Apelio yn erbyn penderfyniad iawndal gwaed heintiedig
Apêl yn erbyn penderfyniad iawndal gan yr Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig (IBCA).
Trosolwg
Gallwch apelio penderfyniad a wnaed gan yr Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig (IBCA) ynghylch eich cais cynllun iawndal gwaed heintiedig.
Mae apeliadau yn cael eu penderfynu gan y Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant (SSCS), sydd wedi’i gefnogi gan Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF). Mae’r tribiwnlys yn ddiduedd ac yn annibynnol ar y llywodraeth a’r ICBA.
Bydd y tribiwnlys yn gwneud penderfyniad ar ôl adolygu’r holl dystiolaeth a gwrando ar y ddwy ochr. Er enghraifft, gall y tribiwnlys benderfynu:
- bod gennych hawl i iawndal
- bod gennych hawl i swm arall o iawndal
- bod penderfyniad gwreiddiol yr ICBA yn gywir
Cyn i chi apelio
Rhaid i chi ofyn i’r penderfyniad am eich cais gael ei ystyried eto cyn y gallwch apelio – gelwir hyn yn benderfyniad adolygu. Ar ôl yr adolygiad, bydd hysbysiad o benderfyniad yn cael ei anfon atoch gyda chanlyniad yr adolygiad.
Yr hawl i apelio
Os bydd yr hysbysiad o benderfyniad adolygu yn dweud bod gennych yr hawl i apelio, gallwch gychwyn eich apêl.
Os bydd yr hysbysiad o benderfyniad adolygu yn dweud bod gennych yr hawl i apelio, gallwch gychwyn eich hawliad. Fodd bynnag, bydd arnoch angen dweud yn eich apêl pam eich bod yn meddwl bod gennych yr hawl i apelio.
Gallwch gael cymorth cyn ichi apelio.
Sut i apelio
Mae apelio penderfyniad gan yr IBCA yn rhad ac am ddim.
Byddwch angen:
- eich cyfeirnod IBCA
- manylion y cynrychiolydd sy’n helpu gyda’ch apêl (os ydych yn defnyddio un)
- eich hysbysiad o benderfyniad adolygu
Rhaid i chi apelio i’r tribiwnlys o fewn un mis calendr o gael eich hysbysiad o benderfyniad adolygu.
Tribiwnlys annibynnol fydd yn penderfynu ar eich apêl. Pan fyddwch yn apelio, byddant yn gofyn a ydych eisiau:
- mynychu a chymryd rhan yn eich gwrandawiad wyneb yn wyneb, trwy gyswllt fideo neu dros y ffôn
- i’ch apêl gael ei phenderfynu heb i chi fynychu’r gwrandawiad - gelwir hyn hefyd yn ‘wrandawiad ar sail y papurau’
Gofynnir i’r IBCA sut yr hoffent i’r apêl gael ei phenderfynu hefyd.
Gallwch ganfod mwy am y gwrandawiad cyn i chi apelio.
Os yw eich apêl yn hwyr
Os byddwch yn apelio’n hwyrach nac un mis calendr ar ôl derbyn eich hysbysiad o benderfyniad adolygu, bydd arnoch angen esbonio pam.
Os yw eich apêl:
- yn llai na 13 mis yn hwyr, bydd yr IBCA yn ystyried y rhesymau a roddwch - os ydynt yn eu gwrthwynebu, bydd barnwr yn penderfynu p’un a fydd eich apêl yn cael ei symud yn ei blaen neu beidio
- 13 mis neu fwy yn hwyr, bydd barnwr yn penderfynu a all eich apêl fynd yn ei blaen
Apelio ar-lein
Mewngofnodwch i barhau gydag apêl wedi’i chadw
Apelio drwy’r post
I apelio drwy’r post, bydd arnoch angen llenwi ffurflen SSCS8.
Cofrestru cynrychiolydd i helpu gyda’ch apêl
Gallwch enwebu rhywun fel ‘cynrychiolydd’ i’ch helpu gyda’ch apêl. Gall cynrychiolydd:
- eich helpu i gyflwyno eich apêl neu baratoi eich tystiolaeth
- gweithredu ar eich rhan
- rhoi cyngor i chi
Gall unrhyw un fod yn gynrychiolydd, gan gynnwys ffrindiau a theulu.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu dod o hyd i gynrychiolydd trwy lyfrgell leol neu o sefydliad sy’n rhoi cyngor ar geisiadau iawndal gwaed heintiedig.
Bydd gan eich cynrychiolydd ganiatâd i weithredu ar eich rhan, er enghraifft i ymateb i lythyrau. Bydd yr holl wybodaeth am eich apêl yn cael ei hanfon atynt, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth feddygol.
