Gwneud cais am esemptiad rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm os ydych chi wedi’ch cau allan o’r byd digidol
Dysgwch sut i wneud cais am esemptiad rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm os ydych chi’n credu eich bod chi wedi’ch cau allan o’r byd digidol.
Mae cael esemptiad yn golygu na fyddwch chi’n gorfod defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
At ddiben Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, mae rhywun sydd wedi’i gau allan o’r byd digidol yn rhywun nad yw’n rhesymol iddo ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu i gadw cofnodion digidol neu gyflwyno’r cofnodion hyn i CThEF.
Cyn i chi wneud cais, dysgwch ragor am beth yw ystyr bod wedi’ch cau allan o’r byd digidol a gwirio a ddylech chi wneud cais am esemptiad.
Pwy all wneud cais
Gallwch chi wneud cais am esemptiad eich hun.
Gallwch chi wneud cais ar ran rhywun arall os ydych chi’n asiant awdurdodedig, neu ffrind neu aelod o deulu sydd ag awdurdodiad i wneud hynny. Gallwch chi ddysgu sut i gael awdurdodiad yn yr adran ‘Beth sydd ei angen arnoch chi’.
Os oes gennych chi asiant, ffrind neu aelod o deulu sy’n gwneud cais ar eich rhan, bydd yr esemptiad yn dal i fod ar sail eich sefyllfa bersonol chi.
Os bydd eich asiant yn defnyddio meddalwedd sy’n cydweddu i gadw cofnodion digidol a’u cyflwyno i CThEF ar eich rhan, gallwch chi fodloni’r gofynion o ran Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Dylech chi siarad â’ch asiant am hyn, oherwydd efallai ni fydd angen i chi wneud cais am esemptiad.
Pryd i wneud cais
Dylech wneud cais am esemptiad cyn ei fod yn ofynnol i chi, neu’r person sy’n gwneud cais ar eich rhan, ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Nod CThEF yw adolygu’ch cais chi o fewn 28 diwrnod ar ôl i chi ei gyflwyno ef. Efallai y bydd hi’n cymryd yn hirach os na fyddwch chi’n rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnon ni pan fyddwch chi’n gwneud cais.
Dylech chi baratoi ar gyfer defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm tra’ch bod chi’n aros i glywed gennym, rhag ofn i ni wrthod eich cais.
Os oes angen i chi gofrestru i ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o:
- 6 Ebrill 2026 — mae ceisiadau ar agor am esemptiad, a dylech chi wneud cais ymlaen llaw fel ein bod ni’n ystyried eich cais cyn y dyddiad hwn
- 6 Ebrill 2027 — dylech chi wneud cais o haf 2026 ymlaen
- 6 Ebrill 2028 —dylech chi wneud cais o haf 2027 ymlaen
Gallwch chi gael gwybod pryd mae angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar sail eich incwm cymhwysol ar gyfer blwyddyn dreth.
Os ydych chi eisoes wedi cofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o’r blaen a’ch bod chi’n credu eich bod chi nawr wedi’ch cau allan o’r byd digidol oherwydd bod eich amgylchiadau chi wedi newid, dylech chi wneud cais am esemptiad nawr.
Dylech chi barhau i ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm tra’ch bod chi’n aros i glywed gennym, rhag ofn i ni wrthod eich cais.
Os ydych chi wedi cofrestru’n wirfoddol a’ch bod chi’n credu eich bod chi nawr wedi’ch cau allan o’r byd digidol, dysgwch sut mae optio allan o Droi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn adran ‘Os bydd eich amgylchiadau’n newid’ y llawlyfr Defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Beth sydd ei angen arnoch chi
Mae beth sydd ei angen arnoch chi i wneud cais yn dibynnu ar p’un a ydych chi’n gwneud cais ar ran chi eich hun neu ar ran rhywun arall.
Gwneud cais i chi eich hun
Bydd angen y canlynol arnoch chi:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- eich enw a’ch cyfeiriad
- manylion am sut rydych chi’n cyflwyno eich Ffurflenni Treth ar hyn o bryd (gan gynnwys a oes rhywun arall yn eich helpu chi gyda hyn)
- y rheswm dros gredu eich bod chi wedi’ch cau allan o’r byd digidol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth ychwanegol i gefnogi’ch hawliad
- y gallu i roi gwybod i ni p’un a oes gennych chi asiant (er enghraifft, cyfrifydd) a beth bydd yr asiant yn ei wneud ar eich rhan
- y gallu i roi gwybod i ni am unrhyw anghenion ychwanegol sydd gennych chi fel y gallwn ni roi’r cymorth cywir i chi
Gwneud cais ar ran rhywun arall
Os ydych chi’n asiant, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- cael eich awdurdodi i weithredu fel asiant treth ar ran pob cleient
- gwneud cais am bob cleient yn unigol ar sail eu hamgylchiadau personol eu hun
Os ydych chi’n ffrind neu aelod o’r teulu, mae angen awdurdodiad arnon ni, gan y person rydych chi’n gwneud cais ar ei gyfer, cyn i chi wneud cais.
