yr elusen o ddydd i ddydd neu ran arwyddocaol ohono; a’r
  • swydd yw’r swydd reoli uchaf o dan yr ymddiriedolwyr

Oherwydd bod rheolaeth gyfyngedig o swydd elusen sy’n bodloni’r diffiniad, rhaid ystyried a oes swydd ar wahân hefyd yn yr elusen sydd â rheolaeth dros arian.

Yn yr enghraifft hon, mae’r swydd Cyfarwyddwr Cyllid yn gyfyngedig oherwydd:

  • mae tasgau a swyddogaethau’r swydd yn cynnwys rheolaeth dros arian. Mae tasgau a swyddogaethau’r swydd yn cynnwys cyfrifoldeb ar gyfer rheolaeth gyffredinol dros gyllid yr elusen
  • yr unig swyddi arall y mae’r swydd Cyfarwyddwr Cyllid yn adrodd iddi, o dan yr ymddiriedolwyr, yw’r swydd Prif Weithredwr sef y swydd reoli uchaf

Dim rheolaeth uchaf sengl dros y swydd elusen

Nid oes unrhyw swydd rheolwr uchaf sengl gan elusen feddygol. Yn lle cael swydd Prif Weithredwr (neu’r cyfwerth), mae gan dri chyfarwyddwr rhanbarthol cyflogedig dag atebolrwydd cyfartal i’r ymddiriedolwyr am redeg yr elusen o ddydd i ddydd, gan gynnwys rheoli staff a gwirfoddolwyr eraill.

Mae’r swydd hefyd yn cynnwys cyfrifoldeb cyfartal dros weithio gyda’r ymddiriedolwyr i gynllunio a datblygu’r elusen. Mae pob un o’r swyddi cyfarwyddwr rhanbarthol yn gyfyngedig oherwydd:

  • mae tasgau a swyddogaethau’r swyddi yn cynnwys rheoli’r elusen. Mae awdurdod a chyfrifoldeb cyfartal gan y gweithwyr a chyfrifoldeb dros reolaeth a gweithrediad yr elusen o ddydd i ddydd neu ran arwyddocaol ohoni; a
  • eu swydd nhw yw’r swydd rheolwr uchaf o dan yr ymddiriedolwyr

Oherwydd bod rheolaeth gyfyngedig dros swydd elusen, rhaid ystyried a oes swydd ar wahân hefyd yn yr elusen sydd â rheolaeth dros arian.

Beth yw hawlildiad a phwy all wneud cais amdano

Mae hawlildiad yn dod ag anghymhwysiad unigolyn i ben, naill ai ar gyfer:

  • elusen a enwir neu elusennau a enwir
  • dosbarth o elusennau - sef grŵp o elusennau sy’n rhannu nodwedd. Er enghraifft, gall dosbarth o elusennau fod yn elusennau sydd â’r un diben elusennol, neu’n elusennau sy’n gweithredu yn yr un ardal
  • bob elusen

Os ydych yn anghymwys gallwch wneud cais i’r Comisiwn Elusennau am fwy nag un o’r mathau hyn o hawlildiad yr un pryd.

Mae’r Comisiwn Elusennau yn gwneud penderfyniad ffurfiol ynghylch pob cais am hawlildiad, gan ystyried pob cais ar ei deilyngdod ei hun. Rydym yn gwneud ein penderfyniad ar sail yr hyn sydd er lles gorau’r elusen neu’r elusennau a gwmpasir gan y cais am hawlildiad.

Byddwn hefyd yn gwirio nad yw’r hawlildiad yn debygol o niweidio ffydd a hyder cyhoeddus mewn elusen neu elusennau

Gellir apelio yn erbyn penderfyniad hawlildiad

Os ydych yn gwneud cais am hawlildiad dylech ddarllen y canllaw hwn i wybod sut rydym yn gwneud penderfyniadau ar achosion hawlildiad a beth y gallwch ei wneud os ydych yn anghytuno â’n penderfyniad.

