Skip to main content
Canllawiau

Gwneud cais i fod yn weithredwr cymeradwy ar gyfer Swyddfa Gyfnewid Alldiriogaethol

Gwnewch gais i ddod yn weithredwr cymeradwy os ydych chi’n weithredwr dynodedig nad yw’n breswyl yn y DU sy’n rhedeg Swyddfa Gyfnewid Alldiriogaethol ym Mhrydain Fawr.

Beth yw gweithredwr dynodedig

Rydych chi’n weithredwr dynodedig os ydych chi’n weithredwr post cenedlaethol sy’n cyflawni ymrwymiadau’ch llywodraeth o dan gytundebau’r Undeb Post Cyffredinol.

Gallwch weithredu cyfleusterau masnachol, o’r enw Swyddfeydd Cyfnewid Alldiriogaethol (ETOEs), y tu allan i’ch gwlad neu diriogaeth ddynodedig.

Pwy sy’n gorfod cael cymeradwyaeth gan CThEF

Mae’n rhaid i chi gael cymeradwyaeth gan CThEF os ydych chi’n weithredwr dynodedig nad yw’n breswyl yn y DU ac mae’r canlynol i gyd yn berthnasol i chi:

  • rydych o’r tu allan i’r DU
  • rydych eisoes yn rhedeg, neu’n bwriadu dechrau ETOE ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban)
  • rydych yn symud nwyddau allan o’r DU ar ran allforwyr y DU

Mae angen cymeradwyaeth arnoch er mwyn i chi allu gwneud y canlynol:

  • defnyddio ffurflenni CN22 a CN23 i symleiddio’r broses o symud nwyddau
  • allforio nwyddau post heb ddatganiad cryno wrth ymadael
  • allforio nwyddau heb gyfyngiadau hyd at a chan gynnwys gwerth o £1,000 gan ddefnyddio datganiad symlach (datganiad drwy ymddygiad)

Dysgwch ragor am allforio nwyddau (yn agor tudalen Saesneg) sydd â gwerth dros £1,000.

Pwy all wneud cais

Gallwch wneud cais am gymeradwyaeth os ydych chi’n weithredwr dynodedig nad yw’n breswyl yn y DU.

Gallwch hefyd wneud cais ar ran gweithredwr dynodedig nad yw’n breswyl yn y DU os ydych chi’n:

  • is-gwmni yn y DU o’r gweithredwr dynodedig nad yw’n breswyl yn y DU
  • asiant tollau neu gynrychiolydd a awdurdodwyd gan y gweithredwr dynodedig nad yw’n breswyl yn y DU

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen eich rhif EORI arnoch sy’n dechrau gyda GB. Os nad oes gennych rif EORI sy’n dechrau gyda GB, gallwch wneud cais am rif EORI drwy roi rhai manylion sylfaenol i CThEF am eich busnes.

Mae’r rhif hwn yn gweithio fel dynodydd unigryw i’ch cysylltu chi â gweithgarwch tollau a chymeradwyaeth gweithredwr ETOE. Byddwn hefyd yn ei ddefnyddio i gefnogi gwiriadau risg a sicrwydd.

Mae’n rhaid i’r rhif EORI sy’n dechrau gyda GB fod yn enw’r gweithredwr dynodedig nad yw’n breswyl yn y DU. O dan drefniadau’r Undeb Post Cyffredinol, mae ETOEs yn gyfleusterau sy’n cael eu rhedeg gan, neu mewn cysylltiad â gweithredwr dynodedig.

Gallwch wirio a yw rhif EORI yn ddilys.

Fel gweithredwr dynodedig nad yw’n breswyl yn y DU, bydd angen y manylion canlynol arnoch hefyd:

  • enw llawn eich cwmni
  • cyfeiriad eich busnes cofrestredig
  • eich enw masnachu neu enw’r is-gwmni yn y DU, os yw’n berthnasol
  • cyswllt dynodedig ar gyfer materion tollau’r DU, gan gynnwys rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad gohebu drwy’r post
  • eich sefyllfa ariannol, gan gynnwys solfedd a’r gallu i fodloni ymrwymiadau treth a thollau
  • eich systemau cadw cofnodion a TG a ddefnyddir i reoli data post
  • eich dulliau o anfon gwybodaeth am nwyddau sydd â gwerth uchel at CThEF, os yw’n berthnasol
  • eich dulliau o gydymffurfio â safonau negeseuon yr Undeb Post Cyffredinol
  • gwledydd neu diriogaethau rydych wedi’ch dynodi ar eu cyfer o dan drefniadau’r Undeb Post Cyffredinol
  • eich rhif cofrestru TAW, os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW yn y DU
  • Rhif Cofrestru eich Cwmni, os ydych wedi cofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau

Os ydych chi’n gwneud cais ar ran gweithredwr dynodedig nad yw’n breswyl yn y DU, bydd angen i chi hefyd uwchlwytho llythyr o awdurdod gan y gweithredwr dynodedig.

Mae’n rhaid bod y llythyr:

  • wedi’i ysgrifennu ar bapur â phennawd y gweithredwr dynodedig nad yw’n breswyl yn y DU
  • wedi’i lofnodi gan gyfarwyddwr, neu berson sydd â’r awdurdod i weithredu ar ran y gweithredwr dynodedig
  • yn cadarnhau bod y gweithredwr dynodedig yn awdurdodi’r person neu’r sefydliad a enwir i weithredu ar ei ran mewn perthynas â materion ETOE

Gwneud cais ar-lein

Bydd angen i chi ddefnyddio’r naill neu’r llall o’r canlynol:

  • eich manylion mewngofnodi — os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, gallwch eu creu
  • eich cyfeiriad e-bost — cewch god cadarnhau y gallwch ei ddefnyddio i fewngofnodi

Ar ôl mewngofnodi, gallwch gadw’ch cynnydd wrth i chi lenwi’r ffurflen, a dychwelyd yn ddiweddarach i’w chwblhau.

Os ydych chi’n gwneud cais ar ran gweithredwr dynodedig nad yw’n breswyl yn y DU, defnyddiwch fanylion y gweithredwr i lenwi’r ffurflen.

Gwnewch gais nawr

Ar ôl i chi wneud cais

Pan fyddwch chi’n cyflwyno’ch cais, byddwch yn cael e-bost gyda chyfeirnod eich cais.

Pan fyddwn yn dechrau asesu’ch cais, neu os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, byddwn yn cysylltu â chi.

Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn bodloni ein gofynion, byddwn yn gwneud y canlynol:

  • adolygu’r wybodaeth rydych wedi’i rhoi yn eich cais
  • cynnal gwiriadau gan ddefnyddio’r wybodaeth sydd gennym eisoes

Bydd angen i chi wneud cais am gymeradwyaeth safle ar gyfer pob safle rydych chi’n bwriadu ei weithredu fel ETOE ym Mhrydain Fawr.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Gorffennaf 2026

Argraffu'r dudalen hon