Gall hyn fod yn naill un o’r canlynol:
- awdurdodiad ysgrifenedig sy’n cynnwys llofnod y person ar y llythyr
- awdurdodiad ar lafar dros y ffôn
Dylech chi roi’r awdurdodiad hwn drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt yn nhudalen Treth Incwm, Hunanasesiad a mwy.
Cyn i chi wneud cais ar ran rhywun arall, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n deall amgylchiadau’r person yn llwyr.
I wneud cais ar ei ran, bydd angen y canlynol arnoch chi:
- y gallu i roi gwybod i ni sut rydych chi’n adnabod yr ymgeisydd (er enghraifft, os ydych chi’n asiant, ffrind neu aelod o deulu iddo)
- ei rif Yswiriant Gwladol
- ei enw a’i gyfeiriad
- manylion am sut mae’n cyflwyno ei Ffurflenni Treth ar hyn o bryd (gan gynnwys a oes rhywun arall yn gwneud hyn ar ei ran eisoes)
- y rheswm dros gredu ei fod wedi’i gau allan o’r byd digidol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth ychwanegol i gefnogi ei hawliad
- y gallu i roi gwybod i ni am unrhyw anghenion ychwanegol sydd gan y person rydych chi’n ei gynrychioli fel y gallwn ni roi’r cymorth cywir iddo
Sut i wneud cais
I wneud cais am esemptiad eich hun, neu ar ran rhywun arall, bydd yn rhaid i chi naill ai alw neu ysgrifennu at CThEF gan ddefnyddio’r manylion cyswllt yn nhudalen Treth Incwm, Hunanasesiad a mwy.
Os byddwch chi’n ysgrifennu aton ni, rhowch y teitl ‘Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm — wedi cau allan o’r byd digidol’ ar eich llythyr.
Ar ôl i chi wneud cais
Nod CThEF fydd ymateb o fewn 28 diwrnod ar ôl cael eich cais.
Dylech chi baratoi ar gyfer defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm tra’ch bod chi’n aros i glywed gennym, rhag ofn i ni wrthod eich cais.
Pan fyddwn ni’n adolygu’ch cais, efallai y byddwn ni’n gwneud y canlynol:
- gwirio’r wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi er mwyn cadarnhau ei bod hi’n gywir
- gofyn i chi am ragor o wybodaeth os oes angen rhagor arnon ni
Byddwn ni wedyn yn anfon llythyr atoch chi yn cadarnhau a ydyn ni wedi derbyn eich cais neu beidio, a beth bydd angen i chi ei wneud nesaf.
Os ydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad
Gallwch chi apelio hyd at 30 diwrnod ar ôl y dyddiad sydd ar y llythyr. Os bydd angen rhagor o amser arnoch chi, bydd angen i chi gysylltu â ni yn nhudalen Treth Incwm, Hunanasesiad a mwy i roi gwybod i ni pam.
Mae angen i chi anfon eich apêl yn ysgrifenedig a gwneud y canlynol:
- rhoi’r teitl ‘Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm — wedi cau allan o’r byd digidol’ ar eich llythyr
- ysgrifennu aton ni gan ddefnyddio’r cyfeiriad sydd wedi’i nodi ar eich llythyr o benderfyniad
- anfon unrhyw wybodaeth newydd yr hoffech chi ein bod ni’n ystyried
Dylech chi barhau i baratoi ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm tra’ch bod chi’n aros i glywed am ganlyniad eich apêl.
Os bydd eich amgylchiadau’n newid
Dylech chi roi gwybod i CThEF os bydd eich amgylchiadau’n newid ac nid ydych chi bellach wedi’ch cau allan o’r byd digidol at ddiben Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Bydd y llythyr a gawsoch chi pan oedden ni wedi cadarnhau eich eithriad yn rhoi gwybod i chi beth bydd angen i chi ei wneud.
Cael cymorth ychwanegol
Os yw cyflwr iechyd neu amgylchiadau personol yn ei gwneud hi’n anodd i chi ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein, darllenwch ein harweiniad ar gael help gan CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch chi.