Dylech hefyd ddarllen ein hysbysiad preifatrwydd ar gyfer hawlildiadau sy’n esbonio sut rydym yn prosesu eich gwybodaeth.

Os oes gennych chi hawlildiad eisoes, bydd ei delerau yn parhau i fod yn gymwys. Cewch eich anghymhwyso eto dim ond os yw rheswm anghymhwyso arall yn gymwys i chi.

Pwy all wneud cais am hawlildiad

Gall y rhan fwyaf o bobl sy’n anghymwys wneud cais am hawlildiad. Ond, ceir amgylchiadau cyfyngedig hefyd lle:

  • na all y Comisiwn Elusennau ystyried cais am hawlildiad gennych chi; neu
  • mae’n ofynnol i chi roi hawlildiad oni bai bod rhesymau arbennig dros beidio â gwneud hynny

Os ydych yn anghymwys, neu os ydych yn dod yn anghymwys, ac nid yw’r un o’r amgylchiadau isod yn gymwys, gallwch wneud cais am hawlildiad.

Yr amgylchiadau pan na allwch gael hawlildiad

Ni all y Comisiwn Elusennau roi hawlildiad i chi os yw rheolau’r elusen rydych am weithio iddi yn eich anghymhwyso rhag bod yn ymddiriedolwr neu rhag dal swydd uwch reolwr. Er enghraifft, os yw rheolau’r elusen yn dweud na all unigolyn sy’n fethdalwr heb ei ryddhau fod yn ymddiriedolwr, ni all hawlildiad fod yn drech na hyn.

Os ydych yn gwneud cais am hawlildiad, mae’n rhaid i chi wirio nad yw rheolau’r elusen (yn ei dogfen lywodraethol) yn atal unigolyn sydd â’ch rheswm anghymhwyso chi rhag gweithredu yn y swydd yr hoffech ei gwneud.

Bydd y rhesymau canlynol hefyd yn eich atal rhag cael hawlildiad:

  • rydych yn anghymwys, neu byddwch yn dod yn anghymwys, nid oherwydd rheolau anghymhwyso awtomatig ond oherwydd rheolau cyfreithiol eraill
  • mae’r elusen yn gwmni neu’n Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE), a naill ai rydych wedi’ch anghymhwyso fel cyfarwyddwr cwmni, yn fethdalwr heb ei ryddhau o dan Ddeddf Ansolfedd 1986, neu rydych heb dalu gorchymyn gweinyddu llys sirol ac ni chawsoch ganiatâd i weithredu fel cyfarwyddwr, neu ymddiriedolwr SCE, gan y llys

Mae SCE yn fath o elusen gorfforedig.

Yr amgylchiadau pan mae’n rhaid i ni roi hawlildiad i chi

Rhaid i’r Comisiwn Elusennau roi hawlildiad i chi (os ydych wedi gwneud cais amdano) os ydych, neu os byddwch yn dod yn anghymhwyso oherwydd:

  • rydych wedi cael eich diswyddo gan y Comisiwn Elusennau o’ch swydd fel ymddiriedolwr, swyddog, asiant neu weithiwr yr elusen ac
  • mae 5 mlynedd neu ragor wedi mynd heibio ers i chi gael eich symud o’ch swydd, ac nid yw un o’r eithriadau canlynol yn gymwys:

Mae’r cais am hawlildiad yn ymwneud â chwmni elusennol neu Sefydliad Corfforedig Elusennol a naill ai:

  • rydych wedi’ch anghymhwyso fel cyfarwyddwr cwmni neu ymddiriedolwr SCE
  • rydych yn fethdalwr heb ei ryddhau
  • rydych heb dalu gorchymyn gweinyddu llys sirol ac
  • rydych heb gael caniatâd i weithredu fel cyfarwyddwr cwmni arall neu ymddiriedolwr SCE arall

Mae’r Comisiwn Elusennau yn derbyn bod amgylchiadau arbennig sy’n golygu y dylid gwrthod yr hawlildiad, megis:

  • lle ceir tystiolaeth i awgrymu bod risg go iawn y byddwch yn ailadrodd yr ymddygiad a arweiniodd at yr anghymhwyisad gwreiddiol
  • lle ceir tystiolaeth eich bod yn anaddas i weithredu fel ymddiriedolwr neu ddal swydd uwch reolwr yn yr elusen
  • nid yw ymddiriedolwyr yr elusen neu’r elusennau lle rydych am weithio mewn swydd ymddiriedolwr neu uwch reolwr yn cefnogi eich cais am hawlildiad

Y mathau o hawlildiad

Gallwch wneud cais am hawlildiad sy’n caniatáu i chi:

  • fod yn ymddiriedolwr, neu ddal swydd uwch reolwr mewn elusen neu elusennau a enwir
  • bod yn ymddiriedolwr, neu ddal swydd uwch reolwr mewn unrhyw elusen (hawlildiad cyffredinol)
  • bod yn ymddiriedolwr, neu ddal swydd uwch reolwr mewn dosbarth o elusennau
  • dal swydd uwch reolwr dim ond mewn elusen neu elusennau a enwir. Os yw’r math hwn o hawlildiad yn cael ei roi, mae eich anghymhwysiad rhag gweithredu fel ymddiriedolwr a enwir yn parhau
  • dal swyddi uwch reolwr dim ond mewn dosbarth o elusennau. Os yw’r math hwn o hawlildiad yn cael ei roi, mae eich anghymhwysiad rhag gweithredu fel ymddiriedolwr yn parhau
  • dal swyddi uwch reolwr dim ond mewn unrhyw elusen. Mae hwn yn hawlildiad cyffredinol. Os yw’r math hwn o hawlildiad yn cael ei roi, mae eich anghymhwysiad rhag gweithredu fel ymddiriedolwr yn parhau

Hawlildiadau cyffredinol a dosbarth

Mae’n debygol o fod yn anoddach i chi ddarbwyllo’r Comisiwn Elusennau i roi hawlildiad cyffredinol i chi neu hawlildiad ar gyfer dosbarth o elusennau. Y rheswm am hyn yw oherwydd y bydd rhaid i chi fod yn hyderus bod budd i’r sector elusennol yn gyffredinol yn drech na’r risg o roi’r hawlildiad.

Mae hyn yn wahanol i benderfyniad ynghylch hawlildiad ar gyfer elusen neu elusennau a enwir, lle na all y Comisiwn Elusennau wneud penderfyniad am risg i’r elusennau arbennig hynny, wedi’i lywio gan farn eu hymddiriedolwyr.

Nid yw hyn yn golygu na fyddwn byth yn rhoi hawlildiad cyffredinol, ond rhaid i’r dystiolaeth nad yw’r unigolyn anghymwys yn berygl mwyach i grŵp o elusennau neu’r sector cyfan fod yn ddarbwyllol.

Sut i wneud cais am hawlildiad

Gallwch wneud cais ar-lein trwy ddefnyddio ffurflen gwe hawlildiad.

Rydym wedi cynhyrchu rhestr wirio ar gyfer unigolion (PDF, 236 KB, 3 pages) yn esbonio beth sydd angen ei gynnwys fel rhan o’ch cais am hawlildiad.

Dylech:

  • ddarllen cwestiynau’r ffurflen gais a’u hateb yn llawn
  • anfon y dogfennau ategol y gofynnir amdanynt yn y ffurflen gais

Bydd y Comisiwn Elusennau yn gwrthod eich cais am hawlildiad:

  • os nad yw’n glir neu’n anghyflawn
  • os nad ydych wedi’i llofnodi
  • os nad yw gennych chi, neu gynghorydd ar eich rhan

Ni allwn dderbyn ceisiadau gan elusennau ar eich rhan.