I gofrestru cynrychiolydd, gallwch naill ai:
- enwi eich cynrychiolydd pan fyddwch yn cyflwyno eich apêl
- cofrestru cynrychiolydd ar unrhyw adeg ar ôl i chi gyflwyno eich apêl
Ar ôl i chi wneud apêl
Os yw eich apêl wedi’i derbyn, byddwn yn anfon cadarnhad atoch.
Os byddwn angen mwy o wybodaeth am eich apêl, byddwn yn cysylltu â chi.
Beth fydd yr IBCA yn gwneud pan fyddwch yn apelio
Bydd yr IBCA yn derbyn copi o’ch apêl a bydd yn adolygu:
- eu penderfyniad unwaith eto
- yr wybodaeth a’r dystiolaeth a roesoch
Gall yr IBCA newid eu penderfyniad gwreiddiol ar unrhyw adeg cyn y gwrandawiad. Os digwydd hyn, bydd yr IBCA yn anfon penderfyniad adolygu newydd atoch. Os ydych eisiau apelio’r penderfyniad newydd, bydd arnoch angen cychwyn apêl newydd.
Os bydd yr IBCA yn gwrthwynebu’ch apêl
Gall yr IBCA wrthwynebu’ch apêl oherwydd, er enghraifft:
- mae’n gwrthwynebu penderfyniad nad yw’n cynnwys hawl i apelio
- mae’n hwyr heb reswm da
- nid yw’n cynnwys digon o wybodaeth
- mae’n annhebygol o fod yn llwyddiannus
Os bydd y tribiwnlys yn meddwl gall y gwrthwynebiad fod yn ddilys, byddant yn ysgrifennu atoch er mwyn:
- esbonio pam bod yr ICBA wedi gwrthwynebu’ch apêl
- gofyn i chi ymateb i’r gwrthwynebiad
Yna bydd y barnwr yn adolygu’ch achos ac yn penderfynu a all yr apêl fynd yn ei blaen.
Os na fydd yr IBCA yn gwrthwynebu’ch apêl
Rhaid i’r IBCA ddarparu ymateb yn esbonio pam eu bod wedi gwneud ei penderfyniad gwreiddiol. Bydd eu hymateb yn cynnwys:
- y penderfyniad rydych yn apelio yn ei erbyn
- crynodeb o’r ffeithiau perthnasol
- y rhesymau dros eu penderfyniad
- dyfyniadau o’r gyfraith berthnasol
- copi o’ch ffurflen neu lythyr apêl
- copïau o’r dogfennau perthnasol - er enghraifft, ffurflen hawlio, adroddiadau meddygol a llythyrau
- unrhyw beth yr oedd yr IBCA yn ystyried wrth wneud eu penderfyniad
Mae gan yr IBCA 28 diwrnod o’r dyddiad bu iddynt dderbyn eich apêl i ddarparu ymateb. Fodd bynnag, gall yr IBCA ofyn am estyniad. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn rhoi gwybod ichi.
Bydd yr IBCA yn anfon copi o’u hymateb atoch chi a’ch cynrychiolydd (os oes gennych un), a bydd arnoch angen ei ddarllen.
Os byddwch yn penderfynu parhau gyda’ch apêl, yna byddwn:
- yn trefnu i’ch apêl gael ei wrando
- cysylltu â chi am sut i ddarparu tystiolaeth bellach i’r tribiwnlys cyn y gwrandawiad
Os byddwch yn penderfynu peidio â pharhau gyda’ch apêl, bydd arnoch angen cysylltu â ni yn ysgrifenedig i dynnu’ch apêl yn ôl. Os na fyddwch yn dweud wrthym eich bod eisiau tynnu eich apêl yn ôl, byddwn yn parhau gyda’ch apêl.
Y gwrandawiad
Os bydd arnoch angen cyflwyno unrhyw wybodaeth bellach i gefnogi’ch apêl cyn y gwrandawiad, rhaid i chi ei anfon atom o fewn 28 diwrnod o dderbyn ymateb yr IBCA. Os oes arnoch angen mwy o amser cysylltwch â ni.
Gwrandawiadau y gallwch gymryd rhan ynddynt
Gallwch fynychu a chymryd rhan yn eich gwrandawiad wyneb yn wyneb, trwy gyswllt fideo neu dros y ffôn.
Os ydych eisiau mynychu gwrandawiad wyneb yn wyneb, disgwylir i chi fynychu tribiwnlys ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban). Byddwn yn ceisio sicrhau bod lleoliad y gwrandawiad un ai’r un agosaf at:
- ble rydych chi’n byw
- y lleoliad byddwch yn cyrraedd os ydych yn byw y tu allan i Brydain Fawr
Gallwch ddod o hyd i’ch tribiwnlys agosaf yma.
