Canllawiau

Gwneud cais ar-lein am grant Cynllun Kickstart

Os ydych yn gyflogwr sydd am greu swyddi i bobl ifanc, gallwch wneud cais ar-lein am gyllid fel rhan o Gynllun Kickstart.

This guidance was withdrawn on

Applications for the Kickstart Scheme closed at midday on 17 December 2021.

Check the deadlines for completing other Kickstart Scheme tasks.

Find out about other employment schemes you may be eligible for.

Applies to England, Scotland and Wales

Canllawiau cyflogwyr

Mae ceisiadau i’r Cynllun Kickstart yn cau hanner dydd ar 17 Rhagfyr 2021.

Gwiriwch y dyddiadau cau eraill ar gyfer cwblhau tasgau Cynllun Kickstart.

  1. Darganfyddwch sut mae’r Cynllun Kickstart yn gweithio a gwiriwch a yw’ch sefydliad yn gymwys i wneud cais

  2. Gwnewch gais ar-lein am grant Cynllun Kickstart

  3. Mewngofnodwch i reoli’ch swyddi gwag (dim ond ar gyfer cyflogwyr sydd wedi gwneud cais ar-lein)

  4. Cael pobl ifanc i mewn i swyddi Cynllun Kickstart

  5. Rheoli eich cyllid

Os ydych yn borth Kickstart, gwiriwch y canllawiau ar gyfer pyrth.

Cyn i chi wneud cais

Darganfyddwch sut mae cynllun Kickstart yn gweithio.

Mae angen i chi hefyd wirio a yw’ch sefydliad yn gymwys i wneud cais.

Beth sydd angen i chi ei ddarparu yn ystod y cais ar-lein

Bydd angen:

  • eich cyfeirnod Tŷ Cwmnïau, rhif y Comisiwn Elusennau neu rif Rheoleiddiwr Elusennau Swyddfa’r Alban, os oes gennych un
  • cyfeiriad a manylion cyswllt eich sefydliad
  • manylion y swyddi a’u lleoliad

Mae’r DWP yn cynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy ar bob cyflogwr drwy ddefnyddio teclyn Spotlight Swyddfa’r Cabinet.

Dywedwch wrthym bod eich swyddi yn newydd ac wedi’u creu ar gyfer y cynllun yn unig

Ni ddylai’r swyddi:

  • ddisodli swyddi gwag presennol neu rai sydd wedi’u cynllunio
  • achosi i weithwyr, prentisiaid neu gontractwyr presennol golli gwaith neu leihau eu horiau gwaith

Dywedwch wrthym

  • faint o weithwyr sydd gennych
  • am newidiadau i’ch gweithlu yn ystod y 6 mis diwethaf a pham (er enghraifft diswyddiadau a newidiadau i’r oriau a weithiwyd gan staff presennol)
  • nifer y bobl yr effeithiwyd arnynt gan newidiadau i’ch gweithlu yn ystod y 6 mis diwethaf
  • am y mathau o swyddi, swyddogaethau a chyflog cyfartalog y rhai a ddiswyddwyd neu a ostyngwyd eu horiau yn ystod y 6 mis diwethaf
  • pe byddech yn gallu creu’r swyddi hyn heb gyllid Cynllun Kickstart a pha ffynhonnell ariannu y byddech yn ei ddefnyddio
  • pa recriwtio rydych wedi’i gwblhau, ei ddechrau neu ei oedi yn ystod y 6 mis diwethaf, gan gynnwys pa mor debyg yw neu oedd y swyddi gwag hyn i’r swyddi rydych yn eu creu ar gyfer y Cynllun Kickstart
  • os bydd y swyddi yn debyg i swyddi presennol neu a gynlluniwyd neu’r swyddi a wnaed yn flaenorol gan y rhai a ddiswyddwyd neu gyda llai o oriau gwaith, pam eich bod yn defnyddio cyllid Cynllun Kickstart i greu swyddi tebyg
  • os ydych wedi ymgysylltu ag unrhyw undebau llafur perthnasol ac unrhyw gyngor maent wedi’u rhoi

Sut y byddwch yn cefnogi pobl ifanc i ddod yn fwy cyflogadwy

Dywedwch wrthym:

  • pa gefnogaeth a gynigir (er enghraifft helpu pobl ifanc i ysgrifennu eu CV a pharatoi ar gyfer cyfweliad)
  • pryd y byddwch yn darparu’r gefnogaeth hon (er enghraifft hanner ffordd trwy eu swydd neu tua’r diwedd)
  • sawl awr y bydd yn ei gymryd i ddarparu’r gefnogaeth
  • pwy fydd yn darparu’r gefnogaeth (er enghraifft efallai bod gennych berthynas eisoes â darparwyr hyfforddiant)
  • sut y byddwch yn monitro’r gefnogaeth hon
  • sut y gall y person ifanc ddarparu adborth yn ystod eu swydd ac wedi hynny, a sut y gweithredir ar hyn os bydd angen

Rydych yn cael cyllid o £1,500 fesul swydd ar gyfer costau sefydlu a chefnogaeth. Os oes rhywun arall yn eich helpu i wneud rhywfaint o hyn, bydd rhaid i chi gytuno sut i rannu’r arian hyn.

Gwneud cais ar-lein

Trwy wneud cais ar-lein, byddwch yn:

  • rhoi gwybodaeth i’r DWP am y swyddi yr hoffech eu cynnig
  • cael cyswllt uniongyrchol â DWP ynghylch eich cais
  • rheoli’r cyllid eich hun

Mae ceisiadau i’r Cynllun Kickstart yn cau yn fuan.

Ar ôl hanner dydd, dydd Gwener 17 Rhagfyr 2021 ni fyddwch yn gallu:

  • gwneud cais am grant Cynllun Kickstart newydd
  • ychwanegu mwy o swyddi i gytundeb grant presennol

Byddwn yn prosesu ceisiadau a gyflwynir cyn yr amser hwn neu sydd eisoes ar y gweill.

Dysgwch fwy am gau’r Cynllun Kickstart.

Gwyliwch fideo sy’n eich tywys trwy’r cais ar-lein

Gallwch wneud cais trwy borth Kickstart os byddai’n well gennych i rywun gyflawni’r tasgau hyn ar eich rhan.

Ar ôl i chi wneud cais

Byddwn yn anelu at anfon e-bost atoch gyda phenderfyniad ar y cais o fewn mis.

  1. Byddwn yn e-bostio cytundeb grant atoch sydd yn rhaid i chi ei lofnodi a’i e-bostio yn ôl atom erbyn 11:59pm ar 7 Ionawr 2022. Byddwn hefyd yn gofyn am eich manylion banc ar yr un pryd.

  2. Yna byddwn yn eich gwahodd trwy e-bost i actifadu eich cyfrif ar-lein. Yna byddwch yn mewngofnodi i roi eich manylion swyddi gwag erbyn 11:59pm ar 31 Ionawr 2022.

  3. Bydd eich swyddi gwag yn mynd yn fyw unwaith y byddwn wedi eu cymeradwyo.

  4. Bydd anogwyr gwaith yn y Ganolfan Byd Gwaith yn atgyfeirio pobl ifanc at eich swyddi gwag (‘atgyfeiriadau’) tan 1 Mawrth 2022. Mae atgyfeirio yn cael ei wneud pan fyddwn yn argymell eich swydd wag i ymgeisydd. Nid yw hyn yn gwarantu y bydd yr ymgeisydd yn cyflwyno cais.

  5. Rydych yn cyfweld ymgeiswyr addas sydd wedi gwneud cais.

  6. Rhaid i’r person ifanc ddechrau’r swydd ar neu cyn 31 Mawrth 2022.

  7. Byddwch yn dweud wrthym pryd mae’r person ifanc wedi dechrau erbyn 11:59pm ar 30 Ebrill 2022 fel y gallwn brosesu’r cyllid.

S8. Gallwch ychwanegu mwy o swyddi at eich cytundeb grant presennol tan hanner dydd ar 17 Rhagfyr 2021 os ydynt yn bodloni’r meini prawf swydd.

Gallwch hysbysebu swyddi gwag eich hun, ond rhaid i bob swydd gael cyflwyniad trwy anogwr gwaith DWP i dderbyn cyllid llawn.

Cael help gyda’r broses o wneud cais

Cysylltwch â’ch cyswllt lleol neu genedlaethol Cynllun Kickstart os oes angen help arnoch gyda’r broses o wneud cais.

Cyhoeddwyd ar 13 September 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 November 2021 + show all updates
  1. Added deadlines for completing Kickstart Scheme tasks.

  2. Added information about Kickstart Scheme applications closing on 17 December 2021.

  3. First published.