Canllawiau

Anfon gwartheg i'w lladd

Yr hyn mae angen ichi ei wneud wrth anfon gwartheg, buail neu fyfflos i ladd-dy.

Applies to England and Wales

Cyn ichi anfon anifeiliaid i’w lladd mewn lladd-dy trwyddedig, rhaid gwneud yn siŵr bod pob anifail:

Heb y rhain, gall anifail gael ei wrthod gan y lladd-dy.

Chewch chi ddim anfon anifeiliaid i ladd-dy os ydyn nhw:

  • heb basport am fod hwnnw wedi cael ei wrthod
  • wedi’u geni cyn 1996

Chaiff yr anifeiliaid hyn ddim mynd i mewn i’r gadwyn fwyd. Darllenwch y canllawiau ar wartheg heb basbortau.

Chewch chi ddim anfon anifeiliaid i’w lladd chwaith os oes gennych chi gyfyngiadau symud ar eich buches, er enghraifft, oherwydd bod twbercwlosis buchol (TB) wedi’i ganfod yn eich buches.

Yr hyn mae angen ichi ei gofnodi a rhoi gwybod amdano

Wrth anfon anifeiliaid i’w lladd mae’n rhaid ichi:

Rhaid ichi gymryd y camau hyn er mwyn i’r gwartheg allu cael eu holrhain. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol er mwyn atal clefydau a chyfyngu clefydau.

Os byddwch yn methu gwneud hyn, gallech weld cyfyngiadau symud yn cael eu gosod ar eich buches, cael llai o daliadau cymhorthdal neu gael eich erlyn.

Gall lladd-dy roi gwybod am y symudiadau oddi ar eich daliad ar eich rhan. Ond fel y ceidwad, chi sy’n dal yn gyfrifol am sicrhau bod GSGP wedi cael yr wybodaeth o fewn y terfynau amser ar gyfer rhoi gwybod am symudiadau.

Cyhoeddwyd ar 6 May 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 November 2022 + show all updates
  1. Updated to include information about when you cannot send cattle to slaughter, the legal requirement to carry out cattle tracing tasks and the consequences for not completing the tasks.

  2. This guidance has been updated to show it no longer applies to Scotland.

  3. First published.