Os ydych chi eisiau cymryd rhan mewn gwrandawiad trwy gyswllt fideo, bydd arnoch angen darparu eich cyfeiriad e-bost pan fyddwch yn apelio. Yn ystod y gwrandawiad bydd arnoch angen:
- mynediad at gyfrifiadur neu ddyfais symudol sydd â chysylltiad cryf â’r rhyngrwyd
- rhywle tawel a phreifat i siarad
Os ydych chi eisiau cymryd rhan mewn gwrandawiad dros y ffôn, bydd arnoch angen darparu eich rhif ffôn pan fyddwch yn apelio. Yn ystod y gwrandawiad bydd arnoch angen rhywle tawel a phreifat i siarad.
Byddwn yn anfon llythyr atoch yn cadarnhau dyddiad eich gwrandawiad. Byddwch yn cael o leiaf 14 diwrnod o rybudd. Bydd y llythyr yn cynnwys:
- dyddiad ac amser y gwrandawiad
- cyfeiriad y ganolfan wrandawiadau tribiwnlys, a gwybodaeth am y lleoliad a sut i fynd yno
- gwybodaeth am hawlio treuliau
Os oes gennych unrhyw broblemau gyda lleoliad y gwrandawiad, bydd arnoch angen cysylltu â ni.
Yn y gwrandawiad, byddwch yn:
- siarad gerbron y tribiwnlys
- cyflwyno’ch achos
- ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych
Gwrandawiadau na fyddwch yn cymryd rhan ynddynt
Bydd gwrandawiad ar sail y papurau ond yn digwydd os:
- nad oes unrhyw un wedi gofyn am wrandawiad y gallant fynychu a chymryd rhan ynddo
- bod yr holl bartïon yn cytuno iddo
- bod y tribiwnlys yn meddwl eu bod yn gallu penderfynu ar eich apêl heb i chi fynychu a chymryd rhan yn y gwrandawiad
Ni fyddwch yn cael gwybod beth fydd y dyddiad newydd. Ni fyddwch chi na’r IBCA yn mynychu na chymryd rhan yn y gwrandawiad - bydd y tribiwnlys yn dod i benderfyniad ar ben ei hun. Bydd y tribiwnlys yn ystyried:
- yr wybodaeth yn eich apêl
- unrhyw wybodaeth yr ydych wedi’i rhoi
- ymateb yr IBCA i’ch apêl
Byddwch yn derbyn copi o benderfyniad y tribiwnlys drwy’r post.
Gofyn i ohirio’ch gwrandawiad
Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol mae gwrandawiadau yn cael eu gohirio, er enghraifft os ydych yn sâl neu’n methu mynychu am bod gennych apwyntiad arall. Gall y barnwr ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o hyn.
Os yw dyddiad eich gwrandawiad 7 diwrnod neu fwy i ffwrdd ac ni allwch fynychu, cysylltwch â ni yn ysgrifenedig i ofyn i ohirio’ch gwrandawiad. Bydd eich cais yn cael ei anfon at farnwr i’w adolygu.
Os yw dyddiad eich gwrandawiad yn llai na 7 diwrnod i ffwrdd ac ni allwch fynychu, neu os na allwch ysgrifennu atom, mae arnoch angen ffonio’r tribiwnlys. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt y tribiwnlys yma.
Gall y tribiwnlys wrando eich apêl heb i chi fod yno, felly gall y barnwr benderfynu peidio â gohirio eich gwrandawiad.
Cael cymorth
Gallwch gael cymorth a chyngor rhad ac am ddim gan:
Os oes arnoch angen cyngor cyfreithiol, gallwch ddod o hyd i gynghorydd cyfreithiol neu gyfreithiwr.
Os oes arnoch angen cymorth gyda’ch apêl, gallwch gysylltu â llinell gymorth IBCA GLlTEF.
Gall llinell gymorth IBCA GLlTEF ond eich helpu gyda chwblhau eich apêl, ni allant roi cyngor cyfreithiol.
Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu tu allan i’r DU
Rhif ffôn: 0300 303 5170
Siaradwyr Cymraeg: 0300 303 5170
E-bost: ContactIBCAppeals@justice.gov.uk
Yr Alban
Rhif ffôn: 0300 790 6234
E-bost: SSCSA-Glasgow@justice.gov.uk
Cysylltu â ni
Gallwch gysylltu â ni’n ysgrifenedig ynghylch eich apêl neu’ch gwrandawiad.
Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu tu allan i’r DU
HMCTS Infected Blood Compensation Appeals
PO Box 13618
Harlow
CM20 9WX
Yr Alban
HMCTS SSCS Appeals Centre
PO Box 13150
HARLOW
CM20 9TT