Mae’r ffurflen gais am hawlildiad yn gofyn am wybodaeth fanwl yn y categorïau canlynol:

  • gwybodaeth i’n helpu i benderfynu a allwn ystyried cais am hawlildiad gennych chi
  • y rheswm dros eich anghymwyso, pryd ddigwyddodd hyn, yr amgylchiadau a’ch ymddygiad ers iddo ddigwydd
  • unrhyw elusen neu elusennau arbennig lle rydych am ddal swydd ymddiriedolwr neu uwch reolwr, a’r math o swydd a fyddai gennych
  • barn yr ymddiriedolwyr am eich cais
  • y math o hawlildiad rydych yn gwneud cais amdano

Mae’r ffurflen gais yn cynnwys lle i chi roi unrhyw wybodaeth arall y teimlwch sy’n berthnasol i’ch cais. Byddwn yn ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwch yn ofalus.

Os na allwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein, gallwch wneud cais trwy’r e-bost. Bydd rhaid i chi gynnwys yr holl wybodaeth a nodir yn y rhestr wirio a’i hanfon at CCWaivers@charitycommission.gov.uk

Mewn rhai achosion, pan dderbyniwn eich cais, efallai y bydd y Comisiwn Elusennau yn cysylltu ag ymddiriedolwyr elusen rydych wedi’i henwi i ofyn am ragor o wybodaeth am y manylion y maent wedi’u rhoi. Byddwn hefyd yn dilysu’r wybodaeth a roesoch yn erbyn ein cofnodion ni ac yn gwneud gwiriadau ffynhonnell.

Parchwn gyfrinachedd cyn belled ag y gallwn, gan roi ystyriaeth briodol i’ch hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data, rhyddid gwybodaeth a hawliau dynol.

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn esbonio sut y byddwn yn delio â’r data personol y gallwn eu casglu neu eu derbyn amdanoch.

Gallwch ddarllen mwy ynghylch sut y bydd y Comisiwn Elusennau yn asesu ceisiadau hawlildiad, a beth i’w wneud os ydych yn anghytuno â’n penderfyniad.

Crynodeb o’r rhesymau anghymhwyso cyfreithiol

Rhesymau anghymhwyso sy’n ymwneud â chollfarnau sydd heb ddarfod

Rydych yn anghymwys os oes collfarn sydd heb ddarfod gennych ar gyfer:

  • trosedd anonestrwydd neu dwyll sy’n anghymwyso rhywun rhag bod yn ymddiriedolwr. Ceir rhagor o wybodaeth am yr hyn a olygir wrth hyn yn Atodiad A
  • troseddau arbennig cysylltiedig â therfysgaeth
  • troseddau gwyngalchu arian arbennig
  • troseddau llwgrwobrwyo arbennig
  • troseddau ar gyfer camymddygiad mewn swydd gyhoeddus, anudoniaeth a rhwystro cyfiawnder
  • ceisio, helpu neu annog troseddau hynny

Nid ydych wedi’ch anghymhwyso os yw’ch collfarn wedi darfod. Gallwch ddefnyddio’r canllawiau hyn gan yr elusen Unlock i weithio allan pryd y bydd eich collfarn wedi darfod, ac nid yw’n eich anghymhwyso mwyach rhag bod yn ymddiriedolwr elusen a rhag dal rhai swyddi uwch reolwr mewn elusen.

Gallwch hefyd edrych ar wefan Nacro neu ar adran gyflogaeth GOV.UK i gael gwybodaeth am yr hyn sy’n cael ei ystyried yn gollfarn sydd wedi darfod a phryd y bydd collfarnau wedi darfod.

Rhesymau anghymhwyso eraill

Rydych yn anghymwys os ydych:

  • yn cael eich canfod yn euog o anufuddhau i orchymyn neu gyfarwyddyd y Comisiwn Elusennau o dan y Ddeddf Elusennau
  • yn destun gofynion hysbysu o dan ddeddfwriaeth troseddau rhywiol, y cyfeirir atynt fel arfer fel rhai sydd ar y gofrestr troseddau rhyw. Os yw’r gofynion hysbysu hyn yn gymwys i chi, rydych wedi’ch anghymhwyso gan y rheolau anghymhwyso awtomatig, hyd yn oed os yw’ch trosedd wedi darfod
  • yn fethdalwr ar hyn o bryd neu’n ddarostyngedig i gyfyngiadau methdaliad neu orchymyn dros dro, gan gynnwys trefniadau gwirfoddol unigol (IVA) - eithriadau cyfyngedig yn gymwys
  • yn ddarostyngedig i orchymyn rhyddhau o ddyled o dan Ddeddf Ansolfedd 1986, neu orchymyn cyfyngiadau rhyddhau o ddyled, neu orchymyn interim, o dan y Ddeddf honno
  • wedi’ch anghymhwyso rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni - eithriadau cyfyngedig yn gymwys
  • wedi cael eich diswyddo o’r blaen fel ymddiriedolwr, neu fel swyddog, asiant neu weithiwr elusen naill ai gan y Comisiwn Elusennau neu’r Uchel Lys oherwydd camymddygiad neu gamreoli
  • wedi cael eich symud ymaith o swydd rheoli neu reoli elusen yn yr Alban am gamreoli neu gamymddwyn
  • wedi’ch cael yn euog o ddirmyg llys am wneud neu, achosi i wneud, datganiad ffug - eithriadau cyfyngedig yn gymwys
  • yn rhywun dynodedig o dan ddeddfwriaeth gwrthderfysgaeth arbennig

Mae’r rhesymau anghymhwyso a’r eithriadau i’w gweld yn llawn yn tabl rhesymau anghymwyso (ODT, 57.9 KB).

Mae’n bwysig eich bod chi’n edrych ar y disgrifiadau llawn hyn er mwyn penderfynu a ydych wedi’ch anghymhwyso, ac i weld yr eithriadau cyfyngedig sy’n gymwys. Efallai y bydd angen cymorth gan gynghorydd cyfreithiol arnoch er mwyn penderfynu a yw’ch amgylchiadau wedi’u cynnwys o fewn y rhesymau anghymhwyso.

Atodiad A: Beth yw trosedd anonestrwydd/twyll

Troseddau yw’r rhain sy’n rhaid yn ôl eu diffiniad gynnwys elfen o anonestrwydd neu dwyll.

Os ydych yn edrych ar y diffiniad cyfreithiol ar gyfer y troseddau hyn, fe welwch y gall rhywun sy’n eu cyflawni ei chael yn euog dim ond os ydynt wedi gweithredu’n anonest neu drwy dwyll, megis achosion profedig o ladrad.

Gall nifer o droseddau gael eu cyflawni trwy ddefnyddio anonestrwydd neu dwyll, ond nid yw hyn yr un fath â throsedd sy’n rhaid cynnwys elfen o anonestrwydd neu dwyll er mwyn ei gyflawni

Er enghraifft, gall rhywun sy’n cyflawni llofruddiaeth ddefnyddio twyll i ddenu dioddefwr i fan arbennig, ond nid oes rhaid defnyddio twyll i brofi’r trosedd o lofruddiaeth.

Mae rhai enghreifftiau o droseddau sy’n cynnwys anonestrwydd neu dwyll yn cynnwys:

  • lladrad
  • twyll trwy gynrychiolydd ffug
  • twyll trwy fethu â datgelu gwybodaeth
  • cael gwasanaethau drwy ddulliau anonest
  • cael eiddo neu wasanaethau trwy dwyll
  • osgoi atebolrwydd trwy dwyll

Mae rhai enghreifftiau o droseddau nad ydynt yn cynnwys anonestrwydd neu dwyll yn cynnwys:

  • osgoi talu trwydded teledu
  • y rhan fwyaf o droseddau moduro
  • ymosod
  • meddu ar gyffuriau dosbarthedig
  • llofruddiaeth
Cyhoeddwyd ar 17 January 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 August 2018 + show all updates
  1. Updated in line with automatic disqualification rules that come into force on the 1 August 2018.

  2. Added a link to sample declarations, which are available in the guidance for charities.

  3. Added a link to the online waiver application form.

  4. First published.